Ci

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ci
Ci Defaid Cymreig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Canidae
Genws: Canis
Rhywogaeth: C. lupus
Isrywogaeth: C. l. familiaris
Enw trienwol
Canis lupus familiaris
(Linnaeus, 1758)

Fel arfer mae'r term ci yn cyfeirio at y 'ci dof', sef y Canis lupus familiaris (neu "Canis familiaris") sy'n isrywogaeth dof o'r blaidd darfodedig bellach, a fu unwaith yn byw rhywle yn Ewrasia tua 40,000 o flynyddoedd yn ôl.[1][2] Drwy fridio dethol y ci gwyllt dros filoedd o flynyddoedd cyrhaeddwyd ei ffurf amrywiol, presennol; bridiwyd ef am wahanol resymau gan gynnwys ei synhwyrau (arogli, gweld a chlywed) ei gyflymder, ei liw a'i siâp. Amcangyfrifir fod tua 400 miliwn o gŵn yn y byd. Yr enw torfol ydy 'haid o gŵn'.

Mae'r ci wedi datblygu'n gannoedd o fridiau gwahanol o ran maint, siâp a lliw, a cheir sawl brid a ystyrir yn Gymreig gan gynnwys y corgi, y ci defaid Cymreig, y ci hela Cymreig, y daeargi Cymreig, y daeargi Sealyham a'r Sbaengi hela Cymreig. Cyfeirir yn aml at gŵn mewn hen lawysgrifau Cymraeg ac yn y Cyfreithiau Cymreig a chofnodwyd y gair am y tro cyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin yn y 13eg ganrif: Rhydderch Hael a'i gŵn cyfrwys.[3] ac yn Llyvyr Agkyr Llanddewivrevi (1346) rhoddir y cyngor: Na roddwch chwi y bara bendigedig i'r cŵn.[4] Mae'r term 'ci' yn cwmpasu'r ffurf gwyllt a'r ffurf anwes a chaiff hefyd ei ddefnyddio i ddisgrifio anifeiliaid gwyllt o isrywogaethau tebyg. Fe'i defnyddir yn ffigyrol hefyd am arwr ac ymladdwr: 'aergi' neu 'gatgi', ond yn y Beibl fe'i defnyddir am beth ffiaidd neu ddirmygus e.e. oherwydd i'r Iddew, creadur ysglyfaethus ac aflan oedd ci ac fe'i ceir ar lafar am buteiniwr ac mewn geiriau fel bolgi, cachgi, celwyddgi, chwiwgi, ieithgi ayb. Ar lafar gwlad, defnyddir y gair "ci" am y gwryw a "gast" am y fenyw.[5]

Y ci yw'r anifail hynaf i gael ei ddofi gan ddyn ac mae wedi treulio dros 33,000 o flynyddoedd yn ei gwmni,[6] mae ymddygiad ci a dyn, felly wedi addasu a chlosio'n fwy nag unrhyw anifail arall, oddigerth, efallai, i'r gath e.e. mae wedi addasu i fwyta bwyd llawn starts yn ogystal â chig - sy'n ei wneud yn unigryw ymhlith disgynyddion y blaidd cigysol.[7]

Bridiwyd y ci yn gyntaf, mae'n debyg, i chwarae rôl o fewn yr helfa - i arogli'r ysglyfaeth, i glustfeinio am sŵn dieithr, i warchod praidd neu deulu, nes y daeth yn gwmni i'r person, y bugail, y milwr. Defnyddiwyd ef hefyd i dynnu car llusg yn y gorffennol ac yn yr oes fodern i arogli cyffuriau mewn maes awyr, mewn sioeau cŵn, ymrysonau cŵn defaid, neu i dywys person dall. Oherwydd hyn, ceir disgrifiadau teg ohono mewn sawl iaith. Yn Saesneg fe'i gelwir yn 'gyfaill gorau dyn'. Mewn rhannau eraill o'r byd, fel Tsieina a Fietnam, megir y ci am ei gig.[8][9]

Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Cŵn Cymreig[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith y prif fridiau Cymreig y mae:

Termau am ast yn cwna[golygu | golygu cod y dudalen]

Map yn dangos yr amrywiaeth o dermau i ddisgrifio gast sydd ag ysfa i genhedlu.

Ceir amrywiaeth o dermau i ddisgrifio gast sy'n ysu i genhedlu, ond ddim cymaint ac a geir wrth ddisgrifio buwch neu geffyl. Fel gyda'r ddau anifail arall, mae afon Dyfi'n ffin eitha pendant rhwng y gwahanol dermau; dywedir fod gast yn 'cwna' i'r gogledd o'r ddyfi. Yn rhyfeddol, dyma hefyd a ddywedir yn ne Brycheiniog, ym Morgannwg ac yng Ngwent hefyd.

