Cyflwr epileptig

Mae cyflwr epileptig neu status epilepticus (SE) yn ffit epileptig o fwy na phum munud neu fwy nag un ffit o fewn cyfnod o bum munud heb i'r person ddychwelyd i normal rhwng y ffitiau [1]. Gall y ffitiau fod o'r math tonig-clonig gyda phatrwm rheolaidd o gywasgu ac ymestyn y breichiau a'r coesau neu fathau nad ydynt yn cynnwys cyfyngiadau megis atafaeliadau absenoldeb neu atafaeliadau rhannol gymhleth [1]. Mae cyflwr epileptig yn gyflwr sy'n bygwth bywyd, yn enwedig os caiff triniaeth ei oedi [1].
Gall cyflwr epileptig effeithio ar y sawl sydd â hanes o fyw efo epilepsi. Mae hefyd yn gallu effeithio ar bobl sydd â phroblem sylfaenol yr ymennydd [2]. Gall y problemau sylfaenol hyn cynnwys trawma, heintiau, neu strôc ymhlith eraill [2]. Mae diagnosis yn aml yn cynnwys gwirio siwgr gwaed, delweddu'r pen, profion gwaed ac electroenceffalogram. Gall ffitiau anepeleptig seicogenig dangos symptomau tebyg i gyflwr epileptig. Mae cyflyrau eraill sy'n gallu ymddangos symptomau tebyg i gyflwr epileptig yn cynnwys: hypoglycemia, anhwylderau symud, llid yr ymennydd, a deliriwm ymhlith eraill [1].
Bensodiasepinau yw'r driniaeth gychwynnol a ddewisir fel arfer ar ôl hynny mae phenytoin yn cael ei roi [1]. Ymysg y bensodiasepinau sy'n cael eu defnyddio'n arferol mae lorazepam mewnwythiennol yn ogystal â phigiadau mewngyhyrol o midazolam [3]. Gellir defnyddio nifer o feddyginiaethau eraill os nad yw'r rhain yn effeithiol fel falporad, phenobarbital, propofol neu cetamin [1]. Efallai y bydd rhaid mewndiwbio i helpu i gynnal llwybr anadlu'r claf ar agor. Mae rhwng 10 a 30% o bobl sydd â chyflwr epileptig wedi marw o fewn 30 diwrnod [1]. Mae achos sylfaenol y ffit, oedran y claf a hyd yr atafaelu yn ffactorau pwysig sy'n effeithio ar y rhagolygon gwella. Mae cyflwr epileptig yn digwydd mewn tua 40 o bob 100,000 o bobl pob flwyddyn [2]. Mae'r cyflwr yn reswm ymweliad tua 1% o'r bobl sy'n ymweld ag adrannau brys ysbytai [1].
Rhwng 2002 a 2005 bu farw cyfartaledd o 3.63 o bobl yng Nghymru o gyflwr epileptig yn flynyddol[4].
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 Al-Mufti, F; Claassen, J (Oct 2014). "Neurocritical Care: Status Epilepticus Review.". Critical Care Clinics 30 (4): 751–764. doi:10.1016/j.ccc.2014.06.006. PMID 25257739.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Trinka, E; Höfler, J; Zerbs, A (September 2012). "Causes of status epilepticus.". Epilepsia 53 Suppl 4: 127–38. doi:10.1111/j.1528-1167.2012.03622.x. PMID 22946730.
- ↑ Prasad, M; Krishnan, PR; Sequeira, R; Al-Roomi, K (Sep 10, 2014). "Anticonvulsant therapy for status epilepticus.". The Cochrane database of systematic reviews 9: CD003723. PMID 25207925.
- ↑ Cynulliad: Cwestiynau Ysgrifenedig a atebwyd rhwng 22 a 29 Mawrth 2007 tud 49 ([dolen marw]Jocelyn Davies i Brian Gibbons) adalwyd 28 Chwefror 2018