Garlleg

Oddi ar Wicipedia
Garlleg
Planhigyn garlleg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urdd: Asparagales
Teulu: Amaryllidaceae
Is-deulu: Allioideae
Genws: Allium
Rhywogaeth: A. sativa
Enw deuenwol
Allium sativa
L.

Rhywogaeth yn is-deulu Allioideae y nionyn yw Allium sativum, a elwir yn garlleg yn gyffredin. Mae ei berthnasau agos yn cynnwys y nionyn, y sialotsyn, y genhinen, a'r genhinen syfi.[1] Defnyddiwyd garlleg ers gwawr hanes a cheir cofnodion cynnar o'i ddefnydd mewn coginio a meddygaeth. Mae ganddo nodwedd lem, blas sbeislyd sy'n aeddfedu a melysu'n gryn lawer â choginio.[2]

Cysylltir y llysieuyn â Ffrainc yn draddodiadol, er i'r cysylltiad hwnnw bylu bellach gyda globaleiddio a rhannu traddodiadau bwyd.

Storfa arlleg wrth dŷ preifat yng ngogledd Ffrainc

Rhennir bwlb garlleg, y darn mwyaf o'r planhigyn a ddefnyddir, yn sawl darn llai a elwir yn glofau. Ceir rhywogaeth o arlleg sydd gyda un clof yn unig hefyd, sy'n frodorol i dalaith Yunnan, Tsieina. Defnyddir y clofau fel hedyn, am gymeriant (amrwd neu wedi'i goginio), ac am bwrpasau meddygol. Bwyteir y dail, coesynnau (llun), a blodau (bylbynnau) ar y pen (fflurwain) hefyd, ac fel arfer pan maent yn anaeddfed a thendr o hyd. Yr haenau papuraidd, amddiffynnol neu'r "groen" ar ddarnau amrywiol y planhigyn a'r gwreiddiau sy'n tyfu o'r bwlb yw'r unig ddarnau a ystyrir i fod heb ddefnydd mewn coginio.

Marchnad yn Dinan, Llydaw 2007 yn gwerthu garlleg a nionod

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Clofau garlleg

Fe'i defnyddid dros bum mil o flynyddoedd yn ôl gan yr Arabiaid, fel meddyginiaeth.[3] Mae'n llawn o Fitamin B, Fitamin C, Fitamin D, copr, sinc, alwminiwm, manganis, sylffwr a haearn. Gellir ei ddefnyddio fel antiseptig organig hefyd, neu i ostwng pwysedd gwaed uchel, sŵn yn y glust, pendro, cramp, dolur rhydd neu wynt yn y stumog. Fe'i defnyddid ers talwm, hefyd, i ladd llyngyr ac i atal gwaedlif yn y ffroenau.[4]

Dengys ymchwiliadau diweddar drwy'r byd fod garlleg yn dda i ymladd clefydau sy'n ymwneud â'r galon.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eric Block, "Garlic and Other Alliums: The Lore and the Science" (Cambridge: Royal Society of Chemistry, 2010)
  2.  Gernot Katzer (2005-02-23). Spice Pages: Garlic (Allium sativum, garlick). Adalwyd ar 2007-08-28.
  3. 3.0 3.1 [1] Prifysgol Merryland
  4. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am garlleg
yn Wiciadur.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato