Epilepsi

Oddi ar Wicipedia
Trawiad epeleptig
EEG

Mae epilepsi yn gyflwr cronig sy'n effeithio ar yr ymennydd. Mae'n cael ei nodweddu gan ffitiau. I'r gwyliwr mae'r trawiadau hyn yn ymddangos fel cyfnodau o ysgwyd trwm. Yn dibynnu ar y math o drawiad, mae'r ysgwyd yn digwydd am gyfnod byr neu gall fod yn ychydig funudau.[1][2]

Mae pobl sy'n byw gydag epilepsi weithiau'n cael eu galw'n epileptig, ond yn gywir dim ond y ffit neu drawiad sy'n "epileptig".

Enwau Cymraeg[golygu | golygu cod]

Mae ymadroddion Cymraeg eraill am epilepsi yn cynnwys:[3]

  • y clefyd bendigaid
  • y clefyd cadarn
  • y clefyd digwydd (clwy’ digwydd),
  • clefyd syrthio,
  • clefyd Tegla,[4]
  • gloes lewyg,
  • gloesion mawr,
  • gwaew digwydd,
  • gwialen Grist

Ffurfiau gwahanol[golygu | golygu cod]

Mae llawer o wahanol fathau o ffitiau, ac mae yna hefyd lawer o wahanol fathau o epilepsi. Nid oes modd gwella'r rhan fwyaf o fathau o epilepsi ond yn aml gall cyffuriau wneud bywyd yn haws i bobl sy'n byw efo'r cyflwr. Mewn ychydig iawn o achosion, sy'n anodd eu trin mewn dulliau eraill, gall llawdriniaeth helpu. Mewn rhai achosion gall diet arbennig a elwir yn ddiet cetogenig helpu (diet lle mae'r rhan fwyaf o galorïau yn deillio o fraster a dim ond nifer fach o galorïau o garbohydradau); pan gafodd y diet ei ddatblygu, cafodd ei ddefnyddio yn bennaf i drin rhai plant ag epilepsi, cyn i gyffuriau cael eu datblygu; bellach, mae'n cael ei ddefnyddio i drin rhai achosion lle nad yw cyffuriau yn ymddangos i helpu.

Mae rhai ffurfiau ar y clefyd yn diflannu ar ôl amser, ee ffurfiau'n digwydd yn ystod plentyndod yn unig. Nid yw epilepsi yn un cyflwr, yn hytrach mae'n air am nifer o broblemau iechyd sydd yn achosi symptomau cyffredin.

Symptomau cyffredin[golygu | golygu cod]

Mae gan y cyflwr sawl ffurf, ond yn gyffredinol mae'r canlynol yn wir:

  • Gall pobl gael ffitiau neu gonfylsiynau cyhyrau.
  • Gellir colli rheolaeth dros y bledren a /neu'r coluddyn.
  • Efallai y byddant yn syrthio i'r llawr ac yn brifo eu hunain pan fyddant yn sefyll neu gerdded.
  • Gall pobl fynd yn anymwybodol.
  • Nid yw'r rhai yr effeithir arnynt fel arfer yn ymwybodol o'r trawiad yn digwydd.
  • Efallai na fydd pobl yn cofio hyn a ddigwyddodd iddynt neu'n gwybod eu bod wedi cael ffit
  • Mewn rhai achosion gall pobl synhwyro bod trawiad ar fin digwydd. Gelwir y teimlad arbennig yn awra; gall awra ymddangos fel merwino, diffygion gweledol, fferru, chwysu neu fynd yn ddideimlad, wedi hynny, efallai y bydd pobl yn cofio'r awra, ond nid y ffit ei hun. Fel arfer mae'r cyfnod rhwng yr awra a'r trawiad yn fyr, ond er hynny fe all roi cyfle i'r claf ddiogelu ei hun trwy orwedd, cyn cwympo.
  • Mae'r rhan fwyaf o ffitiau'n para am gyfnod byr; yr eithriad i hyn yw statws epilepticus sef trawiad hir, sy'n para dros bum munud, neu gyfres o drawiadau'r naill ar ôl y llall.
  • Nid yw atgyrchau yn gweithio tra bod pobl yn cael trawiad; efallai y byddant hefyd yn rhoi'r gorau i anadlu.
  • Mae pobl yn gallu blino'n arw ar ôl ffit ac efallai y byddent yn ddryslyd.
  • Nid yw pobl sy'n dioddef o epilepsi yn dioddef o salwch meddwl.

Mae'n cyflwr cyffredin iawn sydd wedi ei astudio llawer. Mae cyffuriau ar gyfer sawl math o epilepsi sy'n gwneud bywyd yn well i rhai yr effeithir arnynt. I gael diagnosis o epilepsi bydd raid i unigolyn cael o leiaf dau ffit, lle nad oes achos uniongyrchol dros ei gael yn amlwg. Gellir cael ffitiau nad ydynt yn cael eu hachosi gan epilepsi.

