Baedd gwyllt

Oddi ar Wicipedia
{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/{{taxonomy/Nodyn:Taxonomy/Sus|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}} |machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}|machine code=parent}}
Baedd gwyllt
Amrediad amseryddol: Y Pleistosen cynnar hyd at yr Holosen
Gwryw o Ganol Ewrop
(S. s. scrofa)
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol e
Unrecognized taxon (fix): Sus
Rhywogaeth: S. scrofa
Enw deuenwol
Sus scrofa
Linnaeus, 10fed rhifyn o Systema Naturae; 1758
Map o ardal naturiol y baeddod (gwyrdd) a phoblogaeth a gyflwynwyd (glas). ni ddangosir poblogaethau bychan yn y Caribî, Seland Newydd, Affrica i'r de o'r Sahara a mannau eraill.[1]
Cyfystyron

O'r Baedd gwyllt neu'r Baedd coed (Sus scrofa) y datblygwyd y mochyn dof. Fe'i ceir trwy'r rhan helaeth o ganolbarth Ewrop a'r tiroedd o gwmpas Môr y Canoldir, yn cynnwys Mynyddoedd yr Atlas yng Ngogledd Affrica, ac ar draws rhan helaeth o Asia cyn belled i'r de ag Indonesia. Oni ddywedir yn wahanol yn yr ysgrif hon, defnyddir y term "baedd gwyllt" i olygu'r rhywogaeth, nid y gwryw yn unig.

Adnabyddid y baedd gwyllt (Sus scrofa) gynt fel gwythwch ac erys yr enw ar sawl ffurf mewn llenyddiath ac enwau lleoedd. Gellir dadlau mai mochyn gwyllt fyddai'n enw mwy priodol arno. Ni ddylid ei ddrysu gyda'r mochyn fferal sydd yn anifail a ddychwelodd i'r gwyllt ar ôl dianc o gaethiwed.

Credir i'r baedd gwyllt ddiflannu o wledydd Prydain ac Iwerddon erbyn yr 17g, ond mae'n parhau yn bur gyffredin ar gyfandir Ewrop. Yn ddiweddar mae nifer o boblogaethau wedi eu sefydlu yn Lloegr trwy anifeiliaid ddianc o ffermydd, ac mae un o'r poblogaethau hyn, yn Swydd Henffordd, yn agos i ororau Cymru.

Ceir pedair isrywogaeth:

  • Sus scrofa scrofa (gorllewin Affrica, Ewrop)
  • Sus scrofa ussuricus (gogledd Asia a Japan)
  • Sus scrofa cristatus (Asia Leiaf, India)
  • Sus scrofa vittatus (Indonesia)

Ystyrir y mochyn dof fel isrywogaeth arall, Sus scrofa domestica, er bod rhai awduron yn ei ystyried yn rhywogaeth wahanol, Sus domestica.

Bu ymyrraeth dyn yn gyfrifol am ehangu dosbarthiad y baedd gwyllt i'r graddau ei fod ymysg yr anifeiliad mwyaf ei ymledaeniad yn y byd.[2] Diolch i'w niferoedd uchel, ei ymledaeniad eang a'i allu i gyfaddasu i sefyllfaoedd ecolegol amrywiol, nid oes pryder arbennig am ei ddyfodol yn nhyb yr IUCN[1] ac fe ddatblygodd i fod yn rywgaeth goresgynol mewn rhannau o'r parthau y'i cwyflwynwyd iddynt. Tarddodd yr anifail, maen debyg, yn Ne-ddwyrain Asia yn ystod y Pleistosen cynnar[3] gan orchfygu rhywogaethau eraill o deulu'rSuidae wrth iddo ymledu ar hyd yr Hen Fyd.[4]

Yn ôl yr wybodaeth oedd ar gael yn 1990, adnabyddir 16 is-rywogaeth, a ddosrennir i bedwar grwp rhanbarthol ar sail uchder y benglog a hyd yr asgwrn deigrol (lachrymal bone).[5] Mae'r rhywogaeth yn byw mewn cymunedau matriarchaidd sy'n cynnwys hychod sy'n cyd-berthyn, a'u hepil (gwryw a benyw). Byw'n unig y mae'r baeddod y tu hwnt i'r tymor bridio.[6] Y blaidd yw prif elyn y baedd gwyllt dros y rhan fwyaf o'i ddosbarthiad, ag eithrio'r Dwyrain Pell ac Ynysoedd y Swnda lle mae'r teigr a'r ddraig Comodo, yn eu trefn, yn cymryd ei le.[7][8] Ganddo hanes hir o gydberthynas â phobl, gan ei fod yn hynafiad y rhan fwyaf o fridiau'r mochyn dof ac yn un o anifeliaid mawr yr arferid ei hela ers milenia.

Baedd gwyllt
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Suidae
Genws: Sus
Rhywogaeth: S. scrofa
Enw deuenwol
Sus scrofa
Linnaeus, 1758

Disgrifiad corfforol[golygu | golygu cod]

Deintyddiaeth fel y disgrifiwyd gan Charles Knight

Mae'r baedd gwyllt yn aelod praff o gorff o deulu'r Suidae gyda choesau byrion cymharol denau. Mae'r boncorff yn fyr ac yn swmpus, gyda phenôl cymharol llai datblygedig. Cyfyd y rhan sydd y tu ôl i'r esgyrn palfais yn grwbyn yn arwain o wddf byr a phraff i'r graddau ei fod yn ddisymyd o'r bron. Mae pen yr anifail yn fawr iawn, yn cymryd traean o holl hyd y corff.[9] Mae adeiladwaith y pen yn gyfaddas i balu, gan weithredu fel swch dan nerth cyhyrau'r gwddf, sydd yn caniatáu iddo wyrdroi cyfaint sylweddol o bridd.[10]. Mae'n atebol i balu 8–10 cm (3.1–3.9 in) o dir rhewedig ac fe all droi meini yn pwyso 40–50 kg (88–110 lb) beniwaered.[7]

Wild boar (left) and domestic pig (right) skulls: Note the greatly shortened facial region of the latter.[11]

