Deugotyledon

Oddi ar Wicipedia
Deugotyledonau
Magnolia
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ffylwm: Magnoliophyta
Dosbarth: Magnoliopsida*
Brongniart
Urddau

Llawer, gweler y rhestr

Planhigion blodeuol â dwy had-ddeilen yw'r deugotyledonau (hefyd dicotyledonau, deuhad-ddail, deugibogion). Maent yn cynnwys tua 200,000 o rywogaethau.[1] Fe'u dosberthir yn y dosbarth Magnoliopsida (neu Dicotyledones) yn draddodiadol, ond mae astudiaethau o'u DNA a'u paill yn dangos bod nhw'n ffurfio sawl grŵp gwahanol; yr ewdicotau yw'r grŵp mwyaf ac maent yn cynnwys y rhan fwyaf o'r deugotyledonau.

Fel arfer, mae gan y deugotyledonau ddail llydan coesog gyda gwythiennau rhwydog ac organau blodeuol wedi'u trefnu mewn lluosrifau o bedwar neu bump.

Urddau[golygu | golygu cod]

Mae dosbarthiad y deugotyledonau yn amrywio. Mae'r rhestr isod yn dilyn yr Angiosperm Phylogeny Group.[2] Mae dosbarthiad cywir nifer o deuluoedd yn ansicr.

Urdd Enghreifftiau
Amborellales
Nymphaeales lili'r dŵr
Austrobaileyales coeden anis
Chloranthales
"Magnoliidau"
  Canellales
  Laurales llawryfen
  Magnoliales magnolia, nytmeg, afal cwstard
  Piperales pupur du, esgorlys
Ceratophyllales cyrnddail
"Ewdicotau"
  Ranunculales blodyn ymenyn, pabi
  Teulu Sabiaceae
  Proteales protea, planwydden, lotws
  Trochodendrales
  Buxales pren bocs
  "Ewdicotau craidd"
    Gunnerales
    Teulu Dilleniaceae
    Saxifragales tormaen, eirinen Fair, briweg, rhosyn y mynydd
    Berberidopidsales
    Santalales uchelwydd
    Caryophyllales carnasiwn, cactws, ffigysen yr Hotentot
    "Rosidau"
      Vitales gwinwydden
      "Ewrosidau I"
        Zygophyllales
        Celastrales brial y gors
        Oxalidales suran y coed
        Malpighiales llaethlys, eurinllys, llin, mangrof, helygen, fioled
        Cucurbitales cucumer, melon, pwmpen
        Fabales ffeuen, pysen, meillionen, pysgneuen
        Fagales ffawydden, derwen, bedwen
        Rosales rhosyn, afal, llwyfen, danhadlen, cywarch
      "Ewrosidau II"
        Geraniales pig yr Aran, mynawyd y bugail
        Myrtales myrtwydden, llysiau'r milwr, melyn yr hwyr, grawnafal
        Crossosomatales
        Picramniales
        Huerteales
        Brassicales bresychen, mwstard, rêp
        Malvales hocysen, pisgwydden, cotwm, cor-rosyn
        Sapindales oren, lemon, mahogani
    "Asteridau"
      Cornales cwyrosyn
      Ericales grug, rhododendron, ffrwyth ciwi, te, briallen
      "Ewasteridau I"
        Teulu Boraginaceae cyfardwf, sgorpionllys
        Teulu Vahliaceae
        Teulu Icacinaceae
        Teulu Metteniusaceae
        Teulu Oncothecaceae
        Garryales
        Gentianales crwynllys, coffi
        Lamiales mintys, marddanhadlen, lafant, bysedd y cŵn, olewydden
        Solanales codwarth, tomato, taten, planhigyn ŵy, taglys
      "Ewasteridau II"
        Aquifoliales celynnen
        Asterales blodyn Mihangel, llygad y dydd, letysen, dant y llew
        Escalloniales esgalonia
        Bruniales
        Paracryphiales
        Dipsacales cribau'r pannwr, gwyddfid
        Apiales moronen, persli

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hamilton, Alan & Patrick Hamilton (2006) Plant conservation: an ecosystem approach , Earthscan, Llundain.
  2. The Angiosperm Phylogeny Group (2009) An update of the Angiosperm Phylogeny Group classification for the orders and families of flowering plants: APG III Botanical Journal of the Linnean Society 161 (2), 105–121.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Magnoliidau, Ewdicotau, Rosidau, Asteridau, Ewrosidau, Ewasteridau o'r Saesneg "Magnoliids, Eudicots, Rosids, Asterids, Eurosids, Euasterids". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.