Heinrich Rudolf Hertz
Gwedd
| Heinrich Rudolf Hertz | |
|---|---|
| Ganwyd | 22 Chwefror 1857 Hamburg |
| Bu farw | 1 Ionawr 1894 o sepsis Bonn |
| Dinasyddiaeth | Hamburg |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor |
|
| Galwedigaeth | ffisegydd, athronydd, dyfeisiwr, academydd |
| Cyflogwr |
|
| Tad | Gustav Ferdinand Hertz |
| Priod | Elisabeth Hertz |
| Plant | Mathilde Carmen Hertz, Johanna Hertz |
| Gwobr/au | Medal Rumford, Medal Matteucci, La Caze Prize of the Academy of Sciences, Bressa Prize, CQ Amateur Radio Hall of Fame |
| llofnod | |
Ffisegydd o'r Almaen oedd Heinrich Rudolf Hertz (22 Chwefror 1857 – 1 Ionawr 1894). Hertz oedd y gwyddonydd cyntaf i brofi'n sicr bod y tonnau electromagnetig wedi'u rhagweld gan hafaliadau electromagneteg James Clerk Maxwell yn bodoli.
Er anrhydedd iddo, yn y 20g enwyd yr uned amledd, y "hertz", ar ei ôl.
Ganwydd Hertz yn Hamburg ym 1857. Astudiodd wyddoniaeth a pheirianneg yn Dresden, München a Berlin. Cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Berlin ym 1880 ac wedi hynny arhosodd yno am dair blynedd yn gynorthwywr i Hermann von Helmholtz. Dysgodd a pharhaodd i wneud ymchwil ym mhrifysgolion Kiel, Karlsruhe a Bonn.[1]
Bu farw yn 36 oed yn ystod llawdriniaeth i drin salwch cronig.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Biography: Heinrich Rudolf Hertz". MacTutor History of Mathematics archive. Cyrchwyd 2 February 2013.