Annie Lennox

Oddi ar Wicipedia
Annie Lennox
Ganwyd25 Rhagfyr 1954 Edit this on Wikidata
Aberdeen Edit this on Wikidata
Label recordio19 Recordings, Arista Records, Decca Records, RCA Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon, artist recordio, music video director, canwr-gyfansoddwr, actifydd HIV/AIDS Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, y don newydd, cerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Math o laiscontralto Edit this on Wikidata
PriodMitchell Besser Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Livingstone Medal, Honorary Fellow of the Royal Society of Edinburgh Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.annielennox.com Edit this on Wikidata

Mae Annie Lennox (ganwyd 25 Rhagfyr 1954) yn gantores roc o'r Alban a anwyd yn Aberdeen. Dangosodd allu cerddorol pan yn ifanc iawn ac yn hwyrach, astudiodd cerddoriaeth glasurol yn Academi Frenhinol Gerddorol yn Llundain. Dechreuodd ei gyrfa recordio fel aelod o'r band pop Prydeinig, The Tourists, ac yn ddiweddarach, ffurfiodd y ddeuawd pop Eurythmics gyda chyn-aelod y band David A. Stewart. Daeth y grŵp i amlygrwydd yn ystod y 1980au gyda senglau fel "Sweet Dreams (Are Made of This)" a "Here Comes the Rain Again".

Yn ystod y 1990au, dechreuodd Lennox ar yrfa fel cantores solo gyda'i halbwm gyntaf "Diva" (1992), a gynhyrchodd y senglau llwyddiannus "Why" a "Walking on Broken Glass". Yn 2004, enillodd Wobr Golden Globe a Gwobr yr Academi a, y Gân Wreiddiol Orau gyda "Into the West", a gafodd ei ysgrifennu'n wreiddiol fel trac sain i'r ffilm The Lord of the Rings: The Return of the King. Ar ôl iddi ryddhau eu phedwaredd albwm stiwdio sef "Songs of Mass Destruction" (2007), rhyddhaodd Lennox ei halbwm gyntaf o gasgliad o ganeuon o'r enw "The Annie Lennox Collection" yn 2009.

Yn ogystal â'i gyrfa fel cantores, mae Lennox hefyd yn ymgyrchydd gwleidyddol a chymdeithasol, gan arwain digwyddiadau fel y rali yn Llundain yn erbyn rhyfel Llain Gaza ar y 3ydd o Ionawr, 2009. Roedd hi hefyd wedi gwrthwynebu bod cân yr Eurythmics o 1999, "I Saved the World Today" wedi cael ei defnyddio heb ganiatad mewn darllediad etholiadol gan Weinidog Tramor Israel, Tzipi Livni.


Baner yr AlbanEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Albanwr neu Albanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.