Y Deml Heddwch

Oddi ar Wicipedia
y Deml Heddwch
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Tachwedd 1938 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadParc Cathays, Castell, Caerdydd, Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCastell, Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr12.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.487323°N 3.183252°W Edit this on Wikidata
Cod postCF10 3AP Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Adeilad rhestredig Gradd II ym Mharc Cathays, canolfan ddinesig Caerdydd, yw'r Deml Heddwch ac Iechyd. Mae pwrpas yr adeilad yn adlewyrchiad o ddau ddiddordeb pennaf ei sylfaenydd, yr Arglwydd David Davies, sef "yr ymgyrch Gymreig yn erbyn y darfodedigaeth... a'r groesgad dros heddwch cydwladol".[1]

Ar ei hagor ym 1938, gan fam a oedd wedi colli ei phlant yn y Rhyfel Byd Cyntaf,[2] roedd y Deml Heddwch yn bencadlys i ddau sefydliad a grëwyd yn rhannol gan yr Arglwydd Davies: cangen Cymru Undeb Cynghrair y Cenhedloedd a Chymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru'r Brenin Edward VII (sefydliad ar gyfer trin y diciâu). Er bod y rhain wedi darfod erbyn hyn, mae'r adeilad bellach yn gartref i ddau sefydliad arall ag amcanion sy'n gysylltiedig â heddwch ac iechyd, sef Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru[3] a Iechyd Cyhoeddus Cymru, un o ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.[4]

Y pensaer Percy Thomas a gynlluniodd y Deml Heddwch, mewn arddull glasurol syml. Noda sawl awdur yr eironi fod yr arddull yn un debyg i bensaernïaeth Ffasgaidd yr Almaen a'r Eidal yn y 1930au.[2][5]

Ar 4 Tachwedd 1967 ffrwydrodd bom y tu allan i'r Deml Heddwch, bom a blannwyd gan Fudiad Amddiffyn Cymru. Protest oedd hyn yn erbyn cyfarfod mewn adeilad gerllaw i drefnu Arwisgiad Tywysog Cymru; amserwyd y taniad fel na fyddai neb yn cael ei anafu.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Davies, Gwilym. Davies, David (1880–1944), y barwn Davies cyntaf. Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
  2. 2.0 2.1 Hilling, John B. (1973). Cardiff and the Valleys: Architecture and townscape. Llundain: Lund Humphries. tt. 159–60.CS1 maint: ref=harv (link)
  3.  Hanes y Deml. Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
  4.  Iechyd Cyhoeddus Cymru. Y Deml Heddwch. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
  5. (Saesneg) Temple of Peace & Health, Castle. British Listed Buildings. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
  6. (Saesneg) Matthews, Tom (23 Tachwedd 2013). The bombing of the Temple of Peace. Cardiff Past. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]