Mae'r llygaid yn fychain a thwfn yn y pen, a'r clustiau'n hir a llydan. Mae i'r rhywogaeth ddanedd-llygad datblygedig sydd yn ymwthio allan yn y baeddod. Mae'r carnau mewnol yn fwy ac yn hwy na'r rhai allanol, ac yn alluog i wneud symudiadau sydyn[9] Mae'r anifail yn gallu rhedeg ar gyflymdra uchaf o 40 km/h a neidio i uchdwr o 140–150 cm (55–59 in).[7] Mae dwyffurfiaeth rhywiol yn amlwg iawn yn y rhywogaeth, gyda baeddod yn nodweddiadol 5–10% yn fwy a 20–30% yn drymach na benywod. Mae gwrychyn o rawn yn rhedeg i lawr y cefn sydd yn arbennig o amlwg yn yr hydref a'r gaeaf.[12]

Mae dannedd-llygad y baeddod yn llawer mwy amlwg na rhai'r hychod, ac yn tyfu gydol eu hoes. Mae'r llygad-dannedd uwch yn gymharol fyrach ac yn tyfu gwysg yr ochr yn fuan yn eu bywyd, gan raddol droi at i fyny wrth brifio. Mae'r dannedd-llygad is yn llawer hwy a miniog, gyda'r rhan weladwy yn mesur 10–12 cm (3.9–4.7 in) o hyd. Yn y tymor cymharu mae'r baeddod yn datblygu haenen i feinwe o dan y croen a all fod yn2–3 cm (0.79–1.18 in) o drwch, yn ymestyn o balfau'r ysgwydd i war y gynffon, er mwyn amddiffyn yr organau bywydol yn ystod ymladdfeydd. Mae baeddod yn meddu ar goden o faint ŵy ger agoriad y pidyn sydd yn casglu wrin ac yn bwrw allan arogl cryf. Nid yw union bwrpas yr organ hon yn llwyr hysbys.[13]

Sgerbwd, fel y'i dylunnir gan Richard Lydekker.
Porchell baedd gwyllt Ewropeaidd, dyluniwyd gan Hans Hoffman yn 1578. Noder y rhesi, nodwedd cyson y perchyll.

Penderfynnir maintioli'r oedolion yn bennaf gan ffactorau amgylcheddol; nid yw baeddod sy'n mynychu cynefin sych a di-faeth yn cyrraedd yr un maintioli â'u cyffelybion syn mynychu parthau gyda bwyd a dŵr helaeth. Yn y rhan fwyaf o Ewrop mae baeddod ar gyfartaledd yn pwyso75–100 kg (165–220 lb), 75–80 cm (30–31 in) o daldra at yr ysgwydd ac 150 cm (59 in) o hyd y corff, tra bod hychod ar gyfartaledd yn pwyso 60–80 kg (130–180 lb), 70 cm (28 in) o daldra ysgwydd ac140 cm (55 in) o hyd corff.

Mae'r gôt gaeaf yn wrychog a garw gydag isflew meddal a byr

Gellir dosbarthu llais y baedd gwyllt i dri categori o sain:

  • Galwadau cysylltu: synau rhochian sy'n amrywio yn eu dwysder yn ôl y sefyllfa.[14]. Mae baeddod hy^n fel arfer yn ddi-swn, tra bo'r hychod yn rhochian ar perchyll yn cwynleisio[13]. Tra'n yn ymborthi bydd baeddod yn mynegi eu bodlonrwydd gyda swn grwndi. Dangosodd astudiaethau bod perchyll yn dynwared syna'r fam, gyda'r canlyniad bod gwahanol dorllwythi yn ymarfer gwahanol llafarseiniau.[14]
  • Galwadau rhybydd neu ddychryn: synau a leisir mewn ymateb i fygythiad.[14] Pan fo baedd wedi ei ddychryn gwna swn megis ukh! ukh! neu leisio sgrech a drawsysgrifwyd fel gu-gu-gu.[13]
  • Galwadau gwrthsefyll/ymryson: crioedd o donfedd uchel.[14]

Mae'r synnwyr ymarogli yn ddatblygedig iawn i'r graddau bod yr anifail yn cael ei ddefnyddio yn yr Almaen i ganfod cyffuriau.[15] Mae ganddo glyw main iawn hefyd, er mai gwan yw ei olwg[13]: Nid oes ganddo olwg lliw[15]: nid yw'n gallu adnabod person yn sefyll cwta 10-15 medr i ffwrdd[7]

Mae'r mochyn yn un o bedair rhywogaeth mamalaidd hysbys sy'n meddu ar dderbynyddion nicotinig acetylcholaidd sydd yn eu hamddiffyn yn erbyn gwenwyn nadroedd. Y tair arall yw'r mongŵs, ratel a draenog, ac mae'r bedair yn tarddu o bedwar cellwyriad annibynnol.[16]

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Cynefin ac Arferion Ymochel[golygu | golygu cod]

Unigolyn o gribau uwch yr Himalaia 9,600tr. yng Ngwarchodfa Fywyd Gwyllt Pangolakha, Sikkim, India
Mae baeddod yn aml yn ymdrybaeddu mewn mwd, o bosib i reoleiddio tymheredd neu waredu paraseitau.

Mae'r baedd gwyllt yn cyfaneddu amrywiaeth eang o gynefinoedd, o'r boreal gogleddol (taiga) i ddiffaethdir.[13] Yn yr ardaloedd mynyddig fe all hyd yn oed gyfaneddu parthau alpaidd hyd at 1,900 medr ym mynyddoedd y Carpathian a hydat 3,600-4,000medr ym mynyddoedd Asia Ganol a Chasacstan.[13] Er mwyn goroesi mewn ardal, rhaid cael cynefin sy'n bodlonni tair amod: ardaloedd o bryglwyni dwys sy'n darparu cysgod rhag rheibwyr, dŵr ar gyfer yfed ac ymdrochi ynddo, ac absenoldeb eira rheolaidd.[17] Y prif gynefinoedd mwyaf hoff gan faeddod gwyllt yn Ewrop yw coed collddail a choedwigoedd cymysg, gyda choedwigoedd derw a ffawydd yn amgylchynu corsydd a dolydd y mwyaf ffafriol. Mae coedwigoedd conifferaidd ar y cyfan yn llai pwysig iddynt.

