Agence France-Presse
Gwedd
| Enghraifft o: | Asiantaeth newyddion |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 22 Hydref 1835, 20 Awst 1944 |
| Sylfaenydd | Charles-Louis Havas |
| Isgwmni/au | Sport-Informations-Dienst, Agence France Presse |
| Ffurf gyfreithiol | menter gyhoeddus |
| Cynnyrch | Asiantaeth newyddion |
| Pencadlys | Paris |
| Enw brodorol | Agence France-Presse |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Gwefan | https://www.afp.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02dlk9 |
Asiantaeth newyddion a sefydlwyd yn Ffrainc ym 1835 yw Agence France-Presse (AFP). Dyma'r asiantaeth newyddion hynaf yn y byd ac un o'r tair mwyaf, gydag Associated Press (AP) a Reuters. AFP yw'r asiantaeth newyddion fwyaf yn yr iaith Ffrangeg hefyd.
Lleolir pencadlys AFP ym Mharis, gyda chanolfannau rhanbarthol yn Washington D.C., Hong Cong, Nicosia, São Paulo a Montevideo a swyddfeydd lleol mewn dros 110 o wledydd. Mae'n cyhoeddi newyddion mewn chwech o ieithoedd, sef Ffrangeg, Arabeg, Saesneg, Sbaeneg, Portiwgaleg ac Almaeneg.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Gwefan AFP