Yn yr hen Sir Fflint a dwyrain Maldwyn dywedir fod gast 'yn hel cŵn'. Yng nghanol Maldwyn ceir ynys sy'n dra gwahanol ei thafodiaith (eto, fel gyda'u hymadroddion am gaseg 'yn wyned' a'u buwch 'eisiau tarw'), dywedir fod yr ast 'yn cyneica' neu 'yn gynhaig'. Fel yn y Saesneg, mae geist Ceredigion a Chaerfyrddin 'yn boeth' a geist Penfro a chymoedd y Gwendraeth yn 'yn dwym'.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhai bridiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Arall[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ci adar: gun-dog
  • Ci aden: setter
  • Ci hir: hen enw ar y milgi
  • Ci llathaid: hen ar y corgi neu'r dachshund (De Cymru)
  • Ci arffed neu gi rhech (Ar lafar yn y Gogledd): lap-dog
  • Ci codi: ci a ddefnyddir i godi ysglyfaeth
  • Ci coed: ci gwyllt
  • Cci ysgyfarnog: harrier (ers 1774)
  • Ci cwrso: ci i ddidoli defaid a gwartheg
  • Ci setio: setter
  • Ci tom: ci yn y cartref (ers 1547)

  • Ci Bach: Canis Minor (astronomeg)
  • Ci Mawr Canis Major
  • Cŵn bendith y mamau neu gŵn wybr: cŵn y Tylwyth Teg (a oedd yn rhagflaenu cynhebryngau)
  • Ci bêr: turnspit
  • Ci bugail: ci defaid
  • Ci cadno: fox-hound -ar lafar yn y Ne Cymru
  • Y ci coch: rhan o'r enfys
  • Ci drycin: weather-dog
  • Ci Ebrill: y gylfinir
  • Pysgodyn ci glas: dogfish
  • Ci môr: dogfish (ers 1688)
  • Ci llidiart: colfach gat neu lidiart (ardal Penllyn)

Dywediadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cyn codi cŵn Caer - yn gynnar yn y bore
  • Byw fel cŵn a moch (ci a hwch): 
  • Clefyd yr hen gi - clefyd Gwenerol (Ar lafar yng ngorllewin Morgannwg)
  • Mynd i’r cŵn: pethau wedi mynd yn fler (to go to the dogs) Hefyd: Mynd rhwng y cŵn a’r brain (moch)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Wayne, Robert K. (1993). "Molecular evolution of the dog family". Trends in Genetics 9 (6): 218–224. doi:10.1016/0168-9525(93)90122-X. PMID 8337763.
  2. Skoglund, P.; Ersmark, E.; Palkopoulou, E.; Dalén, L. (2015). "Ancient Wolf Genome Reveals an Early Divergence of Domestic Dog Ancestors and Admixture into High-Latitude Breeds". Current Biology. doi:10.1016/j.cub.2015.04.019.
  3. Y cofnod gwreiddiol yn Llyfr Du Caerfyrddin (C 5716) yw: Rac dyuod. Riderch hael. ae cvn kyfruys,
  4. Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC);] adalwyd 19 Rhagfyr 2015.
  5. "Dog". Dictionary.com. http://dictionary.reference.com/browse/dog.
  6. "DNA Dates Dog Domestication Back 33,000 Years". Discovery.com. Rhagfyr 2015. http://news.discovery.com/animals/pets/dna-dates-dog-domestication-back-33000-years-151215.htm.
  7. Axelsson, E.; Ratnakumar, A.; Arendt, M. L.; Maqbool, K.; Webster, M. T.; Perloski, M.; Liberg, O.; Arnemo, J. M. et al. (2013). "The genomic signature of dog domestication reveals adaptation to a starch-rich diet". Nature 495 (7441): 360–364. Bibcode 2013Natur.495..360A. doi:10.1038/nature11837. PMID 23354050.
  8. Wingfield-Hayes, Rupert (29 Mehefin 2002). "China's taste for the exotic". BBC News. http://news.bbc.co.uk/2/hi/programmes/from_our_own_correspondent/2074073.stm.
  9. "Vietnam's dog meat tradition". BBC News. 31 Rhagfyr 2001. http://news.bbc.co.uk/2/hi/asia-pacific/1735647.stm.

Daw'r dywediadau a'r mathau gwahanol o gŵn allan o: Geiriadur Prifysgol Cymru Arlein (GPC).

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am ci
yn Wiciadur.