Mae baeddod gwyllt yn nofwyr digonol, yn alluog i gyrraedd pellteroedd meithion. Yn 2013 adroddwyd am faedd a lwyddodd i gyrraedd ynys Alderney (Ynysoedd y Sianel) o Ffrainc. Oherwydd pryderon am haint fe'i saethwyd a'i losgi'n ulw.[18]

Mae baeddod gwyllt yn ymochel mewn cysgodfeydd gyda deunydd ynysu iddynt megis canghennau sbriws a gwair sych. Triga deuluoedd cyfain yn y cysgodfeydd hyn (er i'r gyrwywod ymochel ar wahan), ac fe'i ceir fel arfer yng nghyffiniau nentydd, coedwigoedd gwlyb a phrysglwyni dyrys neu welltir tal. Ni fydd baeddod fyth yn maeddu eu cysgodfa, ac fe ymorchuddiant â phridd a nodwyddau pin pa font yn cael eu poenydio gan bryfed.[7]

Ymborth[golygu | golygu cod]

Mae'r baedd gwyllt yn anifail hollysol amryddawn, a'i amrywiaeth o fwyd o'r un raddfa i'r hyn y mae dyn â'r hyn y mae dyn yn ei fwyta.[10] Gellir dosbarthu eu bwyd yn ôl pedwar categori:

Ymddygiad gymdeithasol a chylch bywyd[golygu | golygu cod]

Mae baeddod gwyllt yn nodweddiadol gymdeithasol, yn byw mewn cenfeiniau matriarchaidd a eill gynnwys hychod hesb a mamau â'u hepil dan arweiniad hen fatriarch. Gedy'r gyrywod eu cenfaint pan gyrhaeddant 8-15 mis oed, tra erys y benywod gyda'u mamau neu sefydlu tiriogaethau newydd gerllaw. Mae gyrywod lled-aeddfed yn byw mewn grwpiau llac, tra bydd oedolion aeddfed a heneiddiedig yn dueddol o fyw'n unig y tu allan i'r tymor bridio. (Arferion unigolyddol y baeddod sydd yn rhoi i'r baedd gwyllt ei enw mewn nifer o ieithoedd Romàwns. Er mai aper yw'r term Lladin am "faedd", tarddiad y geiriau sanglier yn y Ffrangeg a cinghiale yn yr Eidaleg yw singularis porcus, sef y Lladin am "mochyn unig"[19].[6][a])

Porchelli baedd Canolbarth Ewrop (S. s. scrofa) ar y deth.

Mae'r cyfnod bridio yn y mwyafrif o ardaloedd yn parhau o Dachwedd i Ionawr, er nad ydi'r cymharu ond yn para mis a hanner. Cyn y paru, datblyga'r gyrywod eu harfwisg isgroenol mewn paratoad i herio cystadleuwyr yn ystod yr ymlid. Mae'r ceilliau yn dyblu eu maint ac mae'r chwarennau yn dydoli hylif melynaidd ewynnol. Pan yn barod i genhedlu, mae baeddod yn teithio pellteroedd meithion yn chwilio am genfaint o hychod, yn bwyta fawr ddim ar ei ffordd. Unwaith y caiff genfaint, mae'r baedd yn erlid yr anifeiliaid ifainc i ffwrdd gan ymlid yr hychod yn ddidrugaredd. Rhaid fydd iddo hefyd ymryson yn ffyrnig â gwrthwynebwyr potensial[13] Gall faedd unigol baru â 5-10 hwch.[7]. Erbyn diwedd y cyfnod hwn o ymlid bydd y baeddod yn aml wedi eu maeddu'n ddifrifol gan golli 20% o bwysau eu corff,[13] gyda brathiadau i'r pidyn yn gyffredin.[20]. Amrywia gyfnod y cyfebriad yn ôl oed y fam dorog. Pery 114-130 niwrnod i fridwyr tro-cyntaf, hyd at 133-140 niwrnod mewn hychod hŷn. Caiff y perchyll eu bwrw rhwng Mawrth a Mai, gyda maint y torllwyth yn amrywio yn ôl oed a safon maeth y fam. Cynnwys y torllwyth arferol 4-6 porchell, gydag uchafswm o 4-6.[13][b]. Bwrir y perchyll mewn nyth o frigau, gweiriau a dail, a phe ddigwydd i'r fam farw o flaen ei hamser fe mabwysiedir gan hychod eraill yn y cenfaint.[22]

Mae perchyll newydd anedig yn pwyso rhwng 600–1,000 grams, heb isflew'r moch hy^n ac yn meddu ar un blaenddant sugno a un ysgythrddant ar ddwy ochr yr ên.[13] Mae cystadleuaeth ffyrnig rhwng y perchyll am y tethi mwyaf cynhyrchiol o laeth, gan fod y rhai sydd yn ennill y maeth mwyaf yn tyfu'n gynt ac yn magu cyfansodiad cryfach.[22] Nid yw'r perchyll yn gadael y wâl yn eu hwythnos gyntaf. Petai'r fam yn absennol mae'r perchyll yn closio'n agos at ei gilydd. Pan yn bythefnos oed bydd y perchyll cydymdeithio â'r fam. O flaen peryglon mae'r perchyll un ai'n sefyll yn ddisymud neu'n cuddio, gan ddibynnu ar eu cuddliw i'w hamddiffyn. Mae gwisg newydd-anedig y perchyll yn pylu ar ôl tri mis, a chaiff wisg yr oedolyn erbyn wyth mis. Er bod cyfnod y llaethiad yn para 2.5–3.5 mis, dechreua'r perchyll arddangos ymddygiad ymborthi oedolion pan yn 2–3 weeks. Bydd y deintiad parhaol yn gyflawn yn 1-2 flynedd oed. ac eithrio ysgythrddannedd y gyrwod (sy'n tyfu trwy'i hoes gan droi'n sylweddol wrth heneiddio), ymetyl twf y dannedd tua chanol y bedwaredd flwyddyn. Cyrhaedda'r hychod aeddfedrwydd rhywiol yn flwydd oed, a'r baeddod flwyddyn yn hwyrach. Fodd bynnag, ni ddigwydd estrws yr hychod fel arfer tan ar ôl dyflwydd oed, tra na fydd baeddod yn dechrau cyfranogi yn yr ymlid tan ar ôl4-5 mlynedd, gan nad yw'r baeddod hy^n yn caniatau iddynt baru.[13] Eu hoedledd uchaf yn y gwyllt yw 10-14 mlynedd, er nad yw llawer yn goroesi fwy na 4-5 mlynedd.[23] Bu i anifeiliaid mewn caethiwed fyw am 20 mlynedd.[7]

Terminoleg[golygu | golygu cod]

O'r Lladin y daw'r enw rhywogaethol scrofa, sy'n golygu 'hwch'[24]

gwythwch [gŵydd3+hwch] eg. ll. gwythychod (mochyn gwyllt, hwch coed, baedd gwyllt): :13g. C 682-3, ar[i]al guythuch urth ervid.

