Iâr (ddof)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cyw iâr)
Jump to navigation Jump to search
Iâr (ddof)
Amrediad amseryddol:
Cretacaidd cynnar– Holosen
105–0 Miliwn o fl. CP
[1]
Ceiliog a iâr
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Galliformes
Teulu: Phasanidae
Genws: Gallus
Rhywogaeth: G. gallus
Enw deuenwol
Gallus gallus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Gallus gallus domesticus

Aderyn a gedwir ar gyfer ei wyau a'i chig yw'r iâr ddof (Gallus gallus, weithiau G. gallus domesticus).

Credir ei fod wedi datblygu o ddwy rywogaeth o iâr wyllt a geir yn India a De-ddwyrain Asia, Ceiliog coedwig coch (Gallus gallus) a'r Ceiliog coedwig llwyd (Gallus sonneratii). Dim ond y fenyw sy'n "iâr" mewn gwirionedd, tra cyfeirir at y gwryw fel "ceiliog", ond cedwir llawer mwy o'r ieir nag o geiliogod.

Mae'r adar hyn yn perthyn i un o ddwy urdd, o ran dosbarthiad gwyddonol: ieir y tir (Galliformes) a ieir ddŵr(Anseriformes). Mae'r astudiaeth ddiweddaraf o'u hanatomeg a'u genynnau'n dangos fod y ddau fath yn perthyn yn agos iawn at ei gilydd. Gyda'i gilydd, mae'r ddwy urdd yn creu cytras (clade): Galloanserae, a arferid ei galw'n 'Galloanseri' ac yn 'retrotransposon'.[2] Cefnogir y cytras hwn hefyd gan ddata dilyniant DNA a morffolegol.[3][4]

Mae'r iâr yn un o'r anifeiliaid dof mwyaf niferus, gyda tua 24 biliwn yn cael eu cadw trwy'r byd.

Ceir nifer o hen bennillion a chaneuon traddodiadol sy'n cyfeirio ati:

Mae gen i iâr a cheiliog
A brynais ar ddydd Iau,
Mae'r iâr yn dodwy ŵy bob dydd
A'r ceiliog yn dodwy dau.
Hen iâr fach bert
Yw fy iâr fach i
Un pinc a melyn
A choch a du,
Fe aeth i'r cwt
I ddodwy wy
Ond cododd ei chwt-cwt-cwt
Ac i ffwrdd â hi.

Cyw iâr[golygu | golygu cod y dudalen]

Cywion ieir newydd eu lladd a'u pluo.

Lleddir cywion ieir ar gyfer y ford. Gwneir hyn fel arfer gydag ieir batri, h.y. a fagwyd mewn ffatrioedd, ond ceir hefyd gywion ieir maes, h.y. a fagwyd yn yr awyr agored, gyda chanran bychan ohonyn nhw hefyd yn organig. Un o'r ymgyrchwyr cryfaf dros gig llygad yr haul, organig ydy Hugh Fearnley-Whittingstall [5][6] drwy'i raglen deledu River Cottage.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen drefn cadw ieir[golygu | golygu cod y dudalen]

Erthygl heb ei golygu gan Gwilym T. Jones ("Gwilym Ty Crwn") a ysgrifennwyd yn 2018 ac a gasglwyd gan Wil Williams[7]

Cadw ieir yn Ty Crwn, Bodorgan, 1955-1962. Yn 1955 penderfynwyd i gadw ieir ar gyfer cynyrchu wyau i’w gwerthu. Codwyd cwt pwrpasol i’w cartrefu. Cwt o frics a to asbestos , tua 27 troedfedd wrth 15 troedfedd, gyda llawr o gonctit. Roedd iddo drws a tair ffenast, clwydi a blychod iddynt ddodwy eu wyau. Prynu 100 o gywion mis oed o Finney Bros, oedd yn cael eu gyrru mewn bocsus cardboard i Station Bodorgan.

