António Guterres

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
António Guterres
António Guterres - 2019 (48132270313) (cropped).jpg
António Guterres yn 2019.
GanwydAntónio Manuel de Oliveira Guterres Edit this on Wikidata
30 Ebrill 1949 Edit this on Wikidata
Lisbon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPortiwgal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Instituto Superior Técnico Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, peiriannydd, athro prifysgol cynorthwyol Edit this on Wikidata
SwyddUnited Nations High Commissioner for Refugees, Prif Weinidog Portiwgal, President of the Socialist International, General Secretary of the Socialist Party (Portugal), President-in-Office of the European Council, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Aelod o Gynulliad y Weriniaeth, Aelod o Gynulliad y Weriniaeth, Aelod o Gynulliad y Weriniaeth, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd Edit this on Wikidata
TadVirgílio Dias Guterres Edit this on Wikidata
MamIlda Cândida de Oliveira Edit this on Wikidata
PriodLuísa Amélia Guimarães e Melo, Catarina Marques de Almeida Vaz Pinto Edit this on Wikidata
Gwobr/auColer Urdd Isabella y Catholig, Gwobr Rhyddid, Urdd seren Romania, Order of the Republic, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Urdd Teilyngdod (Chili), Uwch Groes Urdd Teilyngdod Cenedlaethol, Grand Cross of the Order of Honour, Urdd Eryr Mecsico, Croes Fawr Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Prif Ruban Urdd y Wawr, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr Siarlymaen, Grand Cross of the Military Order of Christ, Grand Cross of the Order of Liberty, Uwch Croes Urdd Siarl III Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.antonioguterres.gov.pt Edit this on Wikidata
Llofnod
Assinatura António Guterres.svg

Gwleidydd a diplomydd Portiwgalaidd yw António Manuel de Oliveira Guterres (ganed 30 Ebrill 1949) sydd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ers 2017. Gwasanaethodd yn Brif Weinidog Portiwgal o 1995 i 2002.

Ganed yn Lisbon, Portiwgal, ac astudiodd ffiseg a pheirianneg yn Instituto Superior Técnico Prifysgol Lisbon. Wedi iddo dderbyn ei radd ym 1971 fe weithiodd yn diwtor ffiseg, a throdd ei sylw yn fwyfwy at fyd gwleidyddiaeth wrth i Bortiwgal drawsnewid at ddemocratiaeth yn sgil marwolaeth yr unben António de Oliveira Salazar. Bu Guterres yn weithgar yn y protestiadau i ddymchwel y Prif Weinidog Marcello Caetano a arweiniodd at Chwyldro'r Penigan Pêr ym 1974.[1] Y flwyddyn honno, ymunodd â'r Blaid Sosialaidd, ac ym 1976 fe'i etholwyd i Gynulliad y Weriniaeth, a byddai'n cynrychioli etholaeth Castelo Branco fel aelod o'r senedd honno am 26 mlynedd.

Yn ystod ei yrfa seneddol, gwasanaethodd Guterres mewn sawl pwyllgor, ac o 1981 i 1983 roedd yn aelod o Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop. Bu'n un o'r cynrychiolwyr yn y trafodaethau i dderbyn Portiwgal yn aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ym 1986. Etholwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Sosialaidd ym 1992. Enillodd yr etholiad deddfwriaethol cenedlaethol yn Hydref 1995 fel arweinydd ei blaid, a fe'i datganwyd yn Brif Weinidog Portiwgal, yn bennaeth ar lywodraeth leiafrifol. Yn ystod ei dymor cyntaf yn y swydd, mabwysiadodd Portiwgal yr ewro fel ei harian cyfred swyddogol, a chytunwyd ar drosglwyddo sofraniaeth Macau, gwladfa olaf Ymerodraeth Portiwgal, i Weriniaeth Pobl Tsieina. Cymerodd Guterres ran flaenllaw yn yr ymgyrch dros ymyrraeth y Cenhedloedd Unedig i ddod â therfyn i feddiannaeth Dwyrain Timor, un o gyn-drefedigaethau Portiwgal, gan Indonesia ac i sicrhau felly annibyniaeth y wlad fach honno.[1]

Enillodd y Blaid Sosialaidd fwyafrif cymharol o seddi Cynulliad y Weriniaeth unwaith eto yn etholiad Hydref 1999, a chychwynnodd Guterres ar ei ail dymor yn Brif Weinidog. Yn sgil trechu'r Blaid Sosialaidd yn yr etholiadau lleol yn Rhagfyr 2001, ymddiswyddodd Guterres ac ildiodd arweinyddiaeth ei blaid i Eduardo Ferro Rodrigues er mwyn cystadlu yn yr etholiad deddfwriaethol a alwyd am fis Mawrth. Daeth ei dymor yn swydd y prif weinidog i ben ar 6 Ebrill 2002, wedi i'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol gipio'r nifer fwyaf o seddi, a fe'i olynwyd gan arweinydd y blaid honno, José Manuel Barroso.

Yn 2005 etholwyd Guterres gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR). Yn y swydd honno, ceisiodd Guterres ostwng costau'r asiantaeth yn ei phencadlys yng Ngenefa a gwella'r gallu i ymateb i argyfyngau.[1] Daeth ei gyfnod yn swydd yr UNHCR i ben yn Rhagfyr 2015.[2] Ar 13 Hydref 2016 etholwyd Guterres gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i olynu Ban Ki-moon yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, wedi i'r Cyngor Diogelwch ei enwebu gyda 13 pleidlais o'i blaid, dwy wlad yn peidio â phleidleisio, a dim yr un bleidlais yn ei erbyn. Tyngodd ei lw ar 12 Rhagfyr 2016 i fod yn nawfed Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, a chychwynnodd ei dymor yn y swydd ar 1 Ionawr 2017.

Yn ystod ei gyfnod yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, bu'n rhaid i António Guterres ymdopi â'r argyfwng dyngarol a achoswyd gan ymyrraeth filwrol Sawdi Arabia yn Iemen, datblygiadau terfynol Rhyfel Cartref Syria, hil-laddiad y Rohingya ym Myanmar, a phandemig COVID-19. Mae wedi derbyn beirniadaeth am beidio â chondemnio yn ddigonol camdriniaethau hawliau dynol yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina, yn enwedig hil-laddiad yr Wigwriaid. Mae disgwyl iddo gael ei ail-ethol yn 2021 ar gyfer ail dymor yn y swydd.[3]

Mae Guterres yn medru'r ieithoedd Portiwgaleg, Sbaeneg, Saesneg, a Ffrangeg.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) António Guterres. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mehefin 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Biography", Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 14 Mehefin 2021.
  3. (Saesneg) Rick Gladstone, "U.N. Security Council Recommends António Guterres for a Second Term", The New York Times (8 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 14 Mehefin 2021.