Ŵy (bwyd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ŵy cyw iâr ar y chwith, a dau ŵy sofliar ar y dde

Mae bodau dynol wedi bwyta wyau a ddodir gan nifer o rywogaethau, gan gynnwys adar, ymlusgiaid, amffibiaid, a physgod, am filoedd o flynyddoedd. Yr ŵy mwyaf poblogaidd yng nghoginiaeth o gwmpas y byd o bell ffordd yw ŵy'r cyw iâr.

Seigiau wyau[golygu | golygu cod y dudalen]

Traddodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

“Llun o glap fy mam. Mi fydda hi’n arfer clapio am wyau pan yn blentyn yn ardal Bodedern yn nhridegau y ganrif ddwytha!” Sian Hughes - traddodiad gwerin ar draws Sir Fôn.

Roedd mynd i glapio cyn y Pasg yn arfer poblogaidd gan blant Sir Fôn, flynyddoedd yn ôl. Fel rheol roedd y plant yn cael awr neu ddwy o’r ysgol neu ddiwrnod neu ddau cyn cau’r ysgol er mwyn cael mynd i gasglu wyau ieir o gwmpas ffermydd a thyddynnod yr ardal. Defnyddid darn o bren gyda dau ddarn bach bob ochor er mwyn creu’r ‘clapar’ a phiser bach neu fasgiad gyda gwellt neu laswellt at waelod y fasgiad er mwyn cael casglu’r wyau ac i wneud yn siŵr nad oedd yr wyau yn cael eu difetha ar y ffordd.

Arferai'r plant fynd o amgylch ffermydd yr ardal gan guro drysau ac adrodd rhigwm wrth ysgwyd y clapiwr. Mae Clap, clap, gofyn ŵy, Hogia bach ar y plwy, Plîs ga’i ŵy? yn enghraifft o rigwm maen nhw’n parhau i ddefnyddio hyd heddiw.

Yn ôl yr arferiad byddai’r drws yn cael ei agor a’r person tu mewn i’r tŷ yn gofyn “A phlant bach pwy ’dach chi?” Ar ôl cael ateb, byddai perchennog y tŷ yn rhoi ŵy yr un i’r plant.[1]

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae yna adfywiad wedi bod o ganlyniad i waith Menter Iaith Môn ar yr Ynys. Cynhelir gweithgareddau clapio wyau yn flynyddol ym mhentrefi Llynfaes, Talwrn, Rhosybol a Charreglefn. Wyau siocled yw’r arferiad erbyn hyn, nid wyau ieir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]