13g. A 2217-18, dydygei ef penn ywrch penn gwythwch.
14g. WML 80, a gwythwch a hwch tref.
c. 1400 R 104426, Kyndylan callon gwythhwch.

Digwydd fel enw nant ger Cemais, Sir Benfro, ac mewn enw lleoedd, e.e. Pwll y Gwythwch (poll hir guidhuc), LL 245, Blaengwythwch ger Carreg Cennen, Sir Gaerfyrddin, ac o bosibl Cilgwythwch yn Llanrug, Gwynedd.[25].

baedd [H. Grn. bahet, gl. aper vel verres] eg. ll. baeddod, baidd, beiddi (mochyn gwryw heb ei ysbaddu, mochyn (gwyllt) ysgithrog, hefyd yn ffig., yn enw. am ymladdwr ffyrnig):

12g. GLlF 63, Maon Meirionnyd … / … / Ac a()ch byt byth ar diwreid / Mal y byd bein() wedy beid.
12g. GCBM i. 195, Ys gna()d rac Ywein ysgafael y urein, / Ysgauaeth y veit kun / Ar ysgwyd rwyd rodwyt ual Run.
id. ii. 93, Llas Asser, aerllew, aerllid—uuelyar, / Aerbeir bar baet eruid.
13g. LlI 87, Kymeynt yu guerth e baed a guerth teyr o’r moch.
13g. A 314, baran baed oed bleidic mab eli.
13g. BD 111, A guedy kyffroont vynteu y baed ysgithravc yd ymchuelant o uordwy y wneuthur dadleu a’r llewynavc.
ib., y baed tvylledic a geis y bleid a’r arth y eturyt idav y golledigyon aelodeu.
14g. WM 48215-16, yskithyr yskithyr()yn penn beid a uynnaf y eilla() ym.
14g. GIG 86, Am hynny bydd hy, baedd hoyw, / A rho eto aur otoyw.
15-16g. GIF 15, Bonedd heddiw ni wedda, / baedd yw dyn oni bydd da.
1547 WS, Baedd A bore.
16g. CRC 386, Cenawon Cythreulŷg geirwon Lun ffyrnig / Ai [sic] crŵyn yn Baentiedig Satan ’r un Lun / A Weir yn eu ffroeneu, fal Baeddod a dirieu [sic] / A’u safnau sŷ’n malu mŵy Ewŷn.
1650 B xxii. 146, Am hyny’r Baedd rhagddoededig yma, ag efynte’n chwanog i ryfel … a ddaw fel corwynt aruthgar.
c. 1762-79 W. Williams: P 163, Mahaden … mae ef yn cael ei representio … a phen fel mochyn, a dau ddant bâdd, a chorph fel dŷn.

Ar lafar, ‘danfon yr hwch at y baedd’, ‘Mi godis ’y ngwrychyn fel baedd cynddeiriog’, WVBD 35; ‘yr ’wch yn mwyn bædd’, GTN 61; hefyd am ddyn sy’n ymddwyn yn frwnt, yn enw. wrth ferched, ‘Hen fadd yw e’ (canolbarth Cered.).

b Her. Llun o faedd; un o symbola

hwch [H. Grn. hoch, gl. porcus, Crn. C. hoch ‘mochyn’, H. Lyd. hoch, gl. aper, Llyd. Diw. houc’h, hoc’h, H. Wydd. socc (yn y gair soccsáil ‘hwch y môr’), Gwydd. C. soc ‘trwyn mochyn; swch’: < Clt. *sukko- o’r gwr. IE. *sū̆(-s) ‘mochyn’; gw. hefyd swch] eb.g. (bach. hychan, hychig) ll. hychod, (Cym. C. (?ar ôl rhif. yn unig)) hych.

a Mochyn benyw; (yn wr.) mochyn, hob, hefyd yn ffig. creadur brwnt, ac yn dros.:

9g. (LlSC) LL xlv, ha huch. ha [do]uceint mannuclenn.
id. 166, diol huch.
13g. LlDW 933-4, teythy huyc na bo baetredauc.
id. 1134-10, enekefreyt ebu huc o rmoch ac un or man escrybyl keny bey namen tri lluden onadunt. Sef acaus oed henne moch a aey yr nep pyeufoent a hucch adryc yperchennac er hyd. Ny deleyr huch oduy huch kanydaey emocch yr perchenauc otrykey euelle.
c. 1250 B iv. 5, Bendith yr huch bieu y blonec.
id. 7, Deint y ky urth yr huch.
14g. T 2911-12, Eidon y wan. hwch y truu.
id. 4818-19, Bum hwch bum bwch.
14g. LlB 93, Nyt oes werth kyfreith ar gnyw hwch hyt ympen y ulwydyn; ac yna kyfreith hwch mawr a gymer.
14g. WML 28, pedeir hych mawr abaed.
14g. WM 8318-19, haner hwch, hanner hob.
id. 45220-1, gyrru kulhwch arnaw dy vrth y gaffel ynretkyr hwch.
14g. YBH 9b, ablewogach oed a garwach y vlew nor hwch arwaf y gwrych.
c. 1400 R 104132, Yr aelwyt honn neus clad hwch.
c. 1400 [RB] WM 49936-8, Gouynnwys y gwyr … peth oed ystyr yr hwch hwnnw [Twrch Trwyth].
15g. Rhyddiaith Gymraeg ii. 9, yn ymlid yr hychod dvon, klustlipa.
15-16g. Dafydd Trefor: Gw 285, Hwch a fwrw, o chyfeirir, / Dorllwyth o dylwyth i dir [i ysgraff Porthaethwy].
1547 WS, hwch, a swine, sowe.
1567 TN [361a], [yr] Hwch wedi y golchi [a ymchwelodd] yw ymdroyad yn y dom.
1588 Diar xi. 22, Fel modrwy aûr yn nhrwyn hŵch yw benyw lân heb ddeall.
1588 Ecclus xxvi. 25, Gwraig a’r [sic] werth a gyfrifir i fod vn wedd a hŵch.
Dchr. 17g. J 10 113a, hychig, succula.
1632 D, hŵch, sus, porcus.
1632 D (Diar), Hŵch o bob heledd. Nattur yr hŵch fydd yn y porchell.
1688 TJ, hwch: a Sow.
1722 Llst 189, hŵch, f.p. hychod, a sow.
1771 PDPh 96, Hychod torog.
1780 W, hychig d.g. pig, a sow-pig, or young swine.
1803 P d.g. hwch, hychan, hychig.
Diar. A elo’n hwch i Rydychen, yn hwch y daw yn ôl. Hwch fud a fwyty’r soeg i gyd.