Yn y rhan fwyaf o achosion mae epilepsi yn cael ei achosi gan greithiau yn yr ymennydd. Mae rhai mathau o'r cyflwr yn cael eu hachosi gan anhwylderau genetig, a all gael eu trosglwyddo o'r rhieni i'w plant. Gall epilepsi cael ei achosi gan ddiffyg cwsg, gormod o alcohol, neu bethau eraill sy'n achosi gordyndra a straen.

Yn y rhan fwyaf o wledydd y byd ceir rheolau arbennig ar gyfer pobl sydd ag epilepsi parthed gwaith, defnyddio offer arbennig megis peiriannau a gyrru ceir a cherbydau eraill. Mae angen iddynt fod heb drawiad am beth amser cyn y gallant yrru car.

Cyffredinolrwydd[golygu | golygu cod]

Mae'r cyflwr yn gyffredin iawn gyda thua un y cant o bobl ledled y byd (65 miliwn) yn byw gydag epilepsi[5]. Mae bron i wyth deg y cant o'r holl achosion yn digwydd mewn gwledydd sy'n datblygu. Mae epilepsi yn dod yn fwy cyffredin wrth i bobl heneiddio. Yn y byd datblygedig mae'r cyflwr yn cael ei chanfod am y tro cyntaf, yn fwyaf aml ymysg babanod a'r henoed. Yn y byd sy'n datblygu mae diagnosis cyntaf yn dueddol i fod ymysg plant hŷn ac oedolion ifanc. Bydd rhwng pump a deg y cant o'r holl boblogaeth wedi dioddef trawiad direswm erbyn iddynt gyrraedd wyth deg mlwydd oed.[6] Wedi cael un ffit mae'r siawns o gael ail ffit rhwng pedwar deg a phum deg y cant.

Cyffuriau trin epilepsi[golygu | golygu cod]

Peryglon[golygu | golygu cod]

Gall pobl sy'n cael ffit epileptig yn wynebu nifer o broblemau. Y rhai mwyaf cyffredin yw:

  • Brifo eu hunain yn ystod y ffit. Mae hyn yn cynnwys torri esgyrn, a chlwyfau sy'n deillio o daro gwrthrych neu gnoi eu tafodau.
  • Gellir creu damwain yn ystod y ffit, er enghraifft syrthio oddi ar ysgol, damweiniau car, boddi wrth nofio, cael eu llosgi wrth goginio ac ati.
  • Mewn rhai achosion, mae pobl yn rhoi'r gorau i anadlu. Mewn achosion o'r fath, bydd yr ymennydd yn gallu derbyn niweidi yn arbennig os yw'r ffit yn para am gyfnod hir, neu os oes mwy nag un trawiad o'r fath yn olynol.

Enwogion ag epilepsi[golygu | golygu cod]

[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Commission on Epidemiology and Prognosis, International League Against Epilepsy (1993). "Guidelines for epidemiologic studies on epilepsy. Commission on Epidemiology and Prognosis, International League Against Epilepsy". Epilepsia 34 (4): 592–6. doi:10.1111/j.1528-1157.1993.tb00433.x. PMID 8330566. http://www.doi.org/10.1111/j.1528-1157.1993.tb00433.x.
  2. Blume W, Lüders H, Mizrahi E, Tassinari C, van Emde Boas W, Engel J (2001). "Glossary of descriptive terminology for ictal semiology: report of the ILAE task force on classification and terminology". Epilepsia 42 (9): 1212–8. doi:10.1046/j.1528-1157.2001.22001.x. PMID 11580774. http://www.doi.org/10.1046/j.1528-1157.2001.22001.x.
  3. Geiriadur Prifysgol Cymru [1] adalwyd 5 Hydref 2015
  4. Mwynhewch Sir Ddinbych Ganoloesol Eglwys y Santes Tegla a Ffynnon Sanctaidd Tegla [2] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 5 Hydref 2015
  5. Thurman, DJ; Beghi, E; Begley, CE; Berg, AT; Buchhalter, JR; Ding, D; Hesdorffer, DC; Hauser, WA; Kazis, L; Kobau, R; Kroner, B; Labiner, D; Liow, K; Logroscino, G; Medina, MT; Newton, CR; Parko, K; Paschal, A; Preux, PM; Sander, JW; Selassie, A; Theodore, W; Tomson, T; Wiebe, S; ILAE Commission on, Epidemiology (September 2011). "Standards for epidemiologic studies and surveillance of epilepsy.". Epilepsia 52 Suppl 7: 2–26. doi:10.1111/j.1528-1167.2011.03121.x. PMID 21899536.
  6. Wilden, JA; Cohen-Gadol, AA (15 Awst 2012). "Evaluation of first nonfebrile seizures.". American family physician 86 (4): 334–40. PMID 22963022.
  7. Celebrity Diseases 52 Famous People with Epilepsy [3] adalwyd 5 Hydref 2015

Rhybudd Cyngor Meddygol[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!