Neidio i'r cynnwys

Y Diliau

Oddi ar Wicipedia
Y Diliau
Enghraifft o:band Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1964 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, canu gwerin, Pop Cymraeg Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Gellir darllen erthygl lawnach ar Wici Porth ar Y Diliau

Grŵp pop-gwerin ysgafn a oedd yn boblogaidd yn yr 1960au a’r 1970au oedd Y Diliau. Ffurfiwyd y grŵp yn 1964. Roedd yr aelodau gwreiddiol, sef Meleri Evans (llais a gitâr), Mair Robbins (née Davies, llais) a Lynwen Jones (llais a gitâr), yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, gyda Meleri Evans yn ferch i’r gwleidydd a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans.

Darlledwyd rhaglen ar y grŵp ar raglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru ar Llun 31 Mai 2021.[1]

Rhyddhawyd record gyntaf Y Diliau dan yr enw syml ‘Caneuon Y Diliau’ ar label Cymreig enwog Qualiton ym 1965.

EP pump trac oedd y record gyntaf, ac fe ryddhawyd cyfres o EPs eraill ganddynt dros y degawd canlynol ar labeli Qualiton, Dryw, Cambrian a Sain. Yna, ym 1978 daeth unig albwm y grŵp, sef Tân neu Haf, ar label Gwerin.

Llwyddodd Y Diliau i recriwtio rhai o fawrion y genedl fel ffans, ac ar glawr eu pedwaredd record, i label Dryw yn 1970, dywedodd Ryan Davies iddo gael ei swyno mewn cyngerdd yn Llundain gan grŵp y Womenfolk, ac na “chlywodd leisiau yn asio mor berffaith i’w gilydd” a chredai na chlywai hynny fyth chwaith, ond yna clywodd Y Diliau."[2]

Roedd y Diliau yn brysur iawn yn perfformio ar draws Cymru gan gynnwys cyngerdd fawr enwog 'Pinaclau Pop' a gynhadliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 i godi arian i Eisteddfod Genedlaeth yr Urdd, Aberystwyth 1969 ynghŷd a pherfformiwyr adnabyddus eraill bu'n perffordmio fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai, Aled a Reg, Y Pelydrau, Y Cwiltiaid, Mari Griffith a'r Derwyddon i gynulleidfa o 3,000 o bobl gyda Ryan Davies yn arwain.[3]

Roedd seren byd rygbi’r 70au, Barry John, hefyd yn hoff iawn o’r Diliau ac ef fu’n eu canmol ar glawr eu record yn 1972, gan ddweud mai “un o bleserau mawr bywyd yw eistedd, ymlacio ac ymollwng i swyn a chyfaredd eu cynghanedd…”[2]

Bu iddynt ymddangos ar raglenni cerddoriaeth boblogaidd Gymraeg fel Hob y Deri Dando, a Disc a Dawn yn yr 1960au ac eraill yn yr 1970au.

Casgliad Goreuon y Diliau

[golygu | golygu cod]

Ar 21 Mai 2021 rhyddhau casgliad cyflawn Y Diliau ar ffurf digidol gan Recordiau Sain o'r enw 'Y Diliau y Casgliad Cyflawn The Complete Collection'.[2]

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Caneuon y Diliau [EP] (Recordiau Qualiton QEP4043, [1966])
  • Dwli ar y Diliau [EP] (Qualiton QEP4051, [1966])
  • Ambell Dro [EP] (Recordiau Cambrian CEP436, 1969)
  • Rho Dy Law [EP] (Recordiau'r Dryw WRE1081, 1970)
  • Daeth Dei yn ôl [EP] (Dryw WRE1096, 1970)
  • Rebel [EP] (Dryw WSP2007, 1971)
  • ’72 [EP] (Dryw WRE1121, 1972)
  • Blas ar y Diliau [EP] (Sain 35, 1973)
  • Tân Neu Haf (Gwerin SYWM216, 1979)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Sgwrs efo aelodau Y Diliau, Meleri, Gaynor, Lynwen a Mair; hefyd Chris Merrick Hughes, drymar Adam & The Ants yn trafod ei gysylltiadau Cymreig". BBC Radio Cymru. 31 Mai 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Rhyddhau casgliad cyflawn Y Diliau". Y Selar. 27 Mai 201.
  3. "'Pinaclau Pop' - Robat Gruffudd (1969)". Tudalen Facebook Y Lolfa. 19 Gorffennaf 2016.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato