Dant y llew
Dant y llew | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Taraxacum Cass. |
Rhywogaethau | |
Llawer |
Llysieuyn ydy dant y llew (enw arall ydy dant y ci neu dail clais) (Lladin Taraxacum; Saesneg dandelion, Ffrangeg pissenlit) sydd fel arfer yn tyfu'n wyllt. Mewn gardd, caiff ei ystyried yn chwynyn, er bod rhai'n ei dyfu oherwydd ei rinweddau meddygol. Mae ganddo ddail sydd rhwng 5 a 25 cm o hyd. Dywed rhai botanegwyr fod tua 200 gwahanol fath, ond y gred bellach ydy mai tua 60 math gwahanol sydd.[1]
Rhinweddau meddygol
[golygu | golygu cod]Credir fod dant y llew yn cynnwys: potasiwm, calsiwm, clorin (halwynau gwrthsurol), fitamin C a fitamin B1. Mae'r dail yn wych ar gyfer diffyg traul, at yr arenau ac at glirio'r gwaed. Mae rhinwedd arall hefyd: fel carthydd (laxative). Gellir bwyta'r dail ffres ar frechdan. O dorri'r coesyn bregus fe gewch sudd gwyn; gellir defnyddio hwn ar gyfer gwella defaid ar y croen. Gellir defnyddio'r gwreiddiau hefyd, o'u golchi, eu sychu a'u crasu'n dda ac yna eu gratio'n fân i wneud coffi di-gaffîn.[2]
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Mae'r rhywogaeth a adwaenir fel Taraxacum officinale agg. (y math sy'n cynnwys yr amryfal micro-rywogaethau o dan yr un 'ambarél') wedi ei chofnodi ymhob sgwâr 10Cm. o'r bron yng Nghymru. Fodd bynnag mae'r nifer o gofnodion ar draws de'r wlad yn gyson fwy nag yn y gogledd [3]. Cynigir bod cyfuniad o resymau posibl am hyn: a) mwy o boblogaeth yn y de felly mwy o gofnodi botanegol, b) mwy o all-lif nitradau o'r caeau dan rheolaeth amaethyddol dwysach (mae dant y llew yn nitroffil), c) mwy o ffyrdd ac felly mwy o dir ymylol ac allyriadau o geir, ch) mwy o foeli'r pridd gan beiriannau adeiladu.
Ffenoleg
[golygu | golygu cod]2010: Bu gwanwyn 2010 yn arbennig am y blodyn pi-pi gwely. Bu ymylon y lonydd yn drwm o ddant y llew i'r graddau y bu i nifer sylwi arnynt a thrafod ar y cyfryngau hyd ganol mis Mai o leiaf. Bu son yn y gogledd orllewin ac yn y de. Llun: Duncan Brown 11/05/2010
Dyma esboniad Twm Elias o’r ffenomenon:
- “Ai'r tywydd oer gafwyd ddechrau’r flwyddyn, sy’n gyfrifol am euro ochrau’r ffyrdd mor drawiadol â blodau dant y llew ganol Mai eleni? Hynny yw, pan geir gaeafau tyner, fel y cafwyd dros y ddau ddegawd diwethaf, bydd tymor blodeuo’r dant y llew yn llawer mwy estynedig, gan gychwyn cyn gynhared â Chwefror/Mawrth ambell flwyddyn, gan fynd ymlaen hyd ganol Mai. Ond pan geir tywydd oer i’w dal yn ôl (onid yw yn dymor hwyr eleni (2010) i gymaint o flodau eraill y gwanwyn hefyd?) mi arhosant hyd nes cynhesith y tywydd. A phan ddigwyddith hynny mi fydd y cyfan yn blodeuo hefo’i gilydd i roi’r sioe ryfeddol welsom ni eleni. Posib y byddai sychder yn cael rhywfaint o effaith hefyd ambell i wanwyn sych, ond am fod gan y dant y llew wreiddyn dwfn, go brin fod sychder yn cael effaith mor drawiadol â thymheredd ar y blodeuo. Wyddoch chi y gall un planhigyn dant y llew, dan amodau ffafriol, gynhyrchu hyd at 20,000 o hadau'r tymor? Gall gynhyrchu nifer fawr o bennau blodeuog gyda’i gilydd ar y tro ac fel y bydd y rheiny yn hadu bydd mwy o bennau yn dod i gymryd eu lle drwy’r tymor. Am ei fod yn lluosflwydd, tybed faint o hadau fedr o gynhyrchu drwy ei oes?"
Ynteu ai sychder gwanwyn 2010 oedd yn gyfrifol? Beth am gnydau mawr o ddant y llew yn y gorffennol - a oeddynt yn gysylltiedig â gwanwynau sych?
1946: Dyma ddywedodd Edie Rutherford o Sheffield ar y 5 Fai 1946 yn ei dyddiadur: Last evening we went for a walk through Beeley Woods, cuckoo noisy and lots of other birds singing. Fields masses of dandelions... Tybed oedd gwanwyn 1946 yn sych fel 2010?
Dyma gofnododd adarwr o Swydd Gaerhirfryn y gwanwyn hwnnw yn British Birds: The spring of 1946 was marked by the unusual number of waders and other migrants which visited inland waters in S. Lancs, and N. Ches. between mid-April and mid-May. This period coincided with a spell of dry weather (no rain fell between April 28th and May 16th), which by reducing the water-level of the "flashes" (coal-mining subsidences) exposed suitable feeding-ground for waders.[3]
1984: Yn 1984 tynnwyd llun o’r doreth drawiadol o ddant y llew mewn cae ger Harlech y gwanwyn hwnnw[4]. Nodir dau gofnod i'r perwyl o sychder gwanwyn y flwyddyn honno yn Nhywyddiadur Llên Natur[www.llennatur.cymru], sef 1) JA reports much more moss in pied flycatcher nests this year, perhaps because of its dryness earlier in the year and similarity to dried grass a 2) song thrushes going for snails at Bro Enddwyn to an exceptional degree (y pridd yn rhy galed i gyrraedd pryfed genwair?
Gan ei bod yn anodd dosrannu effeithiau'r ddau ffactor oerni a sychder oherwydd iddynt yn aml gyd redeg yn y gwanwyn, mae'n rhaid parhau i gadw meddwl agored ar ba sbardun sy'n ysgogi blynyddoedd dant y llew helaeth. Un peth sy'n hysbys: mae planhigion yn gyffredinol yn blodeuo'n helaethach pan font yn cael eu herio gan dywydd eithriadol o unrhyw fath - fel y dywedodd yr arddwraig Denise Quéré o Landerne, Llydaw: il faut les faire souffrir un peu - mae’n rhaid eu gwneud i ddioddef ychydig (i gael llwyth o flodau yn yr ardd).[5]