Ar lafar yn gyffredinol am wraig front neu lac ei moesau, ‘yr hen hwch fudr’, a hefyd am eneth fach sydd wedi ei baeddu ei hun yn ofnadwy, ‘Wel dyma hwch!’[25].

twrch [H. Grn. torch, gl. magalis, H. Lyd. torch, gl. uerres, Llyd. C. tourch, Llyd. Diw. tourc’h, H. Wydd., Gwydd. C. a Diw. torc: ?< IE. *tu̯orkos, cf. Afesteg θβərəsa- ‘baedd’, o’r gwr. IE. *tu̯erk- ‘torri’, cf. Gr. σάρξ ‘cnawd’] eg. (b. tyrches, ll. -i; bach. g. tyrchyn, twrchyn) ll. tyrch(od).

Mochyn dof gwryw (yn enw. un disbaidd), baedd (gwyllt); gwahadden, Talpa europea; hefyd yn ffig.:  

12g. GCBM ii. 122, Keffitor ymdwr am Drwyd—heuelyt, / T()rch teryt y ar uwyd.
13g. A 115, twrch goruc amot e mlaen ystre ystrywyawr.
14g. T 774, Credeu c()ydynt tyrch torrynt toruoed taleu.
14-15g. IGE² 294, I dwrch y dyfelir dyn, / Yng ngward ing, angor dengyn. / Pob lluniaeth, pei bell hynny, / A fyn twrch o fewn y tŷ; / … / Felly uddun’, fall Iddew, / Fal twrch am ei fola tew [Siôn Cent i’r cybydd].
c. 1400 B ii. 14, Moch na thyrchot na chynnal ony bydant rywyawc.
1547 WS, Twrch A hogge.
16g. Wiliam Llŷn: Gw (R. Stephens) 675, Ti, tyrchyn tir Llŷn a’r llost—yn llipa, / Llepian maidd y buost [i Wiliam Llŷn].
a. 1600 (1681) Rhyddiaith Gymraeg ii. 165, yn cyphesu gadw o honynt hwy y cythrel yn hir o amser yn rhith cath … neu dwrch weithie.
1632 D, Twrch, Porcus, verres, majalis.
17g. TBM 874, Ei badal ni ad wybedyn, / A’r twrch o’r ddaear y tyn [Robert ap Huw i ofyn ffon badl].
1771 PDPh 96, Dylai Tyrchod gael eu yspaddu yn chwech mis oed.
1790 Cylchg LlGC ii. 63, y Gwaith mwyaf arbennig yw y Celtic Remains … croesaw byxan a gafodd gan y rhan fwyaf … ond nid er mwyn Taeogion a thyrxod y cyhoeddwyd.
1798 T. Roberts: CG 40, A hyn i gyd o ran fod ryw gibddall dyrchod wedi gwneud cyfraith er’s cantoedd o flynyddoedd.
18-19g. IAW (LlGC) 101 49a, Boar, sow, pig … Twrch, Tyrches, Tyrchyn.
1803 P, Twrç, s. m.—pl. tyrçod … a hog; a splayed boar.

Ar lafar, ‘twrchyn … twrchod’ ‘A young castrated pig’, GDD 313; ‘Tyrchod odd y moch odd ginnyn ni’, GTN 827; hefyd yn yr ystyr ‘dyn annymunol’, ‘Yr ’en dwrchyn sarrug … ’All a ddim bod yn gwrtais i achub ’i fywyd’, GTN 827.

Clywir tyrchas yn yr ystyr ‘a doctored sow’, GTN 832.

Digwydd yn gyffredin yn y gymhariaeth ‘cysgu fel twrch(yn)’.

Mae hefyd yn elfen mewn enw lleoedd, e.e. Cwm-twrch, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, a Morgannwg/Brycheiniog, Pentyrch, Morgannwg, &c. (cf. LL 44, Ecclesiam penn tyrch)[25].

Termau eraill: mochyn (generig); hob (mochyn, hwch; ystyr eir. a gaed o fethu a sylweddoli y gallai hwch gynt olygu 'mochyn' yn gyff. ac nid 'mochyn benyw' yn unig[25]. Diddorol yw nodi yma mai mochyn gwryw yw hwch yn y Llydaweg.

Hela[golygu | golygu cod]

Mae hanes eiconig hela'r baedd yn y traddodiad Cymreig wedi ei ymgorffori yn chwedl y Twrch Trwyth yn Culhwch ac Olwen. Ceir hanes hela baedd neu gwythwch hefyd yn y Gododdin mewn glos rhyfeddol yn cofnodi suo gâni blentyn:

Pais Dinogad fraith fraith
O grwyn balaod ban wreith
Chwid chid chwidogaeth
Gochanwn gochenyn wyth geith
Pan elai dy dad di i heliaw
Llathar ei ysgwydd, llory yn ei law
Ef gelwi gŵn gogyhwg
Giff, gaff, daly daly, dwg dwg
Pan elai dy dad di i fynydd
Dyddygai ef pen iwrch, pen gwythwch, pen hydd,
Pen grugiar fraith o fynydd,
Pen pysg o raeadr Derwennydd
O'r sawl yd gyrhaeddai dy dad di a'i gigwain
O wythwch a llewyn a llwynain
Nid angai oll ni fai oradain

Gellir dehongli hela'r gwythwch yn y gân fel heliwr unigol (y tad), yn hela baedd gyda gwaywffon (llath) a phastwrn (llory). Pen- mae'n debyg yw'r fannod amhenodol hynafol, bannod nad yw'n bod yn y Gymraeg fodern ond sydd ag atgof ohono yn y Llydaweg fodern pimoch, sef mochynangen ffynhonnell. Lleolir y gerdd rhywle yn yr Hen Ogledd, ar Afon Derwennydd.

