Mochyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Am y mochyn wedi ei ddofi, gweler Mochyn (dof)
Moch
Moch dof
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Suidae
Genws: Sus
Linnaeus, 1758
Rhywogaethau

Gweler y rhestr

Mochyn yw anifail sy'n aelod o'r genws Sus o fewn y teulu Suidae, sydd yn garnolion eilrif-fyseddog (Artiodactyla). Yr enw ar fochyn bach yw porchell (ll. perchyll). Gall y gair 'moch' gyfeirio at foch dof, mochyn gwyllt Ewropeaidd (Sus scrofa) ac eraill. Yn yr un teulu, ond mewn genws ar wahân mae'r mochyn gwyllt, pecari, barbirwsa a'r Phacochoerus. Maent yn frodorol o Ewrasia ac Affrica. Yr enw ar fochyn bach yw porchell (ll. perchyll). Mae moch yn hollysyddion, ac felly'n bwyta cig, planhigion, ffwng ayb ac maent yn greaduriaid cymdeithasol a chall.[1] Y ffurf dorol ydy 'cenfaint o foch'.

Enwau[golygu | golygu cod y dudalen]

Enw ar fferm ger Bethel yw Cae Hob. Ystyr hob yw mochyn (gweler Enwau Lleoedd). Dyma rai o'r enwau eraill sydd ar yr anifail hwn mewn enwau llefydd Cymraeg: hwch, baedd, porchell, banw, gwys, twrch. Cofir am yr hob yn y gytgan enwog Hob y deri dando - adsain o'r hen arfer o ddod ar hob o'r deri (lle rhedent yn wyllt) i'w ladd a'i osod ar fachyn dan y tô (dando)!

Mesobr[golygu | golygu cod y dudalen]

I’r Cymru, Gwyl Ieuan y Moch, a ddethlid ar 29 Awst, oedd y dyddiad cyntaf pan fu’n gyfreithlon i redeg moch yn y coed i’w pesgi ar fes ar gyfer y mesobr (pannage) tan y flwyddyn newydd. Enw arall yn y de yw Gwyl Ieuan y Cols - o decolatio (dienyddio) efallai? (Festival of the decollation of St John the Babtist[2]

Mae mes yn wenwynig i lawer o anifeiliaid a phobl, ond eithriad ydy moch. Byddent yn cael eu rhyddhau i goedydd derw yn yr hydref er mwyn pesgi ar y mes cyn cael eu lladd yn unol a threfn ‘mesobr’. Fe arferid y drefn hon ar borfa goediog, sef coedwigoedd a ddefnyddid ar gyfer pori anifeiliaid yn ogystal â darparu cyflenwad cynaliadwy o bren. Hyd yn oed heddiw, gellir gweld mesobr yn cael ei ymarfer yn y New Forest yn Lloegr. Defnyddid yr un ymarfer yn y Sbaen ac adwaenid ‘mesobr’ fel dehesa yn y wlad honno[3]

Mae yna ymadrodd yn Arfon swlffa. Dywed GPC amdano fel hyn:

swlffa’ to pry into, to pry about in search of, WVBD 509[4]; hwch yn swlffa am y mes o dan y coed [tybed ai adlais o'r mesobr yw hyn], ‘yn rhyw swlffa edrych ’oedd ’na rywbeth yn rhywle’, ‘chwilio a swlffa a phalfalu’n y tywyllwch’ (Arfon); ‘Swlffa’ ‘Chwilio am rywbeth, chwilota’, Cymru lxii. 176 (gorllewin Meir.) (Tarddiad ?cf. solffa, amr. ar sofla) [5] cymh. S. to glean sef chwilio am sbarion ŷd ymysg y sofl a'r adlodd; Ffrangeg, fouiner, chwilota'n flêr fel fouine (bele graig).

Rhywogaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gast, gyda phedwar porchell yn ei sugno; Ynys Môn 1960.
Mochyn Barfog yn Sw München, yr Almaen.

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Chwedl Math fab Mathonwy dywed Gwydion fod “anifeiliaid wedi dod i'r De na ddaeth eu bath i'r Ynys hon erioed….moch y'u gelwir”. Arddangosai moch canoloesol lawer o nodweddion cyntefig oherwydd mynych groesiadau â'r baedd gwyllt a ddaliodd ei dir yng nghoedwigoedd Cymru hyd y 15g15 - 16g. Dan Gyfraith Hywel gosodid dirwyon amrywiol am ddifrod wnâi moch i eiddo cymydog. Gollyngid y moch i'r goedwig o Ŵyl Ifan tan ganol gaeaf, ond wrth i'r coedwigoedd ddiflannu daethant fwyfwy yn anifeiliaid y caeau a'r buarth. Erbyn y 18g ceid amryw fathau - rhai golau yn fwyaf cyffredin, a rhai cochi, du a smotiog ac oll yn hir eu swch, main eu cefn ac araf i aeddfedu.

