Ardalydd

Oddi ar Wicipedia
Ardalydd
Enghraifft o'r canlynolteitl bonheddig Edit this on Wikidata
Mathseigneur Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tŵr Marcwis (Ardalydd 1af Môn), Llanfairpwll

Uchelwr a'i safle rhwng dug ac iarll yw ardalydd[1] neu weithiau marcwis (Saesneg: Marquess). Gelwir ei wraig yn ardalyddes.

Ystyr[golygu | golygu cod]

Ystyr y teitl yn y Gymraeg yw swyddog neu uchelwr sydd a'r cyfrifoldeb i amddiffyn ardal arbennig. Mae'r teitl i'w cael ym Mrut y Tywysogion [1][2]. Mae'r teitl yn Saesneg yn tarddu o'r un gwreiddyn a'r term mers (ffin / march yn Saesneg). Y gwahaniaeth tybiedig yn y bendefigaeth Ewropeaidd yw bod Cownt (teitl sydd ddim ar gael ym mhendefigaeth Lloegr) yn gyfrifol am weinyddu comte (ardal gweinyddol) a bod Marcwis yn gyfrifol am amddiffyn ei ffiniau. Er hynny nid oedd Arglwyddi'r Mers yn defnyddio'r teitl Ardalydd.

William Salesbury yn ei eiriadur A Dictionary in Englyshe and Welshe (1547) oedd y cyntaf i ddefnyddio'r hen deitl Cymraeg Ardalydd fel cyfieithiad o'r teitl Saesneg Marquess.[1]

Ardalyddion Cymru[golygu | golygu cod]

Tri ardalydd sydd a'u teitlau yn deillio o Gymru:

  • Ardalydd Môn, teitl a roddwyd gyntaf i Henry William Paget ym 1815 [3]
  • Ardalydd y Fenni, teitl a roddwyd gyntaf i William Nevill ym 1886 [4]
  • Ardalydd Aberdaugleddau, teitl a roddwyd gyntaf i'r tywysog Louis o Battenberg (Mountbatton) ym 1917[5]

Cyfarchiad[golygu | golygu cod]

Yn ôl arfer parch pendefig dylid cyfeirio at Ardalydd fel Y Mwyaf Anrhydeddus a'i chyfarch fel Eich Anrhydedd Fwyaf [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  ardalydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 23 Mehefin 2017.
  2. Thomas Jones, gol. Brut y Tywysogion: Peniarth MS. 20 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1952)
  3.  "Anglesey, Henry William Paget, 1st Marquess of" . Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co. 1885–1900.
  4. Cokayne, George E. (1910). Gibbs, Vicary, ed. The complete peerage of England, Scotland, Ireland, Great Britain and the United Kingdom, extant, extinct, or dormant. I, Ab-Adam to Basing. London: St. Catherine Press.
  5. Cokayne, G.E. (1940), The Complete Peerage, revised, enlarged and edited by Doubleday, H.A. and Howard de Walden, Lord, London: St Catherine Press, vol. XIII tud. 260
  6. "Marquess and Marchioness". Debrett's. n.d. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 22 Medi 2014. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)