Neuadd Brangwyn
Gwedd
| Math | neuadd gyngerdd |
|---|---|
| Agoriad swyddogol | 23 Hydref 1934 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Abertawe |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.613742°N 3.960181°W |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Mae Neuadd y Brangwyn yn neuadd gyngerdd yn Abertawe. Cafodd ei henwi ar ôl yr artist Frank Brangwyn, ac arddangosir ei "baneli" enwog (a oedd fod mynd i Dŷ'r Arglwyddi) yno.
Mae Neuadd y Brangwyn yn rhan o adeilad Guildhall Abertawe, a chaiff ei ddefnyddio am seremonïau gwobrwyo a digwyddiadau cymdeithasol yn ogystal â chyngherddau cerddoriaeth clasurol a cherddoriaeth roc. Ymysg y dathliadau a gynhelir yn Neuadd y Brangwyn mae dathliadau'r flwyddyn Newydd Tsieineaidd blynyddol (ar gyfer cymuned Tsieineaidd Abertawe) a seremonïau graddio myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn defnyddio'r lleoliad yn rheolaidd pan yn perfformio yn Abertawe.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2009-02-26 yn y Peiriant Wayback
