The Lord of the Rings: The Return of the King (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
The Lord of the Rings:
The Return of the King

Poster y ffilm
Cyfarwyddwr Peter Jackson
Cynhyrchydd Peter Jackson
Fran Walsh
Barrie M. Osborne
Tim Sanders
Ysgrifennwr J. R. R. Tolkien
Addaswr Fran Walsh
Phillippa Boyens
Peter Jackson
Serennu Elijah Wood
Ian McKellen
Viggo Mortensen
Sean Astin
Dominic Monaghan
Billy Boyd
Orlando Bloom
John Rhys-Davies
Andy Serkis
Liv Tyler
Hugo Weaving
David Wenham
Miranda Otto
Bernard Hill
Karl Urban
John Noble
Brad Dourif
Christopher Lee
Ian Holm
Cate Blanchett
Cerddoriaeth Howard Shore
Dylunio
Cwmni cynhyrchu New Line Cinema
Dyddiad rhyddhau 17 Rhagfyr 2003
Amser rhedeg 200 munud
Gwlad Seland Newydd
Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Sindarin
Rhagflaenydd The Lord of the Rings: The Two Towers
(Saesneg) Proffil IMDb

Y drydedd ffilm ffantasi o 2003 yng nghyfres The Lord of the Rings gan J. R. R. Tolkien, sy'n serennu Elijah Wood ac Ian McKellen, yw The Lord of the Rings: The Return of the King.

Wrth i Sauron lawnsio ei ymdrechion olaf i gipio'r Ddaear-ganol, mae Gandalf y Dewin a Théoden Brenin Rohan yn galw eu lluoedd ynghyd er mwyn ceisio amddiffyn prifddinas Gondor, Minas Tirith o'r bygythiad sydd ar y gorwel. Yn y pen draw, cymer Aragon orsedd Gondor a galwa ar fyddin o ysbrydion i'w gynothwyo i drechu Sauron. Sylweddolant yn y diwedd na allant ennill, hyd yn oed gyda holl rym eu byddin; dibynnant felly ar yr Hobbits, Frodo a Sam, sy'n cael eu hwynebu gan faich y Fodrwy a brad Gollum. Cyrhaeddant Mordor, gyda'r nod o ddinistrio'r Fodrwy One ym Mynydd Doom

Rhyddhawyd y ffilm ar y 17eg o Ragfyr, 2003, a daeth The Lord of the Rings: The Return of the King yn un o lwyddiannau mwyaf y swyddfa docynnau erioed. Enillodd unarddeg o Wobrau'r Academi, sef yr un nifer o wobrau a Titanic a Ben Hur. Enillodd Wobr yr Academi am y Ffilm Orau, yr unig dro erioed i ffilm ffantasi wneud hynny. Dyma'r ffilm a wnaeth yr ail fwyaf o arian erioed, tu ôl Titanic, gan wneud $1.12 biliwn yn fyd-eang.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]