Goewin

Oddi ar Wicipedia
Goewin
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Man preswylCaer Dathyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Merch sy'n ymddangos yn y Pedwaredd o Geinciau'r Mabinogi, Math fab Mathonwy, yw Goewin (amrywiad, Goewyn).

Yn y chwedl mae hi'n ferch i Pebin o Ddol Pebin yn Arfon. Ni allai'r brenin Math fab Mathonwy fyw heb fod a'i draed yn ei harffed hi, heblaw mewn amser rhyfel:

Ac yn yr oes honno Math fab Mathonwy ni fyddai fyw, namyn tra fai ei ddeudroed ym mhlyg croth morwyn... Sef oedd yn forwyn gyd ag ef, Goewin ferch Pebin o Ddol Pebin yn Arfon. A honno tecaf morwyn oedd yn ei hoes o'r a wyddid yno.[1]

Arosai Goewin gyda Math yn wastad, ond ymserchodd Gilfaethwy fab Don, brawd Gwydion, ynddi. Arweiniodd hynny at gynllun gan Wydion i ddechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Dyfed er mwyn cael Math i adael y forwyn yn ei lys yng Nghaer Dathyl a rhoi cyfleu i Gilfaethwy ei chael. A dyna a wnaethant. Treisia Gilfaethwy y forwyn yng ngwely Math. Pan ddychwela'r brenin mae Goewin yn torri'r newydd iddo:

"Arglwydd," heb y Goewyn, "cais forwyn a fo is dy draed weithion. Gwraig wyf fi.".[2]

Cosbir Gwydion a Gilfaethwy am eu hanfadwaith trwy eu rhithio'n anifeiliaid am gyfnod ac mae Math yn cymryd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.

Mae rhai, yn dilyn awgrym W. J. Gruffydd yn ei lyfr Math vab Mathonwy, yn meddwl mae gwraig Math oedd Goewin yn wreiddiol. Ond ceir awgrym hefyd o fersiwn arall. Yn ôl y bardd Lewys Môn (fl. 1485 - 1527), oedd yn hyddysg yn yr hen chwedlau, Arianrhod ac nid Goewin oedd y forwyn a ddaliai draed Math yn ei harffed, sy'n awgrymu fod y bardd yn gyfarwydd â fersiwn amgen o chwedl Math fab Mathonwy sydd ar goll bellach:

Mae 'nghwyn am forwyn yn fwy
no Math Hen fab Mathonwy.
Braich un ddi-wair, brechwen, ddoeth,
fu'i obennydd ef beunoeth:
Arianrhod,—ni bu'r unrhyw—
ni byddai Fath hebddi fyw.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ifor Wulliams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930), tud. 67. Diweddarwyd yr orgraff.
  2. Pedeir Keinc y Mabinogi, tud. 74. Diweddarwyd yr orgraff.
  3. Eurys I. Rowlands (gol.), Gwaith Lewys Môn (Caerdydd, 1975), cerdd XCVII, llau. 1-6.