Pryd hynny roedd chwech yn gweithio yn y station: y Station Feistr, un clerc, dau borter a dau signalman. Erbyn heddiw, does neb yn y station i dderbyn bocsus o gywion na dim byd arall ran hynny. Brid yr ieir oedd 50 o Rhode Island Red (ddim y rhai gorau am ddodwy ond yn pwyso mwy pan ddoi’n amser eu gwerthu) a 50 o White Legorn (gwell am ddodwy ond yn ysgafnach iar). Cadw’r ieir i mewn ar Deep Litter*, sef haen o wellt ceirch ar lawr y cwt. Ychwanegwyd haen newydd i gadw’r llawr yn lan, fel bo’r galw.

Roeddent yn cael eu bwydo i ddechrau ar ‘growers pellets’, ac wedyn ar ‘layers pellets’ pan ar fin dechrau dodwy (ar ôl tua chwe mis neu gynt). Jones o Valley oedd yn cyflenwi bwyd yr ieir. Lever oedd y cynyrchwyr y bwyd. Ychwanegwyd ‘grit’ hefyd oedd yn cynorthwyo treilio’r bwyd ac i sicrhau eu bod yn cael cyflenwad digonol o galsiwm. A cyflenwad o ddŵr glan, wrth gwrs.

Pryd hynny Gwilym Jones o Rhosmeirch oedd ein ‘dyn wyau ni’ - yn dod i nol y wyau bob wythnos. Byddem yn rhoi y wyau i ddechrau mewn ‘tray’ oedd yn dal dau ddwsin a hanner o wyau (6x5=30) fel heddiw. Trosglwyddwyd y ‘trays’ i focs pren ysgafn ddaliai 30 dwsin o wyau - chwech ‘tray’ bob ochr o’r bocs, (dau ddwsin a haner x 2x6=30 dwsin). Ar ol peth amser, cai’r wyau eu gradeioyn ol eu maint: large, medium, standard a small. Ar ol eu cadw i ddodwy am tua blwyddyn byddent yn cael eu gwerthu.

Byddai dyn o’r enw Zimba o Llanerchymedd (o Wlad Pwyl yn wreiddiol) yn dod i’w nol ac yn talu swllt a thair ceiniog y pwys, a’r pris yn dod o fewn chwe swllt i saith swllt yr iar. Credir i’r ieir wedyn gael eu lladd a’u gwerthu i hotels drwy ogledd Cymru. Byddai cofnodion o’r holl gostau a’r derbyniadau yn cael eu cadw. Disgwylir gael ‘cyflog’ o £1 y iar- sef £100 y flwyddyn - ‘cyflog’ derbyniol iawn yn y cyfnod hwnnw.

Yn 1962 newidiodd amgylchiadau a rhoddwyd y gora iddi i gadw ieir.*

Deep Litter. Gweler Wikipedia am hanes deep litter.

Llên Gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Mae yna stori ar led bod Mr Kellog wedi mabwysiadu ceiliog i hysbysebu ei gornfflecs ar gais y delynores Nansi Richards oherwydd tebygrwydd ceiliog a kellog. Myth Cymreig?[8]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Van Tuinen M. (2009) Birds (Aves). In The Timetree of Life, Hedges SB, Kumar S (eds). Oxford: Oxford University Press; 409–411.
  2. Sibley, C, Ahlquist, J. & Monroe, B. (1988)
  3. Chubb, A. (2004)
  4. Kriegs et al. (2007)
  5. BBC (2012). "Food Chefs: Hugh Fearnley-Whittingstall". BBC. BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-06-26. Cyrchwyd 30 Gorff. 2012. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. "Hugh Fearnley-Whittingstall Profile". The Guardian. London. 3 Hydref 2007. Cyrchwyd 28 Mai 2008.
  7. Williams, W. (2018) ebost personol i D. Brown
  8. Gareth Pritchard ym Mwletin 41