Jair Bolsonaro
Jair Bolsonaro | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jair Messias Bolsonaro ![]() 21 Mawrth 1955 ![]() Glicério ![]() |
Man preswyl | Palácio da Alvorada ![]() |
Dinasyddiaeth | Brasil ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol ![]() |
Swydd | Arlywydd Brasil, federal deputy of Rio de Janeiro, councillor of Rio de Janeiro, Mercosur Pro Tempore Presidency ![]() |
Plaid Wleidyddol | Social Christian Party, Social Liberal Party, Progressive Party, Liberal Front Party, Brazilian Labour Party, Progressive Party, Progressive Party, Christian Democratic Party, Reform Progressive Party ![]() |
Tad | Percy Geraldo Bolsonaro ![]() |
Priod | Rogéria Nantes Nunes Braga, Ana Cristina Siqueira Valle, Michelle Bolsonaro ![]() |
Plant | Flávio Bolsonaro, Carlos Bolsonaro, Eduardo Bolsonaro, Renan Bolsonaro, Laura Bolsonaro ![]() |
Gwobr/au | Corrupt Person of the Year, Gwobr Ig Nobel, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100 ![]() |
Gwefan | https://www.bolsonaro.com.br ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Gwleidydd Brasilaidd a chyn-gapten ym Myddin Brasil yw Jair Messias Bolsonaro (ganwyd 21 Mawrth 1955) ac Arlywydd Brasil ers 2019. Fe wasanaethodd yn ddirprwy ffederal dros dalaith Rio de Janeiro yn Siambr y Dirprwyon am saith tymor, o 1991 i 2018, ac yn aelod o sawl plaid wahanol yn y cyfnod hynny.
Graddiodd o Academi Filwrol Agulhas Negras yn 1977 a gwasanaethodd yn adrannau'r gynnau maes a'r awyrfilwyr ym Myddin Brasil. Daeth i sylw'r cyhoedd yn 1986, pan ysgrifennodd erthygl ar gyfer y cylchgrawn Veja yn beirniadu'r cyflogau a dderbynir gan swyddogion milwrol am fod yn rhy isel. Oherwydd hyn cafodd ei arestio a'i gadw am bymtheg diwrnod, er iddo dderbyn nifer o lythyrau o gefnogaeth gan ei gyd-swyddogion. Cafodd ei ryddfarnu ddwyflwydd yn ddiweddarach.
Ymunodd Bolsonaro â'r lluoedd wrth gefn yn 1988, ar reng capten, er mwyn iddo ymgeisio am sedd yn Siambr Ddinesig Rio de Janeiro. Cafodd ei ethol yn gynghorydd dros y Blaid Ddemocrataidd Gristnogol. Gadawodd y blaid honno yn 1993. Yn 1990, cafodd ei ethol yn gyngreswr dros dalaith Rio de Janeiro. Er iddo dderbyn dim ond 6% o'r pleidleisiau, efe oedd yr ymgeisydd â'r gyfran fwyaf o gefnogaeth. Cafodd ei ail-ethol chwe gwaith, gan wasanaethu yn Siambr y Dirprwyon am 27 mlynedd. Daeth yn wleidydd amlwg a dadleuol o ganlyniad i'w farnau gwleidyddol a fe'i beirniadir am fod yn boblydd ac yn eithafol-dde, gan gynnwys ei gydymdeimlad ag unbennaeth milwrol Brasil (1964-1985) a'i amddiffyniad o'r arfer o artaith gan y llywodraeth honno.
Datganodd Bolsonaro ei fwriad i fod yn ymgeisydd y Blaid Gymdeithasol Gristnogol am yr arlywyddiaeth ym Mawrth 2016. Yn Ionawr 2018, fodd bynnag, fe gyhoeddodd ei fod wedi ymaelodi â'r Blair Ryddfrydol Gymdeithasol (PSL), y nawfed blaid iddo gynrychioli yn ei yrfa wleidyddol ers etholwyd ef yn gynghorwr yn 1988. Cychwynnodd ar ei ymgyrch arlywyddol yn swyddogol yn Awst 2018, a'r cyn-gadfridog Hamilton Mourão yn ymgeisydd am yr is-arlywyddiaeth. Un o brif nodweddion yr ymgyrch oedd i bortreadu Bolsonaro fel yr un i amddiffyn gwerthoedd teuluol. Ar 7 Hydref, Bolsonaro a dderbynai'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn rownd gyntaf yr etholiad arlywyddol, a Fernando Haddad, ymgeisydd Plaid y Gweithwyr (PT), yn ail. Etholwyd Bolsonaro yn Llywydd y Weriniaeth yn yr ail rownd ar 28 Hydref, gyda 55.13% o'r holl bleidleisiau dilys.[1] Cafodd ei urddo'n arlywydd ar 1 Ionawr 2019.[2]
Ar ddechrau argyfwng COVID-19, dywedodd fod y feirws yn "ddim gwaeth na'r ffliw" a mynnu bod ei gefndir fel athletwr yn ei warchod rhag y feirws. Cafodd prawf bositif am y feirws ar 7 Gorffennaf 2020 wedi iddo gael symptomau.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Ethol ymgeisydd asgell-dde yn arlywydd newydd Brasil", Golwg360 (29 Hydref 2018). Adalwyd ar 18 Awst 2019.
- ↑ "Jair Bolsonaro yn tyngu llw fel arlywydd “dwrn dur” newydd Brasil", Golwg360 (2 Ionawr 2019). Adalwyd ar 18 Awst 2019.
- ↑ Arlywydd Brasil yn profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws , Golwg360, 7 Gorffennaf 2020.