Baedd gwyllt

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Baedd Gwyllt)
Jump to navigation Jump to search
{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/Nodyn:Taxonomy/Sus|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}
Baedd gwyllt
Amrediad amseryddol: Y Pleistosen cynnar hyd at yr Holosen
Gwryw o Ganol Ewrop
(S. s. scrofa)
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol e
Unrecognized taxon (fix): Sus
Rhywogaeth: S. scrofa
Enw deuenwol
Sus scrofa
Linnaeus, 10fed rhifyn o Systema Naturae; 1758
Map o ardal naturiol y baeddod (gwyrdd) a phoblogaeth a gyflwynwyd (glas). ni ddangosir poblogaethau bychan yn y Caribî, Seland Newydd, Affrica i'r de o'r Sahara a mannau eraill.[1]
Cyfystyron

O'r Baedd gwyllt neu'r Baedd coed (Sus scrofa) y datblygwyd y mochyn dof. Fe'i ceir trwy ran helaeth o ganolbarth Ewrop a'r tiroedd o gwmpas Môr y Canoldir, yn cynnwys Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica, ac ar draws rhan helaeth o Asia cyn belled i'r de ag Indonesia. Oni ddywedir yn wahanol yn yr ysgrif hon, defnyddir y term baedd gwyllt i olygu'r rhywogaeth, nid y gwryw yn unig.

Adnabyddid y baedd gwyllt (Sus scrofa) gynt fel gwythwch ac erys yr enw ar sawl ffurf mewn llenyddiath ac enwau lleoedd. Gellir dadlau mai mochyn gwyllt fyddai'n enw mwy priodol arno. Ni ddylid ei ddrysu gyda'r mochyn fferal sydd yn anifail a ddychwelodd i'r gwyllt ar ôl dianc o gaethiwed.

Credir i'r baedd gwyllt ddiflannu o Brydain ac Iwerddon erbyn yr 17g, ond mae'n parhau yn bur gyffredin ar gyfandir Ewrop. Yn ddiweddar mae nifer o boblogaethau wedi eu sefydlu yn Lloegr trwy fod anifeiliaid wedi dianc o ffermydd, ac mae un o'r poblogaethau hyn, yn Swydd Henffordd, yn agos i ororau Cymru.

Ceir pedair isrywogaeth:

  • Sus scrofa scrofa (gorllewin Affrica, Ewrop)
  • Sus scrofa ussuricus (gogledd Asia a Japan)
  • Sus scrofa cristatus (Asia Leiaf, India)
  • Sus scrofa vittatus (Indonesia)

Ystyrir y mochyn dof fel isrywogaeth arall, Sus scrofa domestica, er bod rhai awduron yn ei ystyried yn rhywogaeth wahanol, Sus domestica.

Bu ymyrraeth dyn yn gyfrifol am ehangu dosbarthiad y baedd gwyllt i'r graddau ei fod ymysg yr anifeiliad mwyaf ei ymledaeniad yn y byd.[3] Diolch i'w niferoedd uchel, ei ymledaeniad eang a'i allu i gyfaddasu i sefyllfaoedd ecolegol amrywiol, nid oes pryder arbennig am ei ddyfodol yn nhyb yr IUCN[1] ac fe ddatblygodd i fod yn rywgaeth goresgynol mewn rhannau o'r parthau y'i cwyflwynwyd iddynt. Tarddodd yr anifail maen debyg yn Ne-ddwyrain Asia yn ystod y Pleistosen cynnar[4] gan orchfygu rhywogaethau eraill o deulu'rSuidae wrth iddo ymledu ar hyd yr Hen Fyd.[5]

Yn ôl y wybodaeth sydd gael yn 1990, adnabyddir 16 is-rywogaeth, a ddosrennir i bedwar grwp rhanbarthol ar sail uchder y benglog a hyd yr asgwrn deigrol (lachrymal bone).[2] Mae'r rhywogaeth yn byw mewn cymunedau matriarchaidd sy'n cynnwys hychod sy'n cyd-berthyn, a'u hepil (gwryw a benyw). Byw'n unig y mae'r baeddod y tu hwnt i'r tymor bridio.[6] Y blaidd yw prif elyn y baedd gwyllt dros y rhan fwyaf o'i ddosbarthiad, ag eithrio'r Dwyrain Pell ac Ynysoedd y Swnda lle mae'r teigr a'r ddraig Comodo, yn eu trefn, yn cymryd ei le.[7][8] Ganddo hanes hir o gydberthynas â phobl, gan ei fod yn hynafiad y rhan fwyaf o fridiau'r mochyn dof ac yn un o anifeliaid mawr yr arferid ei hela ers milenia.

