Fazu Alieva
Fazu Alieva | |
---|---|
Ganwyd | 5 Rhagfyr 1932 Rhanbarth Khunzakhsky |
Bu farw | 1 Ionawr 2016 Makhachkala |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, llenor, amddiffynnwr hawliau dynol, rhyddieithwr |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Gwobr/au | Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth IV, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Order of St. Andrew the Apostle the First-Called, Urdd Teilyngdod República del Daguestan |
Awdures a bardd o Rwsia oedd Fazu Alieva (5 Rhagfyr 1932 - 1 Ionawr 2016) a oedd yn newyddiadurwr wrth ei gwaith bob dydd. Mamiaith Fazu Alieva oedd Afareg, sy'n un o'r ieithoedd Nakh-Daghestanian a siaredir yn Dagestan, Chechnya, Ingushetia a gogledd Azerbaijan. Mae hi wedi ysgrifennu dros 102 o lyfrau barddoniaeth a rhyddiaith wedi'u cyfieithu i 68 o ieithoedd y byd.
Fe'i ganed yn Rhanbarth Khunzakhsky ar 5 Rhagfyr 1932 a bu farw yn Makhachkala, Dagestan o fethiant y galon. Dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth yn ifanc iawn a chafodd ei hystyried yn fardd go iawn yn ei blynyddoedd ysgol. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Sefydliad Llenyddol Maxim Gorky, Prifysgol Addysg y Wladwriaeth, Dagestan.[1]
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd.
Chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad Dagestani mewn llenyddiaeth yn Rwsia. Roedd hefyd yn ymgyrchydd dros hawliau dynol.
Dyfarnwyd iddi ddwy o wobrau "Bathodyn Anrhydedd", dwy wobr "Cyfeillgarwch Pobl" a "Gwobr St Andrew" yn 2002. Dyfarnwyd iddi Fedal Aur Cronfa Heddwch Sofietaidd, Medal Jiwbilî Cyngor Heddwch y Byd, a gwobrau anrhydeddus mewn sawl gwlad dramor.[2]
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Undeb Awduron yr USSR am rai blynyddoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dyddiad marw: http://tass.ru/kultura/2568768. dyddiad cyrchiad: 1 Ionawr 2016.
- ↑ "Народная поэтесса Дагестана Фазу Алиева отметила свой день рождения". Mkala.mk.ru. Cyrchwyd 1 Ionawr 2016.