Llys y Goron Caerdydd
Gwedd
| Math | Llys y Goron |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Parc Cathays, Castell, Caerdydd |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 13 metr |
| Cyfesurynnau | 51.4846°N 3.1802°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Llys barn ac adeilad rhestredig Gradd I yw Llys y Goron Caerdydd. Saif ym Mharc Cathays, canolfan ddinesig y brifddinas. Enillwyd y gystadleuaeth i'w gynllunio gan y penseiri Lanchester, Vaughan a Rickards ym 1897, ac fe'i adeiladwyd mewn arddull Baróc adfywiedig o 1901 i 1904. Cynlluniwyd yr llys ar y cyd â Neuadd y Ddinas, ac mae ffasâd deheuol y ddau adeilad bron yn unfath; y prif wahaniaeth yw bod mynedfa'r llys wedi'i osod ar yr ochr ddwyreiniol ar echel gyda thŵr cloc Neuadd y Ddinas. Mae cerfluniau pensaernïol y llys yn cyfateb i'r rheiny ar Neuadd y Ddinas hefyd. Saif cerflun o'r barnwr Gwilym Williams o Feisgyn, gwaith gan Syr William Goscombe John yn dyddio o 1906–10, y tu allan i'r llys ar ochr Boulevard de Nantes.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Y llys o Boulevard de Nantes
- Alegori o Fasnach a Diwydiant gan Paul Raphael Montford
- Cerflun Gwilym Williams y tu allan i'r llys
- Alegori o Wyddoniaeth ac Addysg gan Donald McGill