Yn nherminoleg hela Saesneg fe ddynodir baeddod wrth wahanol dermau yn ôl eu hoedran:[26]

Hyweddu[golygu | golygu cod]

Gwryw, croesiad mochyn dof/baedd gwyllt

Gydag un eithriad (y rhai yn Timor a Phapwa Gini Newydd), y baedd gwyllt yw hynafiad bridiau moch yr Hen Fyd.[27]. Dengys tystiolaeth archaeolegol i foch gael eu hyweddu o'r baedd gwyllt mor gynnar â 13,000–12,700 CC yn y Dwyrain Agos yn nyffryn y Tigris[28] lle'u rheolid yn y gwyllt nid yn annhebyg i'r modd y mae Giniwyr Newydd yn eu rheoli heddiw.[29]

Cafwyd gweddillion moch wedi eu dyddio y gyfnod cyn 11,400 BC yn Cyprus. Bernir bod yr anifeiliaid yna wedi eu cyflwyno o'r tir mawr cyfagos sy'n awgrymu hyweddu yno cyn hynny.[30] Roedd yna hefyd hyweddiad ar wahan yn Tseina tua 8000 o flynyddoedd yn ôl.[31][32]. Agryma dystiolaeth DNAo ddeunydd lled-ffosilaidd o ddannedd ac esgyrn gên mewn moch Neolithig bod y moch domestig cyntaf yn Ewrop yn hannu o'r Dwyrain Agos. Yn ei dro fe ysgogodd hyn hyweddiad y boblogogaeth leol gan arwain at drydedd hyweddiad a barodd i enynau rhai y Dwyrain Agos ddiflannu o gyff y moch Ewropeaidd. Bu cyfnewidiadau cymhleth yn hanes moch domestig modern gydag allforio'r cyff Ewropeaidd yn ôl i'r Dwyrain Agos drachrefn[33][34]

Awgryma gofnodion hanesyddol (dogfennol) i foch o Asia gael eu cyflwyno yn ystod yr 18ed. ganrif a'r 19eg ganrif gynnar.[31]

Tuedda foch domestig feddu ar benôl mwy datblygedig na'u hynafiaid gwyllt.[35]

Y Baedd Eiconig[golygu | golygu cod]

Hanes[golygu | golygu cod]

Y baedd gwyllt oedd un o hoff helfeydd ein hynafiaid. Cafodd ei hela ar droed ac ar gefn ceffyl. Cawn flas ar gyffro'r helfa hon yn hanes y Twrch Trwyth yn chwedlau'r Mabinogi. Cafodd y baedd gwyllt ei ddarganfod mewn gwaddodion Neolithig yn ogofáu Llandegla a Thremeirchion; cafwyd dau ddarn o hiwmerws y bernid wrth eu maint mai i faedd(od) y perthynent yn haenau cyn-hanesyddol isaf cloddfa Castell Dyserth[36]. Cafwyd ysgythr o faint a awgrymai faedd gwyllt ymhlith y deunydd a adawyd gan Rufeiniaid Caerwent (efallai o Goed Gwent gerllaw).[37]

Yn yr hen gofnodion Cymreig am arferion helfa'r twrch fe ddarllenwn: Penav cighely yw Carw, ac Ysgyvarnog, a Baedd Gwyllt, ac Arth. Fe'i crybwyllir hefyd yng Nghyfreithiau Hywel Dda lle y deddfyd tymor hela'r baedd i redeg o 9 Tachwedd i 1 Rhagfyr[37]

Graddol iawn y newidiodd y baedd gwyllt i fochyn dof. Cymerwyd moch o'r gwyllt o bryd i'w gilydd, ac fe'u gadawyd i ymgynnal yn rhydd yn y goedwig am ran helaeth y flwyddyn. Cyfreithiau Hywel Dda fu'n gyfrifol am reoleiddio hyn trwy ddeddfu iddynt fod yn rhydd yn y modd hwn ond o Wyl Sant Ioan ganol yr haf, i'r Calan ym mis Ionawr. Er hyn, mewn sawl man ym Mhrydain arferai foch lled-wyllt o'r fath heolgarthu, ac fe'u bernid yn gasbeth a fu'n rhaid ei reoli. Mor hwyr yn wir a 1785 gorchmynodd cyngor tref Caerdydd i neb ganiatau Sows, Boars, and Piggs [to] ramble and go about the streets to the great Nuisance of the Inhabitants of the said Town[37][38].

Ni fu'r gwahaniaeth rhwng y gwir gwythwch (neu faedd gwyllt) a'r mochyn domestig erioed yn un clir, ac er nad oroesodd y gwythwch ar ei ffurf wreiddiol heibio'r 16g, parhaodd rhai o'i nodweddion yn y bridiau domestig y cyfnodau diweddarach. Mae esblygiad llawer o'r bridiau cyfarwydd i ni heddiw yn gymharol ddiweddar.[37]

Goroesodd frîd o foch yn ucheldir yr Alban a ymdebygai mewn sawl ffordd i'r baedd gwyllt, yn ymgynnal yn rhydd ar y mynydd, ac yn aml yn ysbeilio cnydau ŷd a thatws. Roedd disgrifiad y moch hyn fel anifeiliaid â blew gwrychog ar hyd y gwar a'r cefn "grubbing up the roots of plants with their strong snouts" ac yn meddu ar gorff bychan a choesau hirion "whose food and safety depends on their activity" yn dwyn i gof foch plwyf Llanfechain ym Maldwyn fel y'u disgrifwyd yn 1872: "gaunt, long-legged, with a remarkable extension of snout. They can only be resembled to an alligator mounted on stilts, having bristles instead of scales. Their only recommendation is 'They travel well' alluding to their speed when driven along the road to market. Their length of leg might possibly might possibly enable them to compete with a greyhound".[37]

Yn olaf ceir cofnod arall drophïau yn "The Island House" yng Nghas Llwchwr, sir Gaerfyrddin[39] yn cynnwys boar skull [which] appears to be that of a genuine wild boar as exists at the present time in parts of France, Germany and other Continental countries... it seems very improbable that the skull of a tame or half-tamed pig would be preserved as a "sporting trophy" [gydag osglau ceirw a phawen blaidd] ac sydd, yn nhyb yr awdur yn tystio i bresenoldeb yr anifeiliaid hyn yn rhodio unwaith goedwigoedd de Cymru.[37]

Mytholeg[golygu | golygu cod]

Gan fod y baedd yn anifail ffyrnig a pheryglus, mae'n ymddangos ym mytholeg llawer gwlad. Ym mytholeg Gwlad Groeg, mae Heracles yn hela Baedd Erymanthia, ac mae hefyd chwedl am hela Baedd Calydonia gan nifer o gymeriadau, yn cynnwys Atalanta.

