Christopher Wren

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Christopher Wren
Christopher Wren by Godfrey Kneller 1711.jpg
Ganwyd 20 Hydref 1632 Edit this on Wikidata
East Knoyle Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Mawrth 1723, 25 Chwefror 1723 Edit this on Wikidata (90 oed)
Hampton Court Castle Edit this on Wikidata
Man preswyl Rhydychen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Teyrnas Lloegr, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Pensaer, seryddwr, Mathemategydd, ffisegydd, anatomydd, academydd, Gwleidydd, cynlluniwr trefol Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus am St Clement Danes, All-Hallows-the-Great, Marlborough House, St Mary Aldermary Edit this on Wikidata
Gwaith nodedig St Clement Danes, All-Hallows-the-Great, Marlborough House, St Mary Aldermary Edit this on Wikidata
Tad Christopher Wren Edit this on Wikidata
Plant Christopher Wren Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog Fachellor Edit this on Wikidata

Pensaer enwog oedd Syr Christopher Wren (20 Hydref 163225 Chwefror 1723). Ei waith enwocaf yw Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain. Cynlluniodd oddeutu 52 o eglwysi yn Ninas Llundain yn dilyn Tân Mawr Llundain yn 1666, a chaiff ei gyfrif ymhlith pensaeri mwyaf Lloegr.[1]

Ystyrir y Coleg Morwrol Brenhinol, Greenwich hefyd ymhlith ei waith enwocaf a Phalas Hampton Court.

Fe'i traethwyd mewn Lladin a gwaith Aristoteles ym Mhrifysgol Rhydychen lle astudiodd hefyd anatomeg, seryddiaeth, mathemateg ac, wrth gwrs, pensaerniaeth. Canmolwyd ei waith gwyddonol gan Isaac Newton a Blaise Pascal.

Plentyndod[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn East Knoyle yn Wiltshire, yn unig fab a oroesodd ei blentyndod; roedd ei dad o'r un enw: Christopher Wren (1589–1658) yn offeiriad ac enw ei fam oedd Mary Cox cyn iddi briodi. Pan aned Christopher ar 20 Hydref 1632 (386 blynedd yn ôl), roedd ei dad yn offeiriad yn East Knoyle, cyn iddo gael ei ddyrchafu'n Ddeon Windsor yn 1635. Pan fu farw tad ei fam, etifeddodd y teulu cryn dipyn o arian.[2]

Fe'i addysgwyd gartref gan ei dad a chan diwtor preifat. Ar 25 Mehefin 1650, cychwynodd ei addysg yng Ngholeg Wadham, Rhydychen.

Rhai adeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.