A Dictionary in Englyshe and Welshe

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Teitl A Dictionary in Englyshe and Welshe Edit this on Wikidata
Awdur William Salesbury Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi 1547 Edit this on Wikidata
Dynodwyr


Geiriadur SaesnegCymraeg gan William Salesbury yw A Dictionary in Englyshe and Welshe, a gyhoeddwyd yn 1547.[1] Mae'n un o'r llyfrau printiedig cynharaf yn Gymraeg.[2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Teitl llawn y llyfr yw A Dictionary in Englyshe and Welshe moche neccessary to all suche Welshemen as will spedly learne the englyshe tongue.... Ar ddechrau'r geiriadur ceir cyfarchiad Saesneg i'r brenin Harri VIII sy'n cael ei ddilyn gan anerchiad yn Gymraeg i'r Cymry a thraethawd i esbonio ansawdd a nodweddion y llythrennau Saesneg. Wedyn ceir y brif adran o eiriau Saesneg gyda chyfystyron Cymraeg.[1]

Bwriad Salesbury[golygu | golygu cod y dudalen]

Collfarnwyd Salesbury gan rai am iddo ddweud yn ei anerchiad i Harri VIII ei bod "yn iawn ac yn ddymunol" fod holl ddeiliaid Coron Lloegr yn siarad iaith gyffredin, sef y Saesneg. Ond ni ddywedodd o gwbl - fel rhai eraill - y dylid lladd yr iaith Gymraeg; agwedd Salesbury oedd mai da o beth oedd i'r Cymry gael deall Saesneg ond hynny'n ychwanegol at eu priod iaith eu hunain, sef y Gymraeg. Bu'n ddiwyd yn ei waith o hyrwyddo ac ymgeledd y Gymraeg yn ei oes.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944), tud. 157.
  2. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944), tud. 171.
  3. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944), tud. 165.