Recordiau Byd Guinness

Oddi ar Wicipedia
Lucky Diamond Rich yw'r person gyda'r mwyaf o datŵs yn y byd; mae ganddo datŵs yn gorchuddio ei gorff i gyd. Mae wedi dal y Record Byd Guinness ers 2006.

Defnyddir Recordiau Byd Guinness i gyfeirio at lyfr sy'n cael ei gyhoeddi'n flynyddol ac sy'n rhestru recordiau byd yn seiliedig ar orchestion pobl ac eithafion y byd naturiol yw Guinness World Records, a oedd yn cael ei adnabod rhwng 1955 a 2000 fel The Guinness Book of Records ac mewn argraffiadau blaenorol yn yr Unol Daleithiau fel The Guinness Book of World Records. Yn gynnyrch meddwl Syr Hugh Beaver, cafodd y llyfr ei sefydlu ar y cyd gan y brodyr Norris a Ross McWhirter yn Stryd y Fflud, Llundain yn Awst 1954.

Mae gan llyfr ei hun record byd fel y llyfr dan hawlfraint sydd wedi gwerthu'r nifer fwyaf o gopiau erioed. Pan argraffwyd cyfrol 2019, roedd yn cael ei gyhoeddi mewn 100 o wledydd ac mewn 23 o ieithoedd. Mae hefyd cyfres deledu ac amgueddfeydd Recordiau Byd Guinness i'w cael, ac mae ei boblogrwydd wedi troi Recordiau Byd Guinness yn brif awdurdod rhyngwladol ar gyfer cofnodi a chadarnhau nifer helaeth o recordiau byd; mae'r corff yn cyflogi dyfarnwyr recordiau swyddogol sydd wedi'u hawdurdodi i wirio dilysrwydd gosod a thorri recordiau.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Frequently Asked Questions". Guinness World Records. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2012. Cyrchwyd 10 Chwefror 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)