Rhosyn
Rhosod | |
---|---|
![]() | |
Hen fath o rosyn: Rosa bracteata | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Is-deulu: | Rosoideae |
Genws: | Rosa L. |
Rhywogaethau | |
mwy na 100 |
Planhigyn blodeuol yw'r Rhosyn (Lladin: Rosa, teulu'r Rosaceae) sy'n cael ei dyfu oherwydd ei harddwch a'i arogl ac sy'n tarddu'n wreiddiol o Bersia, ac felly hefyd tarddiad yr enw Saesneg 'Rose' via 'rhodon' (Groeg) sef 'coch'. Credir bod dros 10,000 gwahanol o fath o rosod ar gael.[1]
Mae'r dywediad Lladin "dan y rhosyn" yn golygu Sub Rosa ac fe’i defnyddir i olygu cyfrinachedd.
Y rhosyn mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod]
Ceir llawer iawn o gyfeiriadau at y rhosyn mewn llenyddiaeth Gymraeg a llawer o ieithoedd eraill gan gynnwys hen benillion a chaneuon traddodiadol megis:
- "Dau rosyn coch a dau lygad du
- Yn y baw a'r llaca o Syr!" mynte hi.

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]
Defnyddir y Rosa gallica fel te iachusol a chaiff ei dyfu yn Swydd Rydychen a Swydd Derby i'r perwyl hwn, a thrwy'r byd. Mae blodau'r math hwn yn borffor tywyll ac yn felfedaidd. Yn wir, gellir defnyddio unryw fath o rosyn sydd â phetalau coch neu borffor i wella peswch, dolur gwddw a gwaedlif. Gellir eu defnyddio hefyd y tu allan i'r corff, mewn bwltis.[1]