Luiz Inácio Lula da Silva

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Lula da Silva)
Jump to navigation Jump to search
Luiz Inácio Lula da Silva
Luiz Inácio Lula da Silva.jpg
Ganwyd 27 Hydref 1945 Edit this on Wikidata
Caetés Edit this on Wikidata
Man preswyl São Bernardo do Campo Edit this on Wikidata
Galwedigaeth carchar, undebwr llafur Edit this on Wikidata
Swydd Arlywydd Brasil, Aelod o Siambr Dirprwyon Brasil Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Workers' Party Edit this on Wikidata
Priod Marisa Letícia Lula da Silva, Maria de Lurdes da Silva Edit this on Wikidata
Plant Marcos Claudio Lula da Silva, Fábio Luís Lula da Silva Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Coler Urdd Isabella y Catholig, Uwch Groes Urdd Cenedlaethol Teilyngdod am Wyddoniaeth, Gwobr Bruno Kreisky, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Letelier-Moffitt Human Rights Award, Félix Houphouët-Boigny Peace Prize, Gwobr Indira Gandhi, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Four Freedoms Award - Freedom Medal, Chatham House Prize, Gwobr Bwyd y Byd, Gwobr 'North–South', Uwch Groes Urdd Haul Periw, Grand Cross of Royal Norwegian Order of Merit, Grand Cross of the Order of the Tower and Sword, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, torch mawr Gorchymyn Condor yr Andes, Catalonia International Prize, Urdd Rio Branco, Urdd Teilyngdod y Llynges, Urdd Eryr Mecsico, Order of Liberty, Urdd yr Eliffant, Urdd Seren y Cyhydedd, Order of Boyacá, Order of the Star of Ghana, Gwobr Cymdeithion O. R. Tambo, Urdd Umayyad, Order of Omar Torrijos Herrera, Urdd Abdulaziz al Saud, Order of the Eagle of Zambia, Gorchymyn Amilcar Cabral, Order of Liberty, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Urdd Croes y De, Urdd Sant Olav, Order of the Tower and Sword, Urdd yr Haul, Urdd y Baddon, Order of the Condor of the Andes, Princess of Asturias Awards, troseddwr Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.institutolula.org/ Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of Luiz Inácio Lula da Silva.svg

Gwleidydd Brasilaidd yw Luiz Inácio Lula da Silva, enw gwreiddiol Luiz Inácio da Silva (ganed 27 Hydref 1945) a wasanaethodd yn Arlywydd Brasil o 2003 i 2011.

Ganed ef yn Caetés yn nhalaith Pernambuco, i deulu tlawd. Ni chafodd lawer o addysg ffurfiol; ni ddysgodd ddarllen nes oedd yn ddeg oed. Yn 1956 symudodd y teulu i ddinas São Paulo. Bu'n weithgar gydag undebau llafur, ac ar 10 Chwefror 1980, roedd yn un o'r grŵp a ddechreuodd y Partido dos Trabalhadores (PT), "Plaid y Gweithwyr". Yn 1982, ychwanegodd ei lysenw, Lula, ar ei enw yn gyfreithiol. Yn 1986 enillodd sedd ar Gyngres Brasil. Yn 1989 ymladdodd yr etholiad arlywyddol dros Blaid y Gweithwyr, ond yn aflwyddiannus.

Etholwyd ef yn Arlywydd ar 27 Hydref 2002 gyda 61% o'r bleidlais yn yr ail rownd o'r etholiad arlywyddol, a dechreuodd yn y swydd ar 1 Ionawr 2003. Ar 29 Hydref 2006, etholwyd ef am ail dymor.