Dofi

Oddi ar Wicipedia
Godro buwch yn yr Hen Aifft.

Dofi yw'r broses lle mae gwahanol rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion yn cael eu defnyddio a'u haddasu ar gyfer dibenion dynol. Gellir eu defnyddio ar gyfer bwyd neu at ddibenion eraill, er enghraifft gwlân o ddefaid i wneud dillad. Fel rheol, mae'r rhywogaethau hyn yn cael ei newid trwy fridio dewisol i'w gwneud yn fwy addas ar gyfer y dibenion hyn.

Y rhywogaeth gyntaf i'w dofi oedd y ci, ffurf wedi ei dofi o'r blaidd, efallai tua 100,000 o flynyddoedd yn ôl. Y rhai nesaf oedd yr afr, y ddafad a'r mochyn, tua 8000 CC yng ngorllewin Asia. Dilynwyd hwy gan y fuwch tua 6000 CC.

Ymysg y rhywogaethau o anifeiliaid sydd wedi eu dofi mae:

Rhywogaeth Dyddiad Lleoliad
Ci 15000 CC. Nifer o leoliadau
Gafr 10000 CC.[1] Asia a'r Dwyrain Canol
Dafad 8000 CC.[2] Asia a'r Dwyrain Canol
Mochyn 8000 CC.[3] Tsieina
Buwch 8000 CC.[4][5] India, Dwyrain Canol, Affrica
Cath 7000 CC.[6] Y Môr Canoldir
Iâr 6000 CC.[7] De-ddwyrain Asia
Mochyn cwta 5000 CC.[8] Periw
Asyn 5000 CC.[9],[10] Hen Aifft
Byffalo dŵr 4000 CC. Tsieina
Ceffyl 4000 CC. Wcrain
Lama 3500 CC. Periw
Camel 2500 CC.??? Canolbarth Asia

Cysyniadau[golygu | golygu cod]

Byddai rhai yn dadlau mai disgrifiad o ddofi yn golygu to domesticate yw'r uchod[11] Ystyriwch y paragraff hwn (o Diamond 1997[12]

It’s true, of course, that some large African animals have occasionally been tamed. Hannibal enlisted tamed African elephants in his unsuccessful war against Rome, and ancient Egyptians may have tamed giraffes and other species. But none of those tamed animals was actually domesticated – that is, selectively bred in captivity and genetically modified so as to become more useful to humans. Had Africa’s rhinos and hippos been domesticated and ridden, they would not only have fed armies but also have provided an unstoppable cavalry to cut through the ranks of European horseman. Rhino mounted Bantu shock troops could’ve overthrown the Roman Empire. It never happened.

Cyfieithwch hwn! Onid yw’r Gymraeg yn brin o eirfa? Mae’r gwahaniaeth rhwng to tame a to domesticate fel cysyniadau yn waelodol bwysig i’n dealltwriaeth o hanes y ddynoliaeth. Mae ein hanes ynghlwm wrth yr ail broses (sef domesticating) anifeiliaid a phlanhigion. Ac eto does dim gair sefydlog gennym yn y Gymraeg i wahaniaethu rhwng y ddau gysyniad gwahanol hwn. (Ffrangeg: apprivoiser a domestiquer; Almaeneg: zähmen a domestizieren ).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Melinda A. Zeder, Goat busters track domestication.(physiologic changes and evolution of goats into a domesticated animal) Archifwyd 2012-02-04 yn y Peiriant Wayback., Ebrill 2000, (Saesneg).
  2. Michaël Lallemand, Courte synthèse sur l'histoire du mouton, de la domestication à nos jours, 2002, (Ffrangeg). See also Pre-Historic Zawi Chemi Shanidar, (Saesneg).
  3. Giuffra E, Kijas JM, Amarger V, Carlborg O, Jeon JT, Andersson L. The origin of the domestic pig: independent domestication and subsequent introgression., Ebrill 2000, (Saesneg).
  4. "Late Neolithic megalithic structures at Nabta Playa (Sahara), southwestern Egypt". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10-09. Cyrchwyd 2010-08-19.
  5. Source : Laboratoire de Préhistoire et Protohistoire de l'Ouest de la France [1] Archifwyd 2009-06-26 yn y Peiriant Wayback., (Ffrangeg).
  6. .Un chat apprivoisé à Chypre, plus de 7000 ans avant J.C., Press release from the CNRS, Ebrill 2004, (Ffrangeg). Original article: J.-D. Vigne, J. Guilaine, K. Debue, L. Haye & P. Gérard, Early taming of the cat in Cyprus, Science, 9 avril 2004.
  7. West B. and Zhou, B-X., "Did chickens go north? New evidence for domestication", World’s Poultry Science Journal, 45, 205-218 (1989), quoted here, 8 p. (Saesneg).
  8. History of the Guinea Pig (Cavia porcellus) in South America, a summary of the current state of knowledge
  9. Beja-Pereira, Albano et al., "African Origins of the Domestic Donkey", Science 304, 1781 (18 Mehefin 2004), ici Archifwyd 2008-04-11 yn y Peiriant Wayback., (Saesneg).
  10. Roger Blench, The history and spread of donkeys in Africa' Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback. (Saesneg).
  11. Bwletin Llên Natur 155, tud. 4
  12. Diamond J. (1997) Guns Germs and Steel - a short history of everybody for the last 13,000

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am Dofi
yn Wiciadur.