Golden Globes
(Ailgyfeiriad oddi wrth Golden Globe)
Jump to navigation
Jump to search
Mae Gwobrau'r Golden Globe yn wobrau Americanaidd am ffilmiau a rhaglenni teledu. Caiff y gwobrau eu cyflwyno'n flynyddol mewn swper ffurfiol. Mae'r gwobrau wedi cael eu cynnal gan yr Hollywood Foreign Press Association er mwyn codi arian i achosion da ers 1944. Ystyrir y gwobrau fel rhan amlwg o "dymor gwobrwyo"'r diwydiant ffilm sy'n cyrraedd uchafbwynt bob blwyddyn gyda'r Oscars a'r Gwobrau Cymdeithas yr Actorion Sgrîn (Screen Actors Guild Awards).