Coedwig yr Iwerydd

Oddi ar Wicipedia
Coedwig yr Iwerydd
Llun loeren o Dde America gyda ffiniau Coedwig yr Iwerydd yn ôl diffiniad yr WWF yn felyn.
Mathbïom Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBrasil, yr Ariannin, Paragwâi Edit this on Wikidata
Arwynebedd1,234,000 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau16.5°S 39.25°W Edit this on Wikidata
Map

Rhanbarth coediog enfawr ac ecolegol amryfath yn Ne America yw Coedwig yr Iwerydd (Portiwgaleg: Mata Atlântica) a estynnir ar hyd arfordir deheuol Brasil â Chefnfor yr Iwerydd, o dalaith Rio Grande do Norte yn y gogledd i Rio Grande do Sul yn y de, ac i mewn i'r tir hyd at Baragwâi. Mae'n cynnwys sawl bïom ac yn gartref i fioamrywiaeth ar raddfa eang.

Mae mathau o ecosystemau Coedwig yr Iwerydd yn cynnwys coedwigoedd trofannol llydanddail tymhorol a sych, glaswelltiroedd trofannol ac is-drofannol, safanâu a phrysglwyndiroedd, a fforestydd mangrof.[1] Nodweddir y goedwig gan fioamrywiaeth uchel a nifer o rywogaethau endemig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dafonseca, G. 1985. The Vanishing Brazilian Atlantic Forest. Biological Conservation 34:17-34.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Marcia C. M. Marques a Carlos E. V. Grelle (goln), The Atlantic Forest: History, Biodiversity, Threats and Opportunities of the Mega-diverse Forest (Springer, 2021).