Clefyd cardiofasgwlar
Clefyd cardiofasgwlar | |
---|---|
![]() |
|
Data cyffredinol | |
Enghraifft o'r canlynol | Clefyd ![]() |
Math | Clefyd o endid anatomeg ![]() |
Dynodwyr | |
Thesawrws NCI | C2931 ![]() |
Freebase | /M/02k6hp ![]() |
MeSH | D002318 ![]() |
UMLS CUI | C0007222 ![]() |
Arall | |
![]() |
Ystyr clefyd cardiofasgwlar yw diwrywiad yng ngweithrediad y galon a'r ,system gylchrediad gwaed fel rheol o ganlyniad i ddyddodion o atheroma'n cronni ar waliau'r pibellau gwaed. Gall y culhau dilynol yn y pibellau, a natur y dyddodion achosi pwysedd gwaed uwch, perygl uwch o dolchennau’n cylchredeg yn y gwaed (thrombosis), cyflenwad gwaed is i’r organau allweddol, yn enwedig i’r galon, llai o effeithlonrwydd o ganlyniad, sy'n arwain i ddiffyg anadl, poen yn y frest (angina), risg uwch o flociad sy'n arwain i drawiad ar y galon, a pherygl uwch o strôc neu ymlediad. Dyma'r broblem iechyd fwyaf yn y DU heddiw. Cynyddir y risg gan ffactorau genetig (h.y. os oes gennych berthynas agos sydd â chlefyd cardiofasgwlar rydych yn fwy tebygol o ddioddef ohono). Ond, gan y gall dewisiadau dull o fyw ddylanwadu ar y cynnydd mewn atheroma a'r problemau iechyd dilynol, yn cynnwys arferion deiet ymarfer, ysmygu ac yfed, yn aml ystyrir hwn hefyd clefyd dull o fyw. [1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Iechyd a GofalCymdeithasol". 2011. http://adnoddau.cbac.co.uk/Pages/ResourceByArgs?subId=16. Adalwyd 2017.