Neidio i'r cynnwys

Adargi Melyn

Oddi ar Wicipedia
Adargi Melyn
Enghraifft o:brîd o gi Edit this on Wikidata
Mathci, Gun dog, Retriever Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig, Yr Alban Edit this on Wikidata
Enw brodorolGolden Retriever Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01t032 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adargi Melyn

Ci adar sy'n tarddu o'r Alban yw'r Adargi Melyn.[1] Datblygwyd yn y 19g i ddwyn adar yn ôl o'r dŵr. Mae'n boblogaidd heddiw fel anifail anwes teuluol a chi tywys i'r dall.[2]

Mae ganddo gôt drwchus sy'n hir ar ei wddf, cluniau, cynffon, a chefnau'r coesau ac o liw brown euraidd. Mae ganddo daldra o 55 i 61 cm (21.5 i 24 modfedd) ac yn pwyso 25 i 34 kg (55 i 75 o bwysau). Mae'n gi cyfeillgar ac addfwyn sy'n barod i weithio, yn gryf ac yn nofiwr da.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, [retriever].
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) golden retriever. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Medi 2014.