Ynys Portland

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ynys Portland
Newgrounds viewpoint chesil beach and fortuneswell dorset.jpg
Math tied island Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Portland, Dorset
Daearyddiaeth
Sir Dorset
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 11.5 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr Udd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 50.55°N 2.44°W Edit this on Wikidata
Cod OS SY690721 Edit this on Wikidata
Cod post DT5 Edit this on Wikidata
Deunydd calchfaen Edit this on Wikidata

Ynys oddi ar arfordir o Dorset, De-orllewin Lloegr, ar ei bwynt mwyaf deheuol, yw Ynys Portland (Saesneg: Isle of Portland). Mae'n cael ei ymuno â'r tir mawr gan draeth graeanog 29 km (18 milltir) o hyd, sef Traeth Chesil.

Mae ganddi arwynebedd o tua 12 km² – tua 6 km (4 milltir) o hyd a 2.7 km (1.7 milltir) o led. Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Portland, Dorset. Mae ei haneddiadau yn cynnwys Castletown, Chiswell, Easton, Fortuneswell, The Grove, Southwell a Weston.

Mae'r ynys, sy'n sefyll ar ganol yr Arfordir Jwrasig, yn cael ei ffurfio o galchfaen. Mae Carreg Portland yn uchel ei barch fel carreg adeiladu, ac mae sawl chwarel ar yr ynys.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Dorset.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Dorset. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato