Afal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Afalau
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Is-deulu: Maloideae
Genws: Malus
Rhywogaeth: M. domestica
Enw deuenwol
Malus domestica
Borkh.

Ffrwyth sydd yn cael ei feithrin led led y byd yn fwy nag un ffrwyth arall yw afal. Heddiw, bwytawn yn bennaf Malus domestica, ond mae'n debyg mai ei hynafiaid gwyllt oedd Malus sieversii, sy'n dal i fod yn goeden wyllt ar fynyddoedd Asia ganol, yn Casachstan, Kyrgyzstan, Tajikistan, a rhan deheuol ardal Xinjiang yn Tsieina.

Fe wneir y ddiod seidr o afalau.

Mae'r mathau hyn yn tyfu yng Nghymru, yn ôl yr arbenigwr Ian Sturrock: Croen Mochyn, Pig y Golomen, Sant Cecilia, Glyndŵr, Pig Aderyn, Trwyn Mochyn, Cox Cymreig, Gwell na Mil ac Afal Nant Gwrtheyrn.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [Y Wawr; Rhif 170, Gwanwyn 2011.]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am afal
yn Wiciadur.