Fitamin C
![]() | |
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol |
Cyfansoddyn cemegol, meddyginiaeth, fitamin ![]() |
Fformiwla gemegol |
C₆h₈o₆ ![]() |
Enw WHO |
Ascorbic acid ![]() |
Rhan o |
response to L-ascorbic acid ![]() |
![]() |

Fitamin C, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel asid ascorbic a L-ascorbig, mae'n fitamin sy'n cael ei ddarganfod mewn bwyd ac yn cael ei ddefnyddio fel atodiad dietegol. Mae clefyd y sgyrfi yn cael ei atal a'i drin gyda bwydydd sy'n cynnwys fitamin C neu atchwanegiadau dietegol. Nid yw'r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio yn y boblogaeth gyffredinol ar gyfer atal annwyd.[1][2] Fodd bynnag, mae yna rywfaint o dystiolaeth y gallai defnydd rheolaidd leihau annwyd.[3] Nid yw'n glir os yw atodiad yn effeithio ar y risg o ganser, clefyd cardiofasgwlaidd neu ddementia.[4][5] Gellir ei gymryd trwy'r geg neu drwy chwistrelliad.
Yn gyffredinol, mae fitamin C yn cael ei oddef yn dda. Gall dosau mawr achosi anghysur gastroberfeddol, cur pen, trafferth yn cysgu, a fflysio'r croen. Mae dosau arferol yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd.[6] Mae Sefydliad Meddygaeth yr Unol Daleithiau yn argymell peidio cymryd dosau mawr.[7]
Mae fitamin C yn faetholiad hanfodol sy'n gysylltiedig â thrwsio meinwe a chynhyrchu enzymatig o rai niwro-drosglwyddyddion. Mae'n ofynnol ar gyfer gweithredu nifer o ensymau ac mae'n bwysig ar gyfer swyddogaeth system imiwnedd.[8] Mae hefyd yn gweithredu fel gwrthocsidydd. Mae bwydydd sy'n cynnwys fitamin C yn cynnwys ffrwythau sitrws, brocoli, sbrowts, pupur coch amrwd a mefus. Gall storio neu goginio'r bwydydd yma yn lleihau cynnwys fitamin C sydd ynddynt.
Darganfuwyd fitamin C yn 1912, ynyswyd yn 1928, ac yn 1933 cafodd y fitamin gyntaf i'w gynhyrchu'n gemegol. Mae Fitamin C ar restr o Feddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, fel y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen yn y system iechyd.[9] Mae fitamin C ar gael fel meddyginiaeth generig a chyffur dros y cownter. Yn 2015, roedd y gost gyfanwerthol yn y byd yn datblygu yn llai na US $ 0.01 y dabled.[10] Yn rhannol am ei ddarganfyddiad, enillodd Albert Szent-Györgyi a Walter Norman Haworth Gwobrau Nobel 1937 mewn Ffisioleg, Meddygaeth a Chemeg, yn y drefn honno. [11][12]
Ffynhonnell fitamin C[golygu | golygu cod y dudalen]
Planhigion[golygu | golygu cod y dudalen]
Cymerwch 100 gram o'r llysiau a'r ffrwythau canlynol, ac fe welwch yn y tabl faint o fitamin C sy'n bresennol ynddynt.
