Tsunami Cefnfor India 2004

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Tsunami yng Ngwlad Thai

Yn dilyn daeargryn yng Nghefnfor India am 00:58:53 UTC ar 26 Rhagfyr 2004, cafwyd Tsunami enfawr. Lleolwyd canolbwynt y daeargryn ar arfordir gorllewinol Sumatra, Indonesia. Achosodd y daeargryn gyfres o tsunamis dinistriol ar hyd arfordiroedd y gwledydd ar lannau'r Môr Indiaidd. Gwelwyd tonnau o hyd at 30 metr (100 troedfedd) o uchder. Bu farw dros 225,000 o bobl mewn 11 gwlad, gyda miloedd mwy wedi eu hanafu gan golli eu holl eiddo. Effeithiodd ar arfordiroedd Indonesia, Gwlad Thai, gogledd orllewin Malaysia, Myanmar, Bangladesh, India, Sri Lanca, y Maldives ac hyd yn oed Somalia, Kenya, Tanzania a'r Seychelles yn nwyrain Affrica.

Mesurodd y daeargryn rhwng 9.1 a 9.3 ar Raddfa Richter a dyma oedd yr ail ddaeargryn fwyaf erioed i gael ei gofnodi ar seismograff. Parhaodd y daeargryn am rhwng 8.3 a 10 munud. Achosodd i'r holl blaned ddirgrynnu cymaint a 1 cm (0.5 modfedd) gan achosi daeargrynfeydd eraill mor bell i ffwrdd ag Alaska. Gelwir y drychineb Daeargryn Fawr Sumatra-Andaman gan y gymuned wyddonol ond caiff ei alw'n Tsunami Asia a Tsunami Dydd San Steffan hefyd.Dyma oedd un o drychinebau naturiol mwyaf marwol erioed. O ganlyniad i'r drychineb mae UNESCO a chyrff eraill wedi galw am system fonitro a fydd yn gallu rhoi rhybudd bod tsunami ar ddigwydd fel ag sydd yn y Môr Tawel.

Bu elusennau yn codi arian i helpu'r trueiniad a bu ymateb y cyhoedd drwy'r gwledydd yn rhyfeddol. Ledled y byd, cyfrannwyd dros $7 biliwn (doleri'r UDA yn 2004). Cynhaliwd cyngerdd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd a gododd dros filiwn a chwarter o bunnoedd.

Nodweddion y Daeargryn[golygu]

Yn wreiddiol, dywedwyd fod gan y daeargryn faint moment o 9.0. Ym mis Chwefror 2005, adolygodd gwyddonwyr yr amcangyfrif gan ddod i gasgliad mai 9.3 oedd ei maint.[1] Er fod Canolfan Rhybuddio Tsunami'r Cefnfor Tawel yn derbyn y rhifau newydd hyn, hyd yma nid yw Arolwg Geolegol yr Unol Daleithiau wedi newid eu hamcangyfrif o 9.1. Dywed astudiaethau mwy diweddar yn 2006 fod gan y tsunami faint o Mw 9.1 i 9.3. Cred Dr. Hiroo Kanamori o Ganolfan Dechnoleg Califfornia fod Mw = 9.2 yn werth cynrychioladol da ar gyfer daeargryn o'r maint hwn.[2]

Roedd hypoganol y brif ddaeargryn yn 3°18′58″Gog 95°51′14″Dw / 3.316°Gog 95.854°Dw / 3.316; 95.854, oddeutu 160 km (100 mi), yng Nghefnfor India, ychydig i'r gogledd o ynys Simeulue, oddi ar arfordir gorllewinol gogledd Sumatra, ar ddyfnder o 30 Km (19 mi) o dan lefel y mor. Teimlwyd y daeargryn ei hun mor bell i ffwrdd a Bangladesh, India, Malaysia, Myanmar, Gwlad Thai, Singapore a'r Maldives.

Rhybuddion ac arwyddion[golygu]

Er gwaethaf o sawl awr rhwng amser y daeargryn a phan darodd y tsunami, daeth y digwyddiad fel sioc i'r holl ddioddefwyr bron. Nid oedd systemau i rhybuddio am tsunami yng Nghefnfor India nac i rybuddio'r bobl a drigai ar lannau'r mor. Nid yw'n hawdd gweld tsunami oherwydd pan fod y tsunami mewn dyfroedd dyfnion, nid oes ganddo lawe o uchder a rhaid cael rhwydwaith o sensoriaid i'w rhagweld. Mae gosod cyfundrefnau cyfathrebu er mwyn darparu rhybuddion mewn da bryd yn broblem fawr, yn enwedig mewn ardaloedd cymharol dlawd o'r byd.

