Mangrof

Oddi ar Wicipedia
Mangrof

Coed neu lwyni deugotyledon sydd fel rheol yn tyfu gerllaw dŵr hallt yn y trofannau yw Mangrof. Maent yn tyfu ar fwd neu dywod a orchuddir yn rheolaidd gan y llanw, ac sydd felly yn rhy hallt i'r rhan fwyaf o blanhigion. Maent yn gyffredin mewn aberoedd ac ar hyd yr arfordir.

Ceir 54 rhywogaeth o "wir fangrof" mewn 16 teulu. Mae'r gwreiddiau yn dal y mwd neu dywod yn ei le, ac yn atal erydu. Yn y teuluoedd Rhizophoraceae ac Araceae, mae'r hadau yn egino yn y ffrwyth, ac mewn rhai rhywogaethau mae'r planhigyn ieuanc yn tyfu gwreiddyn ar ffurf picell, sy'n ymwthio o'r mwd pan mae'r planhigyn yn syrthio o'r rhiant.

Defnyddir y pren fel tanwydd neu i gynhyrchu siarcol. Collwyd llawer o goedwigoedd mangrof mewn rhai gwledydd, gyda'r canlyniad fod llai o amddiffyniad i'r arfordir. Wedi Tsunami Cefnfor India 2004, nodwyd fod y difrod yn llawer llai yn yr ardaloedd lle'r oedd y coedwigoedd mangrof wedi eu cadw.

Y Sundarbans, ar arfordir Bangladesh a Gorllewin Bengal yn India yw coedwig fangrof fwyaf y byd.