Baedd gwyllt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Suidae
Genws: Sus
Rhywogaeth: S. scrofa
Enw deuenwol
Sus scrofa
Linnaeus, 1758


Terminoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

O'r Lladin y daw'r enw rhywogaethol scrofa, sy'n golygu 'hwch'[9]

gwythwch [gŵydd3+hwch] eg. ll. gwythychod (mochyn gwyllt, hwch coed, baedd gwyllt):

13g. C 682-3, ar[i]al guythuch urth ervid.
13g. A 2217-18, dydygei ef penn ywrch penn gwythwch.
14g. WML 80, a gwythwch a hwch tref.
c. 1400 R 104426, Kyndylan callon gwythhwch.

Digwydd fel enw nant ger Cemais, sir Benf., ac mewn e. lleoedd, e.e. Pwll y Gwythwch (poll hir guidhuc), LL 245, Blaengwythwch ger Carreg Cennen, sir Gaerf., ac o bosibl Cilgwythwch yn Llanrug, sir Gaern.[10].

baedd [H. Grn. bahet, gl. aper vel verres] eg. ll. baeddod, baidd, beiddi (mochyn gwryw heb ei ysbaddu, mochyn (gwyllt) ysgithrog, hefyd yn ffig., yn enw. am ymladdwr ffyrnig):

12g. GLlF 63, Maon Meirionnyd … / … / Ac a()ch byt byth ar diwreid / Mal y byd bein() wedy beid.
12g. GCBM i. 195, Ys gna()d rac Ywein ysgafael y urein, / Ysgauaeth y veit kun / Ar ysgwyd rwyd rodwyt ual Run.
id. ii. 93, Llas Asser, aerllew, aerllid—uuelyar, / Aerbeir bar baet eruid.
13g. LlI 87, Kymeynt yu guerth e baed a guerth teyr o’r moch.
13g. A 314, baran baed oed bleidic mab eli.
13g. BD 111, A guedy kyffroont vynteu y baed ysgithravc yd ymchuelant o uordwy y wneuthur dadleu a’r llewynavc.
ib., y baed tvylledic a geis y bleid a’r arth y eturyt idav y golledigyon aelodeu.
14g. WM 48215-16, yskithyr yskithyr()yn penn beid a uynnaf y eilla() ym.
14g. GIG 86, Am hynny bydd hy, baedd hoyw, / A rho eto aur otoyw.
15-16g. GIF 15, Bonedd heddiw ni wedda, / baedd yw dyn oni bydd da.
1547 WS, Baedd A bore.
16g. CRC 386, Cenawon Cythreulŷg geirwon Lun ffyrnig / Ai [sic] crŵyn yn Baentiedig Satan ’r un Lun / A Weir yn eu ffroeneu, fal Baeddod a dirieu [sic] / A’u safnau sŷ’n malu mŵy Ewŷn.
1650 B xxii. 146, Am hyny’r Baedd rhagddoededig yma, ag efynte’n chwanog i ryfel … a ddaw fel corwynt aruthgar.
c. 1762-79 W. Williams: P 163, Mahaden … mae ef yn cael ei representio … a phen fel mochyn, a dau ddant bâdd, a chorph fel dŷn.