Gyda'r chwyldro diwydiannol cynyddodd y galw am gig moch yn y dinasoedd a'r porthladdoedd. Cyn dyfodiad y rheilffyrdd cerddai porthmyn lawer ohonynt i Loegr ac elai eraill ar longau, e.e. o Lŷn i Lerpwl. Gwellhaodd y stoc trwy'r 19g a daeth y twlc mochyn yn rhan hanfodol o bob fferm a thyddyn hyd at ganol yr 20g. Roedd diwrnod lladd mochyn yn achlysur pwysig pan helltid y cig at y gaeaf a defnyddid “pob rhan o'r mochyn heblaw'r wïch.”

Daeth brîd y mochyn Cymreig yn boblogaidd, ac erbyn y 1980au ef oedd y trydydd mwyaf niferus yng ngwledydd Prydain. Roedd yn wyn ei liw, gellid ei fagu dan do neu allan, ac roedd ei gig o'r safon uchaf gyda ac heb lawer o frasder.

Mae ffermydd moch erbyn heddiw (2017) yn fawr, gyda llawer yn magu dros 3,000 o foch. Ceir dau brif ddull cynhyrchu - dwys, lle cedwir moch Gwyn Mawr, Cymreig neu Landrace dan do, neu awyr agored, lle cedwir moch cenglog (Saddleback) a Chymreig yn bennaf. Gwerthir moch porc yn 4 - 5 mis oed yn pwyso tua 70 kg., moch bacwn a ham oddeutu 90 kg., ac aiff moch 100 kg neu fwy ar gyfer selsig a phasteiod.

Enwau lleoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Honnir nad mochyn yw ystyr "hob" yn Cae Hob ger Bethel ond enw person, ffurf ar Robert. Ond dywed yr arbenigwr enwau lleoedd Glenda Carr:

Nid yw'n amhosibl o gwbl mai mochyn sydd yn enw Cae Hob. Wrth son am wahanol enwau anwes megis Dican a Iocws ac enwau tebyg, mae Hob yn gallu bod yn ffurf anwes ar Robert. Credai Melville Richards mai ffurf anwes arall ar Robert, sef Dob, sydd yn enw Dob ger Tregarth. Ond ni fyddwn yn wfftio at neb a ddywedai mai Cae Mochyn yw ystyr Cae Hob - mae'r mochyn yr un mor dderbyniol a Robert. Yr unig reswm dros amau mai enw dyn sydd yma, yw y byddai rhywun wedi disgwyl cael Cae'r Hob (fel Cae'r mochyn a welir mor aml) wrth gyfeirio at anifail penodol ar ôl yr elfen 'cae'[1].

Yr Isadeiledd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd pob math o gyfarpar, darpariaerth ac arferion ar gyfer cadw moch ar y tyddyn Cymreig.

Cwt Mochyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid dibwys ymysg adeiladau'r fferm fyddai'r cwt mochyn a'r ffald o'i flaen. Byddai'n ofynnol pesgi moch er mwyn cael cadw'r teulu a defnydd cinio gydol y flwyddyn. Byddai yn rheidrwydd prynu perchyll cyn gynted ag y byddai'r cwt yn wag a byddai llawer o sbarion yn gwneud ymborth iddynt hyd nes y deuent yn ddigon mawr i ddechrau eu pesgi.

Y Boeler[golygu | golygu cod y dudalen]

Byddai gan bawb o'r bron dŷ popty ac yno hefyd ceid boeler i ferwi bwyd moch, rhyw fath ar grochan mawr wedi ei osod yn y fath fodd ac y byddai yn bosibl cynnau tan odano. Pob pythefnos, byddai eisiau tan o dan y boeler a'i llanw gyda chwlin tatws ac India mel a dŵr a'u berwi'n stomp. Dyna fyddai dogn y moch a digon o laeth sgim yn y cafn.

