Trychineb naturiol

Oddi ar Wicipedia
Trychineb naturiol
Enghraifft o'r canlynolcydran neu system yn methu Edit this on Wikidata
Mathtrychineb, ffenomen naturiol, risg naturiol, ffynhonnell risg, environmental disturbance Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae trychineb naturiol yn digwydd o ganlyniad i broses amgylcheddol ee tirlithriad, llifogydd, echdoriadau folcanig neu tsunami. Gall trychinebau fel hyn olygu marwolaeth neu ddifrod mawr i eiddo, a hyd yn oed i economi gwlad.[1][2]

I ddigwyddiad naturiol gael ei alw'n 'drychineb' naturiol mae'n rhaid iddo gael effaith ar bobl, eiddo neu economi ar raddfa fawr. Mae'r trychinebau naturiol mwyaf, felly'n, digwydd mewn ardal o boblogaeth dwys, gydag effeith pellgyrhaeddol, parhaol ac enbyd ee Daeargyrn San Francisco yn 1906.

Peryglon Tectonig[golygu | golygu cod]

Llifoedd Lafa[golygu | golygu cod]

Lafa yn llifo'n araf yn Hawaii

Lafa yw magma sy'n llifo ar wyneb y ddaear. Fel rheol, cysylltir lafa gydag ymylon adeiladol (gweler: Ffin Plât tectonig) lle mae echdoriadau yn llai dinistriol heb fod yn beryg i fywydau. Mae hyn oherwydd bod lafa'n oeri'n gyflym a'i symudiad felly yn araf. Fodd bynnag, gall llifoedd lafa ddifrodi eiddo a thir ffermio. Os yw'r lafa yn llifo allan o agen, gall ffurfio llwyfandir lafa.

Lludw[golygu | golygu cod]

Dyma sy'n ffurfio'r cymylau tywyll sydd i'w gweld yn ystod echdoriadau. Gall achosi marwolaethau wrth i adeiladau ddymchwel o dan bwysau'r lludw a mygu unrhyw un sydd yn y cyffiniau. Yn aml hefyd gall y lludw fod yn dwym iawn a gall losgi'r ardal o amgylch y llosgfynydd.

Llif pyroclastig[golygu | golygu cod]

Llif pyroclastig yn Pilipinas- 1984

Gall echdoriadau ffrwydrol chwythu allan cymysgedd o nwy a cherrig poeth (teffra). Adnabyddir hyn fel llif pyroclastig. Gall tymheredd o fewn llif pyroclastig gyrraedd tymereddau mor uchel â 800 °C a gall deithio ar gyflymder o 200 km/awr wrth iddo lifo lawr ochor y llosgfynydd.

Rheolir cyflymder y llif gan ddwysedd y cwmwl, cyfradd rhyddhad y nwy allan o'r llosgfynydd a graddiant ochrau'r llosgfynydd. Yn aml mae'n digwydd pan mae'r gromen lafa yn mynd yn ansefydlog ac yn dymchwel i lawr ochrau'r llosgfynydd. Mae ei gyflymder yn ei wneud yn beryglus dros ben.

Lahar[golygu | golygu cod]

Mae lahar yn ffurfio pan mae lludw yn cyfuno â dŵr gan greu slyri poeth trwchus. Gall lifo'n eithriadol o gyflym a chasglu'n ddi-rybydd mewn dyffrynnoedd gan foddi'r trigolion, fel y digwyddodd yn Armero, Colombia lle lladdwyd 22,000 o bobl mewn ychydig funudau. Daw'r dŵr wrth i eira a ia doddi ar lethrau'r llosgfynydd. Yn ogystal mae llynnoedd rhewlifol yn ffynhonnell arall o ddŵr.

Tir gryniad[golygu | golygu cod]

Dyma sy'n digwydd yn ystod daeargryn wrth i'r tir ysgwyd a dinistrio adeiladau. Mae tir gryniad yn dinistrio a difrodi adeiladau. Rheolir dwysedd y tir gryniad gan nerth y daeargryn.

Hylifoli[golygu | golygu cod]

Yn ystod daeargryn mae'r dŵr sydd yn y ddaear yn cael ei dynnu i'r wyneb gan danseilio adeiladau a gwneud iddynt suddo a chwympo. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd lle mae'r creigiau'n wan a meddal. Mae priddoedd yn colli ei nerth i ddal dŵr wrth i'r gronynnau pridd cael eu hysgwyd.

Peryglon Dŵr[golygu | golygu cod]

Llifogydd[golygu | golygu cod]

Weithiau mae gormodedd o law yn disgyn ar dir dirlawn gan achosi i lefel afonydd fod yn uchel iawn. Pan mae yna ormod o ddŵr mewn afon, mae'n gorlifo gan lifogi'r ardal leol. Gall yr ardaloedd yma fod yn aneddiadau a gall gael effaith ar nifer o bobl. Wrth i systemau carthffosiaeth cael eu gorlifo, gall hyn ledaeni afiechydon megis colera sy'n beryglus i bobl.

