Gilfaethwy fab Dôn

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad yn y bedwaredd o Bedair Cainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy yw Gilfaethwy fab Dôn, brawd Gwydion fab Dôn. Mae ei fam, Dôn yn Dduwies Geltaidd sy'n chwaer i Math fab Mathonwy ac a uniaethir â'r dduwies Geltaidd Danu/Anu yn y traddodiad Gwyddelig.

Yn ôl y chwedl, ni allai Math fab Mathonwy, brenin Gwynedd ac ewythr i Gwydion, fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn, ac eithrio yn amser rhyfel. Goewin ferch Pebin oedd y forwyn yn y swydd yma ar ddechrau'r chwedl. Mae Gilfaethwy yn syrthio mewn cariad a hi ac yn dihoeni. Dyfala ei frawd Gwydion fod rhywbeth o'i le, ac wedi ei holi, mae'n darganfod ei gyfrinach ac yn addo ei helpu.

Cynllun Gwydion yw trefnu rhyfel trwy deithio i Ddyfed at Pryderi, prif gymeriad y gainc gyntaf o'r Mabinogi. Mae'n perswadio Pryderi i roi iddo y moch a gafodd gan Arawn brenin Annwfn yn gyfnewid am feirch a chŵn hela, ond wedi i Wydion adael gyda'r moch mae Pryderi'n darganfod mai rhith yw'r cŵn a'r meirch ac yn ei ymlid. Cynullir llu Gwynedd, ac yn absenoldeb Math caiff Gilfaethwy ei gyfle i dreisio Goewin yng ngwely Math. Lleddir Pryderi gan Wydion. Dychwelodd Math i Gaer Dathyl ac ar ddarganfod yr hyn oedd wedi digwydd cymerodd Goewin yn wraig iddo a rhoi llywodraeth ei deyrnas yn ei llaw hi.

Fel cosb ar y ddau frawd cymerodd Math ei hudlath a tharo Gilfaethwy "hyd onid oedd yn ewig mawr" a tharo Gwydion "hyd onid oedd yn garw". Datganodd Math: "Gan eich bod wedi eich cydrwymo fe wnaf ichwi gydgerdded, a'ch bod yn gymaredig ac o'r un natur â'r anifeiliaid gwyllt yr ydych yn eu ffurf, ac yn yr amser y byddo epil iddynt hwy fe fydd i chwithau. A blwyddyn i heddiw dewch yma ataf i." Ymhen y flwyddyn dychwelodd y carw Gwydion a'r ewig Gilfaethwy gydag elain gref yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath a throi Gilfaethwy'n faedd a Gwydion yn hwch goed a'u hanfon ymaith am flwyddyn arall. Cymerodd Math y mab a'i fedyddio gyda'r enw Hyddwn. Ar ôl blwyddyn arall dychwelodd y baedd Gilfaethwy a'r hwch goed Gwydion gydag "anifail o gryn faint...yn fawr o'i oed" yn epil iddynt. Cymerodd Math ei hudlath unwaith eto a throi Gilfaethwy'n fleiddiast a Gwydion yn flaidd. Bedyddiwyd y mab gyda'r enw Hychddwn. Dychwelodd y brodyr ymhen blwyddyn gyda chenau blaidd yn fab iddynt. Cafodd ei fedyddio gyda'r enw Bleiddwn. Dychwelodd Math y ddau frawd i'w cnawd eu hunain a dweud: "Wŷr, os gwnaethoch gam â mi, digon y buoch o dan fy nghosb".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • W.J. Gruffydd, Math Vab Mathonwy (Caerdydd, 1928). Y testun yn yr orgraff wreiddiol gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog, ynghyd ag astudiaeth fanwl a nodiadau helaeth.
  • Ifans, Dafydd & Rhiannon, Y Mabinogion (Gomer 1980) ISBN 1-85902-260-X (Sylwer fod y dyfyniadau uchod yn dod o'r diweddariad hwn yn hytrach na thestun gwreiddiol y Pedair Cainc.)
  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)