Aled Rhys Wiliam
Jump to navigation
Jump to search
Aled Rhys Wiliam | |
---|---|
Ganwyd |
4 Rhagfyr 1926 ![]() |
Bu farw |
1 Ionawr 2008 ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
bardd, ysgolhaig dyneiddiol, darlledwr ![]() |
Ysgolhaig, darlledwr a bardd Cymreig oedd Aled Rhys Wiliam (4 Rhagfyr 1926 – 1 Ionawr 2008).
Ganed ef yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yn fab i'r Athro Stephen J. Williams ac yn frawd i Urien Wiliam. Magwyd ef yn Abertawe, ac astudiodd Gymraeg, Lladin a Ffrangeg ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n ymchwilio i Gyfraith Hywel dan Idris Foster yng Ngholeg y Santes Catrin, Rhydychen, a chyhoeddodd argraffiad o Lyfr Iorwerth ym 1960.
Bu'n olygydd cynorwythol Geiriadur Prifysgol Cymru o 1954 ymlaen, ac yn 1956 daeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Cyncoed, Caerdydd. Daeth yn gyflwynydd ar BBC Cymru, yn arbennig ar y rhaglen Heddiw. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanbedr Pont Steffan 1984 am gerdd Y Pethau Bychein.
Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- (golygydd) Llyfr Iorwerth (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960; adargraffiad 1979).
- Cywain (1995), casgliad o farddoniaeth