Buddug (Boudica)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Engrafiad o ddarlun dychmygol (arlunydd anhysbys) o Fuddug, â'i merched yn ei hymyl, yn annerch ei byddin (o olygiad Rhys Gwesyn Jones o Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans, tua 1850)

Brenhines arwrol llwyth Celtaidd yr Iceni, a flodeuai yn y ganrif gyntaf yn ne-ddwyrain Lloegr, oedd Buddug (hefyd Boudica, Boudicca neu Boadicea).

Roedd Britannia, y rhan o Brydain a oedd dan reolaeth Rhufain, yn cael ei llywodraethu gan y procurator Rhufeinig llygredig Catus yn enw y llywodraethwr Suetonius Paulinus, a oedd yng ngogledd Cymru yn brwydro yn erbyn y derwyddon ym Môn. Pan fu farw Prasutagas, gŵr Buddug, dechreuodd Catus anrheithio yr Iceni a'u tiroedd.

Yn O.C. 61 cipiodd Catus Fuddug a'i ddwy ferch ifanc a'u fflangellu yn gyhoeddus ac yna eu treisio. Mewn canlyniad cododd yr Iceni mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Dan arweiniad Buddug, a oedd yn rhyfelwraig ddewr, gorchfygodd yr Iceni y nawfed lleng, Legio IX Hispana. Aethant yn eu blaen i gipio Verulamium (St Albans), y brifddinas Rufeinig ar y pryd Camelodunum (Colchester), ynghyd â porthladd Londinium (Llundain).

Brysiodd Suetonius Paulinus a'i fyddin yn ôl o Fôn. Roedd ganddo fyddin o tua deng mil o wŷr: Legio XIV Gemina, rhan o Legio XX Valeria Victrix a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger High Cross ar Stryd Watling a bu brwydr mawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran eu nifer roedd y llengwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.

Yn y 18fed ganrif, dan ddylanwad Rhamantiaeth a'r diddordeb newydd mewn popeth Celtaidd, darganfuwyd Buddug o'r newydd a thyfodd yn ffigwr arwrol poblogaidd. Ceir pennod arbennig o ddiddorol amdani yn Drych y Prif Oesoedd (1716 a 1740), llyfr hanes poblogaidd hynod a dylanwadol Theophilus Evans. Mabwysiadwyd Buddug gan y Saeson dan yr enw Boadicea yn oes Fictoria (Buddug arall) fel math o arwres genedlaethol Brydeinig.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Ian Andrews, Boudicca's Revolt (Llundain, 1972)
  • Graham Webster, Boudicca: The British Revolt Against Rome (Llundain, 1978)