Echdoriadau llyn[golygu | golygu cod]

Mae dŵr yn amsugno CO2, ac felly pan leolir aneddiad yn agos i lyn mae'r crynodiad CO2 yn eithaf uchel. Mae'r trychineb yma yn digwydd pan mae CO2 yn echdorri yn gyflym o'r llyn ac yn gwenwyno anifeiliaid, pobl a phlanhigion.

Eirlithiad cyferbyn i Mynydd Everest.

Eirlithrad[golygu | golygu cod]

Dyma beth sy'n digwydd pan ceir gormodedd o eira yn casglu ar ben mynydd ac yn dymchwel gan greu llif cyflym o eira ac iâ. Nid oedd yna berygl ers talwm oherwydd nid oedd y mynyddoedd yn breswylied. Ar y llaw arall, erbyn hyn, mae yna nifer o aneddiadau a chyrchfannau uwch yn y mynyddoedd ar gyfer gweithgareddau gaeaf fel sgïo. Mae hyn yn cynyddu'r risg o farwolaeth pan mae eirlithrad yn digwydd.

Tsunami[golygu | golygu cod]

Mae tsunami yn berygl eilaidd sy'n digwydd wrth i ddirgryniadau daeargryn greu tonnau ar y môr sy'n gorlifo'r tir. Gall hyn ladd pobl sydd ar yr arfordir pan ddaw'r tonnau.

Tywydd[golygu | golygu cod]

"Bush Fire" yn Awstralia.

Storm eira[golygu | golygu cod]

Mae storm eira yn storm aeafol eithriadol sy'n nodweddiadol o dymheredd isel, gwyntoedd cryfion ac eira sy'n chwythu'n gyflym. Mae hyn yn digwydd pan mae system gwasgedd uchel yn rhyngweithio efo system gwasgedd isel. Caiff niferoedd mawr eu lladd pan mae tywydd eithafol fel hyn yn stelcian am amser hir oherwydd gall y stormydd yma gael effaith ar gyflenwadau pŵer a thanwydd sy'n hanfodol.

Sychder[golygu | golygu cod]

Mae sychder yn digwydd pan mae yna gyfnod estynedig o dywydd sych. Mae hyn yn cael effaith ar gyflenwadau dŵr a chyflenwadau bwyd ac felly gall fod yn farwol. Caiff sychder fwy o effaith ar wledydd llai datblygedig yn economaidd na gwledydd mwy datblygedig yn economaidd.

Cesair[golygu | golygu cod]

Mae hyn yn fath o ddyodiad sy'n cynnwys talpiau o iâ sy'n disgyn o'r awyr. Mae diamedr y talpiau afreolaidd yma yn amrywio o 5-150 milimedr ac mae'r talpiau mwyaf yn dod o stormydd eithafol. Gall y cesair fwyaf fod yn farwol os ydynt yn taro rhywun ac maent yn gallu gwneud llawer o ddinistr i eiddo personol.

Tôn wres[golygu | golygu cod]

Mae tôn wres yn gyfnod estynedig o dywydd eithriadol o dwym. Gall hyn gael effaith ar bobl enwedig yr henoed efo cyflyrau megis strociau gwres. Gall hefyd gael effaith ar gyflenwadau dŵr, pŵer ac ar isadeiledd. Er bod nifer yn manteisio ac yn mwynhau cyfnodau twym, dyma'r trychineb sy'n lladd llawer dros barhad y cyfnod.

Tân[golygu | golygu cod]

Gall hinsawdd dwym gychwyn tân mewn ardaloedd gwledig sy'n gallu gwasgaru i ardaloedd poblog megis trefi a dinasoedd.

Iechyd ac afiechyd[golygu | golygu cod]

Epedemig H5N1 (Bird Flu)

Epidemig[golygu | golygu cod]

Dyma pan mae afiechydon yn gwasgaru trwy boblogaethau o bobl ac yn bygwth bywydau pobl. Mae epidemig yn digwydd pan mae afiechyd yn lledaeni trwy'r boblogaeth yn gyflymach na beth mae doctoriaid yn rhagdybio.

Newyn[golygu | golygu cod]

Mae newyn yn digwydd pan nad oes yna ddigon o fwyd i fwydo poblogaeth gwlad. Mae hyn yn digwydd ar raddfa eang mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. U.S. Billion-Dollar Weather and Climate Disasters
  2. G. Bankoff, G. Frerks, D. Hilhorst (eds.) (2003). Mapping Vulnerability: Disasters, Development and People. ISBN 1-85383-964-7.CS1 maint: multiple names: authors list (link)