Ffynhonnell | Faint / Swm (mg / 100g) |
---|---|
Plwm Kakadu | 3100 |
Camu Camu | 2800 |
Bochgoch | 2000 |
Acerola | 1600 |
Seabuckthorn | 695 |
Jujube | 500 |
Indian gooseberry | 445 |
Baobab | 400 |
Cwraints duon | 200 |
Pupur Coch | 190 |
Persli | 130 |
Gwafa | 100 |
Ffrwyth Ciwi | 90 |
Brocoli | 90 |
Loganberry | 80 |
Cwraints cochion | 80 |
Ysgawell | 80 |
Wolfberry (Goji) | 73 † |
Lychee | 70 |
Cloudberry | 60 |
Ysgawen | 60 |
Persimmon | 60 |
Papaya | 60 |
Mefus | 60 |
Orenau | 50 |
Lemon | 40 |
Melon, cantaloupe | 40 |
Blodfresych | 40 |
Garlleg | 31 |
Cig anifeiliaid[golygu | golygu cod y dudalen]
Gallwn gael ein fitamin C hefyd o gig, yn enwedig iau. Does na fawr ohono mewn cyhyr fodd bynnag. Cymerwch 100 gram o'r cigoedd canlynol, ac fe welwch yn y tabl faint o fitamin C sy'n bresennol ynddynt:
Ffynhonnell | Faint / swm (mg / 100g) |
---|---|
Iau llo bach (amrwd) | 36 |
Iau eidion (amrwd) | 31 |
Wystrys (amrwd) | 30 |
Wyau Penfras ('roe') (wedi'u ffrio) | 26 |
Iau Porc (amrwd) | 23 |
Ymennydd cig oen (wedi'i ferwi) | 17 |
Iau cyw iâr (wedi'i ffrio) | 13 |
Ffynonell | Faint / swm (mg / 100g) |
---|---|
Iau cig oen (wedi'i ffrio) | 12 |
Calon oen (wedi'i rostio) | 11 |
Tafod oen (wedi'i ferwi) | 6 |
Llaeth dynol (ffresh) | 4 |
Llaeth gafr (ffresh) | 2 |
Llaeth buwch (ffresh) | 2 |
Darganfod fitamin C[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd tîm o Hwngari rhwng 1928 ac 1933 wrthi fel lladd nadroedd yn ceisio profi bodolaeth asid ascorbic, dan arweiniad Joseph L Svirbely ac Albert Szent-Györgyi. Yn 1937 derbyniodd y ddau wobr Nobel mewn meddygaeth am eu gwaith.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Fact Sheet for Health Professionals - Vitamin C". Office of Dietary Supplements, US National Institutes of Health. February 11, 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 30, 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ WHO Model Formulary 2008 (PDF). World Health Organization. 2009. t. 496. ISBN 9789241547659. Cyrchwyd December 8, 2016.Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Vitamin C for preventing and treating the common cold". The Cochrane Database of Systematic Reviews (1): CD000980. January 2013. doi:10.1002/14651858.CD000980.pub4. PMID 23440782.
- ↑ "Effect of antioxidant vitamin supplementation on cardiovascular outcomes: a meta-analysis of randomized controlled trials". PLOS One 8 (2): e56803. 2013. Bibcode 2013PLoSO...856803Y. doi:10.1371/journal.pone.0056803. PMC 3577664. PMID 23437244. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3577664.
- ↑ "Vitamin C: Promises Not Kept". Obstetrical & Gynecological Survey 71 (3): 187–93. March 2016. doi:10.1097/OGX.0000000000000289. PMID 26987583.
- ↑ "Ascorbic acid Use During Pregnancy | Drugs.com". www.drugs.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 31, 2016. Cyrchwyd December 30, 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Institute of Medicine (2000). "Vitamin C". Dietary Reference Intakes for Vitamin C, Vitamin E, Selenium, and Carotenoids. Washington, D.C.: The National Academies Press. tt. 95–185. ISBN 0-309-06935-1. Cyrchwyd September 1, 2017.Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Vitamin C". Micronutrient Information Center, Linus Pauling Institute, Oregon State University, Corvallis, OR. January 14, 2014. Cyrchwyd March 22, 2017.
- ↑ "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar December 13, 2016. Cyrchwyd December 8, 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "International Drug Price Indicator Guide. Vitamin C: Supplier Prices". Management Sciences for Health, Arlington, VA. 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 23, 2017. Cyrchwyd March 22, 2017. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "The Nobel Prize in Physiology or Medicine 1937". Nobel Media AB. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 5, 2014. Cyrchwyd November 20, 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Nobel Prize 1937 to Albert von Szent-Györgyi: identification of vitamin C as the anti-scorbutic factor". Acta Paediatrica 98 (5): 915–9. May 2009. doi:10.1111/j.1651-2227.2009.01239.x. PMID 19239412.