Ar lafar, ‘danfon yr hwch at y baedd’, ‘Mi godis ’y ngwrychyn fel baedd cynddeiriog’, WVBD 35; ‘yr ’wch yn mwyn bædd’, GTN 61; hefyd am ddyn sy’n ymddwyn yn frwnt, yn enw. wrth ferched, ‘Hen fadd yw e’ (canolbarth Cered.).

b Her. Llun o faedd; un o symbola

hwch [H. Grn. hoch, gl. porcus, Crn. C. hoch ‘mochyn’, H. Lyd. hoch, gl. aper, Llyd. Diw. houc’h, hoc’h, H. Wydd. socc (yn y gair soccsáil ‘hwch y môr’), Gwydd. C. soc ‘trwyn mochyn; swch’: < Clt. *sukko- o’r gwr. IE. *sū̆(-s) ‘mochyn’; gw. hefyd swch] eb.g. (bach. hychan, hychig) ll. hychod, (Cym. C. (?ar ôl rhif. yn unig)) hych.

a Mochyn benyw; (yn wr.) mochyn, hob, hefyd yn ffig. creadur brwnt, ac yn dros.:

9g. (LlSC) LL xlv, ha huch. ha [do]uceint mannuclenn.
id. 166, diol huch.
13g. LlDW 933-4, teythy huyc na bo baetredauc.
id. 1134-10, enekefreyt ebu huc o rmoch ac un or man escrybyl keny bey namen tri lluden onadunt. Sef acaus oed henne moch a aey yr nep pyeufoent a hucch adryc yperchennac er hyd. Ny deleyr huch oduy huch kanydaey emocch yr perchenauc otrykey euelle.
c. 1250 B iv. 5, Bendith yr huch bieu y blonec.
id. 7, Deint y ky urth yr huch.
14g. T 2911-12, Eidon y wan. hwch y truu.
id. 4818-19, Bum hwch bum bwch.
14g. LlB 93, Nyt oes werth kyfreith ar gnyw hwch hyt ympen y ulwydyn; ac yna kyfreith hwch mawr a gymer.
14g. WML 28, pedeir hych mawr abaed.
14g. WM 8318-19, haner hwch, hanner hob.
id. 45220-1, gyrru kulhwch arnaw dy vrth y gaffel ynretkyr hwch.
14g. YBH 9b, ablewogach oed a garwach y vlew nor hwch arwaf y gwrych.
c. 1400 R 104132, Yr aelwyt honn neus clad hwch.
c. 1400 [RB] WM 49936-8, Gouynnwys y gwyr … peth oed ystyr yr hwch hwnnw [Twrch Trwyth].
15g. Rhyddiaith Gymraeg ii. 9, yn ymlid yr hychod dvon, klustlipa.
15-16g. Dafydd Trefor: Gw 285, Hwch a fwrw, o chyfeirir, / Dorllwyth o dylwyth i dir [i ysgraff Porthaethwy].
1547 WS, hwch, a swine, sowe.
1567 TN [361a], [yr] Hwch wedi y golchi [a ymchwelodd] yw ymdroyad yn y dom.
1588 Diar xi. 22, Fel modrwy aûr yn nhrwyn hŵch yw benyw lân heb ddeall.
1588 Ecclus xxvi. 25, Gwraig a’r [sic] werth a gyfrifir i fod vn wedd a hŵch.
Dchr. 17g. J 10 113a, hychig, succula.
1632 D, hŵch, sus, porcus.
1632 D (Diar), Hŵch o bob heledd. Nattur yr hŵch fydd yn y porchell.
1688 TJ, hwch: a Sow.
1722 Llst 189, hŵch, f.p. hychod, a sow.
1771 PDPh 96, Hychod torog.
1780 W, hychig d.g. pig, a sow-pig, or young swine.
1803 P d.g. hwch, hychan, hychig.
Diar. A elo’n hwch i Rydychen, yn hwch y daw yn ôl. Hwch fud a fwyty’r soeg i gyd.

Ar lafar yn gyff. am wraig front neu lac ei moesau, ‘yr hen hwch fudr’, a hefyd am eneth fach sydd wedi ei baeddu ei hun yn ofnadwy, ‘Wel dyma hwch!’[10].

twrch [H. Grn. torch, gl. magalis, H. Lyd. torch, gl. uerres, Llyd. C. tourch, Llyd. Diw. tourc’h, H. Wydd., Gwydd. C. a Diw. torc: ?< IE. *tu̯orkos, cf. Afesteg θβərəsa- ‘baedd’, o’r gwr. IE. *tu̯erk- ‘torri’, cf. Gr. σάρξ ‘cnawd’] eg. (b. tyrches, ll. -i; bach. g. tyrchyn, twrchyn) ll. tyrch(od).