Y Diwrnod Lladd[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan ddeuai'r moch yn dew, ac i bwysau neilltuol o naw ugain i ddeg ugain pwys ar y cambren, mynych, pan ddoi gymydog i'r buarth byddai sgwrs wrth wal y cwt mochyn, gofynnai'r cwestiwn yn ddi-feth, "Faint 'na nhw?".... "Maen nhw wedi pesgi yn reit dda." Wedyn byddai'r diwrnod ag amser gyda'r lladdwr. Robert Roberts, Tŷ Du, Llanuwchllyn fyddai, yn gyffredin, yn lladd moch yn y cwm, a mantais fawr fyddai gwneud mor gynnar ag yr oedd modd yn y Gwanwyn cyn i'r tywydd ddechrau cynhesu. "Fedrwch chi gael y dŵr yn barod erbyn hanner dydd? Rydw'i eisiau torri yn y fan ar fan yn y bore." Dyna fyddai'r trefniant, a golygai hynny lanw'r boelar â dŵr. Golygai hynny ddeg i ddeuddeg galwyn a chynnau tan o dani a'i chael i ferwi erbyn yr amser penodedig. Gosod y car lladd yn y certws, sled focs a drws ar ei wyneb fyddai hynny fel rheol a byddai'n awr alaethus yn aml. Rhoi cort yn cryf, wedi ei wneud yn gwlwm rhedeg, yn ofalus yng ngheg y mochyn ac am ei drwyn.

Creadur anodd cael gafael ynddo yw'r mochyn, a byddai yn ofynnol bod yn eithaf deheuig i'w arwain i'w daith olaf a'i godi ar y car lladd. Dull digon creulon fyddai'r modd gynt a da erbyn heddiw na chaniateir y weithred. Rhaid dileu'r bywyd cyn gollwng y gwaed.

Cedwid y gwaed i gyd a byddai'r pwdin gwaed, wedi rhoddi wynwyn yno, ei grasu yn y popty a'i ffrio ar y badell, yn ymborth blasus.

Y Trin[golygu | golygu cod y dudalen]

Rŵan, doi'r broses fawr o grafu'r mochyn. Cymerid bwcedaid o ddŵr berwedig a'i roi bob yn ychydig ar y corff ac yna deuai'r holl flew yn glir gan adael y croen yn berffaith lan. Byddai angen sawl bwcedaid o ddŵr at y gwaith hwn. Wedyn rhaid oedd hongian y mochyn trwy ddod o hyd i'r gewynnau yn y traed ôl a gwthio'r cambren drwyddynt, yna ei godi a'i fachu wrth y distiau a'i ben i lawr. Byddai wedyn yn ofynnol ei agor gan dynnu allan yr holl organau mewnol, y stumog, y galon, yr iau a'r perfedd a chadw'r weren yn ofalus i wneud ffagots. Byddai yn bwysig iawn cadw'r bustl hefyd a rhoddi hwn i sychu gan y byddai yn feddyginiaeth ragorol i dynnu pigyn os byddai wedi mynd yn ddyfn i'r llaw. Hwyl y plant hefyd fyddai cael y swigen, chwythid hi gyda chwilsyn a byddai hen gicio arni.

Trannoeth, deuai'r cigydd heibio drachefn i dorri'r pen yn gyntaf wedyn llifio ar hyd yr asgwrn cefn a byddai'r mochyn yn ddau hanner cyfartal, wedyn y ddwy glun, y rhain fyddai'r hams, y ddwy ysgwydd, gan adael ar ôl y ddau ddarn canol, oddiar y rhain y codid yr asennau lawer o fan gig arall i wneud sosej a ffagots a byddai dyddiau lawer o fwynhau'r porc blasus ar asen frau. Rhaid fyddai berwi'r pen hefyd a cheisio cael ysgyfarnog i'w chyd-ferwi gydag ef, gan y byddai hyn yn lleihau braster y brôn.

Halltu fyddai'r gorchwyl nesaf, calen o halen i bob mochyn, malu'r halen a'i rwbio i bob darn yn hynod ofalus, byddai hyn yn waith caled gan ei bod yn ofynnol pwyso yn drwm wrth halltu. Gosod y darnau cig wedyn mewn cist lechen a elwid yn seston, a'i adael am chwech wythnos yn yr heli, cyn eu codi a'u golchi yn lân a'u hongian ar fachau ar ddistiau'r gegin i sychu a gwir iawn fyddai'r hen rigwm o gân "Y Mochyn Du",- "Melys iawn yw cael rhyw sleisen/ O gig mochyn gyda thaten" <ref>Pigion o “Arferion a Chwaraeon ardal y Parc erstalwm” gan “Hen Ddwylo”</ref

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Angier, Natalie (10 Tachwedd 2009). "Pigs Prove to Be Smart, if Not Vain". The New York Times. http://www.nytimes.com/2009/11/10/science/10angier.html.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru
  3. Martin Coleman yn Llais Derwent rhifyn 38
  4. Fynes-Clinton (1913) The Welsh Vocabulary of the Bangor District: yn Geiriadur Pifysgol Cymru
  5. Geiriadur Pifysgol Cymru
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am mochyn
yn Wiciadur.