Digwydda tsunamis yn llawer mwy cyson yn y Cefnfor Tawel yn sgîl y daeargrynfeydd o amgylch y "Cylch o Dân", a cheir yno system rybuddio am tsunamis effeithiol ers cryn dipyn o amser. Er fod ochr orllewinol eithafol y Cylch o Dân yn ymestyn i mewn i'r Cefnor Indiaidd (y man lle drawodd y ddaeargryn), nid oed unrhyw systemau'n bodoli yn y mor hwnnw. Mae tsunamis yn gymahrol anghyffredin yno, er gwaethaf y daeargrynfeydd cymharol rheolaidd yn Indonesia. Achoswyd y tsunami mawr diwethaf gan ffrwydriad Krakatoa ym 1883. Dylid nodi nad yw pob daeargryn yn achosi tsunamis mawrion; ar yr 28ain o Fawrth, 2005, trawodd daeargryn a fesurodd 8.7 yn yr un ardal o Gefnfor India ond ni achosodd tsunami mawr.

Yn sgîl y drychineb, cynyddodd ymwybyddiaeth am yr angen am system rhybuddio am tsunami yng Nghefnfor India. Dechreuodd y Cenhedloedd Unedig weithio ar System Rybuddio Tsunami Cefnfor India ac erbyn 2005, roedd y camau cychwynnol yn eu lle. Mae rhai pobl wedi cynnig creu system rybuddio tsunami unedig byd-eang, a fyddai'n cynnwys Mor yr Iwerydd a'r Caribi.

Y tonau'n encilio ar draeth Kata Noi, Gwlad Thai

Y rhybudd cyntaf am tsunami posib yw'r daeargryn ei hun. Fodd bynnag, gall tsunami ddigwydd miloedd o filltiroedd i ffwrdd o ganolbwynt y daeargryn ei hun, mewn man lle prin yw effaith y daeargryn. Hefyd, yn ystod y munudau cyn i tsunami daro, bydd y mor yn mynd allan o'r arfordir dros dro. Ar lannau Cefnfor India, achosodd hyn i drigolion lleol, yn enwedig plant, i fynd i'r traeth i ymchwilio ac i gasglu pysgod a adawyd ar y tywod. Aeth y mor allan cymaint a 2.5 km (1.6 milltir) ac wrth i bobl fynd ar y rhan hwn o'r traeth, cafwyd canlyniadau trychinebus.[3]

Un o'r ychydig ardaloedd arfordirol a wacawyd cyn y tsunami oedd yr ynys Indonesiaidd, Simeulue, a oedd yn agos iawn i ganolbwynt y daeargryn. Ar draeth Maikhao yng ngogledd Phuket, Gwlad Thai roedd merch deg oed o'r Deyrnas Unedig, Tilly Smith wedi astudio tsunamis yn ei gwersi daearyddiaeth yn yr ysgol. Adnabyddodd yr arwyddion pan welodd y mor ar drai a rhybuddiodd hi a'i rhieni eraill ar y traeth, gan gynorthwyo i wacau'r traeth.[4]

Y cylch encilio a chodi[golygu]

Roedd y tsunami yn gyfres o donnau, a ddigwyddodd mewn cylchoedd o encilio a chodi gyda chyfnod o dros 30 munud rhwng pob uchelfan. Y drydedd don oedd fwyaf pŵerus ac a gyrhaeddodd bellaf, a digwyddodd bron i awr a hanner ar ôl y don gyntaf. Parhaodd tsunamis bychain am weddill y diwrnod.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. McKee, Maggie. "Power of tsunami earthquake heavily underestimated." New Scientist. Chwefror 9, 2005.
  2. Cyhoeddiad EERI 2006–06, td 14.
  3. (Saesneg)Block, Melissa. "Sri Lankans Seek Lost Relatives After Tsunami." All Things Considered/NPR. Rhagfyr 27, 2004.
  4. (Saesneg)James Owen Tsunami Family Saved by Schoolgirl's Geography Lesson National Geographic. 2005-01-18. Adalwyd 2009-05-01