Mochyn dof gwryw (yn enw. un disbaidd), baedd (gwyllt); gwahadden, Talpa europea; hefyd yn ffig.:  

12g. GCBM ii. 122, Keffitor ymdwr am Drwyd—heuelyt, / T()rch teryt y ar uwyd.
13g. A 115, twrch goruc amot e mlaen ystre ystrywyawr.
14g. T 774, Credeu c()ydynt tyrch torrynt toruoed taleu.
14-15g. IGE² 294, I dwrch y dyfelir dyn, / Yng ngward ing, angor dengyn. / Pob lluniaeth, pei bell hynny, / A fyn twrch o fewn y tŷ; / … / Felly uddun’, fall Iddew, / Fal twrch am ei fola tew [Siôn Cent i’r cybydd].
c. 1400 B ii. 14, Moch na thyrchot na chynnal ony bydant rywyawc.
1547 WS, Twrch A hogge.
16g. Wiliam Llŷn: Gw (R. Stephens) 675, Ti, tyrchyn tir Llŷn a’r llost—yn llipa, / Llepian maidd y buost [i Wiliam Llŷn].
a. 1600 (1681) Rhyddiaith Gymraeg ii. 165, yn cyphesu gadw o honynt hwy y cythrel yn hir o amser yn rhith cath … neu dwrch weithie.
1632 D, Twrch, Porcus, verres, majalis.
17g. TBM 874, Ei badal ni ad wybedyn, / A’r twrch o’r ddaear y tyn [Robert ap Huw i ofyn ffon badl].
1771 PDPh 96, Dylai Tyrchod gael eu yspaddu yn chwech mis oed.
1790 Cylchg LlGC ii. 63, y Gwaith mwyaf arbennig yw y Celtic Remains … croesaw byxan a gafodd gan y rhan fwyaf … ond nid er mwyn Taeogion a thyrxod y cyhoeddwyd.
1798 T. Roberts: CG 40, A hyn i gyd o ran fod ryw gibddall dyrchod wedi gwneud cyfraith er’s cantoedd o flynyddoedd.
18-19g. IAW (LlGC) 101 49a, Boar, sow, pig … Twrch, Tyrches, Tyrchyn.
1803 P, Twrç, s. m.—pl. tyrçod … a hog; a splayed boar.

Ar lafar, ‘twrchyn … twrchod’ ‘A young castrated pig’, GDD 313; ‘Tyrchod odd y moch odd ginnyn ni’, GTN 827; hefyd yn yr ystyr ‘dyn annymunol’, ‘Yr ’en dwrchyn sarrug … ’All a ddim bod yn gwrtais i achub ’i fywyd’, GTN 827.

Clywir tyrchas yn yr ystyr ‘a doctored sow’, GTN 832.

Digwydd yn gyff. yn y gymhariaeth ‘cysgu fel twrch(yn)’.

Y mae hefyd yn elf. mewn e. lleoedd, e.e. Cwm-twrch, Cered., sir Gaerf., a Morg./Brych., Pentyrch, Morg., &c. (cf. LL 44, Ecclesiam penn tyrch)[10].

Termau eraill: mochyn (generig); hob (mochyn, hwch; ystyr eir. a gaed o fethu a sylweddoli y gallai hwch gynt olygu 'mochyn' yn gyff. ac nid 'mochyn benyw' yn unig[10]. Diddorol yw nodi yma mai mochyn gwryw yw hwch yn y Llydaweg.

Hela[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hanes eiconig hela'r baedd yn y traddodiad Cymreig wedi ei ymgorffori yn chwedl y Twrch Trwyth yn Culhwch ac Olwen.


Yn nherminoleg hela Saesneg fe ddynodir baeddod wrth gwahanol dermau yn ôl eu hoedran:[11]

Symbolaeth a mytholeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Gan fod y baedd yn anifail ffyrnig a pheryglus, mae'n ymddangos ym mytholeg llawer gwlad. Ym mytholeg Gwlad Groeg, mae Heracles yn hela Baedd Erymanthia, ac mae hefyd chwedl am hela Baedd Calydonia gan nifer o gymeriadau, yn cynnwys Atalanta.