Un o'r elfennau pwysicaf yn chwedl Culhwch ac Olwen yw hanes hela'r Twrch Trwyth. Ceir straeon tebyg ym mytholeg Iwerddon hefyd. Yn chwedl Math fab Mathonwy mae Math yn cosbi Gwydion fab Dôn a'i frawd Gilfaethwy fab Dôn am dreisio Goewin a dechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Deheubarth trwy eu troi yn faedd a hwch am flwyddyn. Dychwelant gyda mab a gaiff ei fedyddio gyda'r enw Hychddwn. Ym mytholeg Hindwaeth, roedd y baedd Varaha yn un ffurf (avatar) o'r duw Vishnu.

Gwnaed defnydd o'r baedd fel symbol o ffyrnigrwydd a dewrder gan filwyr o gyfnod y lleng Rufeinig Legio XX Valeria Victrix trwy Clan Campbell yn Ucheldiroedd yr Alban hyd at unedau o lu awyr yr Unol Daleithiau heddiw.

Enwau Lleoedd[golygu | golygu cod]

Oni ddywedir yn wahanol, tynnir y data canlynol o Gronfa Ddata Melville Richards [1] Nodir ym yr atystiad cynharaf yn yr achosion lle bo dyddiad, neu fel arall, yr atystiad gyda'r mwyaf o wybodaeth. Mae'r ffurfiau gwreiddiol mewn italig.

Banwen Gwythwch, Caerfyrddin

BANWEN GWYTHWCH LLANDEILO FAWR Carmarthenshire Banwen Gwythwch IAMW INVENTORIES OF THE COMMISSION OF ANCIENT MONUMENTS IN WALES AND MONMOUTHSHIRE v.84)

Blaen Gwythwch, Caerfyrddin

BLAEN GWYTHWCH CWARTER BACH Carmarthenshire Blaen Gwythwch WR/SE/BA WILLIAM REES - MAPS 22/61(17-69))

Cwm Gwythwch, Penfro
Blwyddyn yr atystiad cynharaf yw 1586.

CWMGWYTHWCH BEIFIL, Y Pembroke Cwm Gwythwch 1586 BRONWYDD BRONWYDD MSS:

Cil Gwythwch, Llanrug
Dyddiad atystiad cynharaf i safle (fferm heddiw) Cilgwythwch yw 1572:

CILGWYTHWCH LLANRUG Caernarvonshire Kilgwythwch 1572 PORTH YR AUR PORTH YR AUR MSS 17245 SH5162 23/56(51-62)

Cwm Dwythwch, Llanberis

Dyma ran o lythyr a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru 11 Rhagfyr 1861 gan Rhodri Molwynog i'r perwyl canlynol:

".....Mr. Owen Williams, Waunfawr, [Owain Gwyrfai] hefyd, yr hwn sydd hynafiaethydd enwog, a ddywed : "Y mae yn amlwg fod yr hen Gymry yn enwi eu lleoedd yn ôl yr olwg ar sefyllfa y cyfryw le neu ardal: neu waith arall, wrth enwau creaduriaid a hanfodai yn unrhyw le; ac felly y alwyd Cwm dwythwch (Cwm gwythwch yw yr iawn enw) am fod y cyfryw le gynt yn sefyllfa arbenig i'r moch gwylltion, o herwydd amledd a mawredd y derw a dyfai yno”; canys gwythwch yw yr hen enw Cymreig ar y baedd gwyllt, megys y profa Marwnad Cynddylan ab Cyndrwyn, gan Llywarch Hen, fel y canlyn i-
Cynddylan calon gwythwch,
Pan ddisgynai yn mhrif lwch câd,
Celanedd yn ddeudrwch.
Dywed ereill mai twyth, terfyniad y gair ystwyth, neu blygedig, yw y meddwl, am fod y trumau mynyddoedd [o gwmpas Cwm Dwythwch] a'i hamgylchant yn ymddangos felly o gylch y lle."

Mae atystiadau i enw'r llecynfodd bynnag, boed y cwm ei hun, neu'r llyn cysylltiol ag ef, yn mynd yn ôl i 1303 fel Dwythwch a does dim atystiad i Gwythwch o gwbl:

LLYN DWYTHWCH, LLANBERIS Caernarvonshire piscariae lacus de Lyndoythoch 1303-4 BULLETIN OF THE BOARD OF CELTIC STUDIES (vii. 152)

Gwythwch, Penfro
Dyddiad yr atystiad cynharaf yw 1427-8

GWYTHWCH NYFER Pembroke v. Gwithwch 1427/8 BRONWYDD MSS

Taxonomeg ac esblygiad[golygu | golygu cod]

PenglogSus strozzii (Museo di Storia Naturale di Firenze), aelod Pleistosen o deulu'r Suidae a gafodd ei ddisodli gan S. scrofa

