Rêp
Gwedd
Rêp | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Brassicales |
Teulu: | Brassicaceae |
Genws: | Brassica |
Rhywogaeth: | B. napus |
Enw deuenwol | |
Brassica napus L. |
Planhigyn gyda blodau melyn yw rêp. Yn Ewrop, fe'i defnyddir yn bennaf i wneud olew neu fwyd anifeiliaid, ond gellir bwyta'r blagur a'r blodau wedi eu coginio fel llysieuyn.
Gellir gwasgu hadau rêp i greu olew. Defnyddir yr olew yma ar gyfer ffrio bwyd. Ceir cwmni Cymreig, 'Blodyn Aur' sy'n cynhyrchu olew rêp ar gyfer coginio.