Un o'r elfennau pwysicaf yn chwedl Culhwch ac Olwen yw hanes hela'r Twrch Trwyth. Ceir straeon tebyg ym mytholeg Iwerddon hefyd. Yn chwedl Math fab Mathonwy mae Math yn cosbi Gwydion fab Dôn a'i frawd Gilfaethwy fab Dôn am dreisio Goewin a dechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Deheubarth trwy eu troi yn faedd a hwch am flwyddyn. Dychwelant gyda mab a gaiff ei fedyddio gyda'r enw Hychddwn. Ym mytholeg Hindwaeth, roedd y baedd Varaha yn un ffurf (avatar) o'r duw Vishnu.

Gwnaed defnydd o'r baedd fel symbol o ffyrnigrwydd a dewrder gan filwyr o gyfnod y lleng Rufeinig Legio XX Valeria Victrix trwy Clan Campbell yn Ucheldiroedd yr Alban hyd at unedau o lu awyr yr Unol Daleithiau heddiw.

Taxonomeg ac esblygiad[golygu | golygu cod y dudalen]

PenglogSus strozzii (Museo di Storia Naturale di Firenze), aelod Pleistosen o deulu'r Suidae a gafodd ei ddisodli gan S. scrofa

Mae astudiaethau MtDNA yn awgrymu mai o Dde-ddwyrain Asia (Indonesia ac Ynysoedd y Ffilipinau), mae'r baedd gwyllt yn tarddu, gan ymledu wedyn i dir mawr Ewrasia a gogledd Affrica.[4]. O Ewrop ac Asia daw'r ffosiliau cynharaf y rhywogaeth, ac mae rhain yn dyddio'n ôl i'r Pleistosen Cynnar.[12] Disodlwyd i raddau helaeth ei chwaer rhywogaeth S. strozzii erbyn cyfnod y Villafranchaidd gan S. scrofa.[5]

Dosbarthiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Oliver, W.; Leus, K. (2008). "Sus scrofa". Rhestr Goch yr IUCN (IUCN) 2008: e.T41775A10559847. doi:10.2305/IUCN.UK.2008.RLTS.T41775A10559847.en. http://www.iucnredlist.org/details/41775/0. Adalwyd 13 Ionawr 2018.
  2. 2.0 2.1 Nodyn:MSW3 Wozencraft
  3. Oliver, W. L. R. et al. 1993. The Eurasian Wild Pig (Sus scrofa). In Oliver, W. L. R., ed., Pigs, Peccaries, and Hippos – 1993 Status Survey and Conservation Action Plan, 112–121. IUCN/SSC Pigs and Peccaries Specialist Group, ISBN 2-8317-0141-4
  4. 4.0 4.1 Chen, K. et al. (2007). "Genetic Resources, Genome Mapping and Evolutionary Genomics of the Pig (Sus scrofa)". Int J Biol Sci 3 (3): 153–165. doi:10.7150/ijbs.3.153.
  5. 5.0 5.1 Kurtén, Björn (1968). Pleistocene mammals of Europe. Weidenfeld and Nicolson. tt. 153–155 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "kurten1968" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  6. Marsan & Mattioli 2013, tt. 75–76
  7. Baskin, L. & Danell, K. (2003), Ecology of Ungulates: A Handbook of Species in Eastern Europe and Northern and Central Asia, Springer Science & Business Media, pp. 15–38, ISBN 3-540-43804-1
  8. Affenberg, W. (1981), The Behavioral Ecology of the Komodo Monitor, University Press of Florida, pp. 248, ISBN 081300621X
  9. "Latin Dictionary and Grammar Resources". http://www.latin-dictionary.net/definition/34362/scrofa-scrofae. Adalwyd 2014-10-08.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 Geiriadur Prifysgol Cymru
  11. Cabanau 2001, tt. 24
  12. Ruvinsky, A. et al. (2011). "Systematics and evolution of the pig". In: Ruvinsky A, Rothschild MF (eds), The Genetics of the Pig. 2nd ed. CAB International, Oxon. pp. 1–13. ISBN 978-1-84593-756-0