Mae astudiaethau MtDNA yn awgrymu mai o Dde-ddwyrain Asia (Indonesia ac Ynysoedd y Ffilipinau), mae'r baedd gwyllt yn tarddu, gan ymledu wedyn i dir mawr Ewrasia a gogledd Affrica.[3]. O Ewrop ac Asia daw'r ffosiliau cynharaf y rhywogaeth, ac mae rhain yn dyddio'n ôl i'r Pleistosen Cynnar.[40] Disodlwyd i raddau helaeth ei chwaer rhywogaeth S. strozzii erbyn cyfnod y Villafranchaidd gan S. scrofa.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Oliver, W.; Leus, K. (2008). "Sus scrofa". Rhestr Goch yr IUCN (IUCN) 2008: e.T41775A10559847. doi:10.2305/IUCN.UK.2008.RLTS.T41775A10559847.en. http://www.iucnredlist.org/details/41775/0. Adalwyd 13 Ionawr 2018.
  2. Oliver, W. L. R. et al. 1993. The Eurasian Wild Pig (Sus scrofa). In Oliver, W. L. R., ed., Pigs, Peccaries, and Hippos – 1993 Status Survey and Conservation Action Plan, 112–121. IUCN/SSC Pigs and Peccaries Specialist Group, ISBN 2-8317-0141-4
  3. 3.0 3.1 Chen, K. et al. (2007). "Genetic Resources, Genome Mapping and Evolutionary Genomics of the Pig (Sus scrofa)". Int J Biol Sci 3 (3): 153–165. doi:10.7150/ijbs.3.153.
  4. 4.0 4.1 Kurtén, Björn (1968). Pleistocene mammals of Europe. Weidenfeld and Nicolson. tt. 153–155
  5. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw msw3
  6. 6.0 6.1 Marsan & Mattioli 2013, tt. 75–76
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 7.5 7.6 Baskin, L. & Danell, K. (2003), Ecology of Ungulates: A Handbook of Species in Eastern Europe and Northern and Central Asia, Springer Science & Business Media, pp. 15–38, ISBN 3-540-43804-1
  8. Affenberg, W. (1981), The Behavioral Ecology of the Komodo Monitor, University Press of Florida, tud. 248, ISBN 081300621X
  9. 9.0 9.1 Heptner, V. G.; Sludskii, A. A. (1992). Mammals of the Soviet Union: Carnivora (hyaenas and cats), Volume 2. Smithsonian Institution Libraries and National Science Foundation. p. 174, 185.
  10. 10.0 10.1 Marsan & Mattioli 2013, tt. 70–72
  11. Clutton-Brock, J. (1999), A Natural History of Domesticated Mammals, Cambridge University Press, pp. 91–99, ISBN 0-521-63495-4
  12. Marsan & Mattioli 2013, tt. 26
  13. 13.00 13.01 13.02 13.03 13.04 13.05 13.06 13.07 13.08 13.09 13.10 13.11 13.12 13.13 13.14 Heptner, V. G. ; Nasimovich, A. A. ; Bannikov, A. G. ; Hoffman, R. S. (1988) Mammals of the Soviet Union, Volume I, Washington, D.C. : Smithsonian Institution Libraries and National Science Foundation, pp. 19–82
  14. 14.0 14.1 14.2 14.3 Cabanau 2001, tt. 29
  15. 15.0 15.1 Cabanau 2001, tt. 28
  16. Drabeck, D.H.; Dean, A.M.; Jansa, S.A. (June 1, 2015). "Why the honey badger don't care: Convergent evolution of venom-targeted nicotinic acetylcholine receptors in mammals that survive venomous snake bites.". Toxicon (Elsevier) 99: 68–72. doi:10.1016/j.toxicon.2015.03.007. PMID 25796346.
  17. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw marsan55
  18. "Alderney wild boar that swam from France shot over disease fear". BBC News. 14 Tachwedd 2013.
  19. 19.0 19.1 Scheggi 1999, tt. 20–22
  20. Weiler, Ulrike et al. (2016). "Penile Injuries in Wild and Domestic Pigs". Animals 6 (4): 25. doi:10.3390/ani6040025.
  21. "Eight little piggies went a-marching". Whipsnade Zoo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Awst 2016. Cyrchwyd 22 Mai 2015.
  22. 22.0 22.1 Marsan & Mattioli 2013, tt. 83–86
  23. Marsan & Mattioli 2013, tt. 87–90
  24. "Latin Dictionary and Grammar Resources". Cyrchwyd 8 Hydref 2014.
  25. 25.0 25.1 25.2 25.3 Geiriadur Prifysgol Cymru
  26. Cabanau 2001, tt. 24
  27. name="hemmer1990"
  28. Sarah M. Nelson, Ancestors for the Pigs: Pigs in prehistory (1998)
  29. Rosenberg M, Nesbitt R, Redding RW, Peasnall BL (1998). Hallan Çemi, pig husbandry, and post-Pleistocene adaptations along the Taurus-Zagros Arc (Turkey). Paleorient, 24(1):25–41.
  30. Vigne, JD; Zazzo, A; Saliège, JF; Poplin, F; Guilaine, J; Simmons, A (2009). "Pre-Neolithic wild boar management and introduction to Cyprus more than 11,400 years ago". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 106 (38): 16135–8. doi:10.1073/pnas.0905015106. PMC 2752532. PMID 19706455. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2752532.
  31. 31.0 31.1 Giuffra, E; Kijas, JM; Amarger, V; Carlborg, O; Jeon, JT; Andersson, L (2000). "The origin of the domestic pig: independent domestication and subsequent introgression". Genetics 154 (4): 1785–91. PMC 1461048. PMID 10747069. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1461048.
  32. Jean-Denis Vigne; Anne Tresset & Jean-Pierre Digard (3 Gorffennaf 2012). History of domestication (PDF) (Speech).[dolen marw]
  33. BBC News, "Pig DNA reveals farming history" 4 Medi 2007. The report concerns an article in the journal PNAS
  34. Larson, G; Albarella, U; Dobney, K; Rowley-Conwy, P; Schibler, J; Tresset, A; Vigne, JD; Edwards, CJ et al. (2007). "Ancient DNA, pig domestication, and the spread of the Neolithic into Europe". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 104 (39): 15276–81. doi:10.1073/pnas.0703411104. PMC 1976408. PMID 17855556. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1976408.
  35. Scheggi 1999, tt. 87
  36. Archaeologia Cambrensis, 1915, tud. 77
  37. 37.0 37.1 37.2 37.3 37.4 37.5 Matheson, C. (1932) Changes in the Fauna of Wales within Historic Times, Amg. Gen. Cymru
  38. Journal of the Carmarthenshire Antiquarian Society, Cyf. 1, Rh. 1, Tud. 9
  39. R.I. Pocock (dim dyddiad ond cyn 1932) The Field
  40. Ruvinsky, A. et al. (2011). "Systematics and evolution of the pig". In: Ruvinsky A, Rothschild MF (eds), The Genetics of the Pig. 2nd ed. CAB International, Oxon. pp. 1–13. ISBN 978-1-84593-756-0


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>