Fred West

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Fred West
Ganwyd 29 Medi 1941 Edit this on Wikidata
Much Marcle Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Ionawr 1995 Edit this on Wikidata (53 oed)
Achos: mygu Edit this on Wikidata
HM Prison Birmingham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Llofrudd cyfresol Edit this on Wikidata
Priod Rosemary West Edit this on Wikidata

Llofrudd cyfresol Seisnig oedd Frederick Walter Stephen West (29 Medi 19411 Ionawr 1995).[1] Ynghyd â'i ail wraig Rosemary West, arteithiodd a threisiodd nifer o ferched a gwragedd ifainc, gan lofruddio o leiaf 11 ohonynt rhwng 1967 ac 1987. Ymysg y merched a lofruddiwyd roedd aelodau o'i deulu ei hun. Digwyddodd nifer o'r llofruddiaethau o amgylch dinas Caerloyw, yn 25 Heol Midland ac yn hwyrach ar 25 Stryd Cromwell, gyda nifer o'r cyrff yn cael eu claddu yn neu'n agos i'r cartrefi hyn.

Llofruddiodd Fred o leiaf dau berson cyn dechrau cydweithio â Rose, tra bod Rose wedi llofruddio llysferch Fred (merch fiolegol ei wraig gyntaf) pan yr oedd ef yn y carchar am ddwyn. Digwyddodd y mwyafrif o lofuddiaethau rhwng Mai 1973 ac Awst 1979, yn eu cartref yn 25 Stryd Cromwell.

Arestiwyd y ddau a dygwyd achos yn eu herbyn yn 1994. Cymrodd Fred West ei fywyd ei hun cyn dechrau'r achos llys, ond charcharwyd Rose West am oes yn Nhachwedd 1995, wedi iddi gael ei ffeindio'n euog o 10 achos o lofruddiaeth. Dymchwelwyd eu cartref ar Stryd Cromwell yn 1996 a newidwyd y safle'n llwybr cerdded yn cysylltu Stryd Cromwell Street i Sgwâr San Michael.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Genedigaeth, priodasau a marwolaethau Cymru a Lloegr - Gorffennaf 1996