Frank Brangwyn
Frank Brangwyn | |
---|---|
Frank Brangwyn yn 1920 | |
Ffugenw | Brangwyn, Frank William |
Ganwyd | 12 Mai 1867, 13 Mai 1867 Brugge |
Bu farw | 11 Mehefin 1956 Ditchling |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd, ffotograffydd, cynllunydd, gwneuthurwr printiau, crefftwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Masnach ar y Traeth |
Mudiad | y Mudiad Celf a Chrefft |
Tad | William Curtis Brangwyn |
Gwobr/au | Grand Officer of the Order of Leopold II, Medal Albert, Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Marchog Faglor |
Arlunydd Cymreig-Seisnig oedd Syr Frank William Brangwyn (13 Mai 1867 – 11 Mehefin 1956), y cyfeirir ato gan amlaf fel Frank Brangwyn.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Brugge, Gwlad Belg, lle symudodd ei dad wedi iddo ennill cystadleuaeth a drefnwyd gan y "Belgian Guild of St Thomas and St Luke" i ddylunio eglwys plwyf. Cofrestrwyd ei enedigaeth dan yr enw Guillaume François Brangwyn, ond adnabuwyd ef fel Frank. Ym 1874 dychwelodd y teulu i Loegr. Priododd Lucy Ray ym 1896, ond bu farw hi'n ddi-blant ym 1924. Bu i Brangwyn brydlesu Temple Lodge, 51 Queen Street, Hammersmith o 1900 hyd 1937/38 a prynodd The Jointure, Ditchling, Sussex ym 1918. Cafodd ei wneud yn Farchog ym 1941. Bu farw ar 11 Mehefin 1956 yn ei gartref yn Sussex.[1]
Ym 1925, cafodd Brangwyn gomisiwn ar gyfer yr Oriel Frenhinol, Tŷ'r Arglwyddi. Rhoddwyd y paneli yr Ymerodraeth Brydeinig i Neuadd y Ddinas Abertawe (Neuadd Brangwyn) ym 1934.
Yn 1936 cyflwynodd Brangwyn dros 400 o weithiau i Bruges, sydd wedi eu cartrefu yn Amgueddfa Tŷ Arents heddiw. Diolchodd Brenin Gwlad Belg gan wneud Brangwyn yn Swyddog Mawreddog yn Urdd Leopold II, a gwnaeth Bruges ef yn Citoyen d'Honneur de Bruges (dim ond y trydydd tro y gwobrwywyd yr anrhydedd hon).[2]
-
Mosäig gan Frank Brangwyn yn Eglwys Sant Aidan, Leeds, gan ddangos Sant Aidan gyda'i ddisgyblion
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Oxford Dictionary of National Biography
- ↑ Libby Horner, Frank Brangwyn: A Mission to Decorate Life (The Fine Art Society & Liss Fine Art, 2006), t. 238