Maes awyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Lleoliad yw maes awyr lle mae awyrennau megis awyrennau adain sefydlog, hofrennyddion, a blimpiau yn gadael a glanio. Mewn unrhyw faes awyr ceir o leiaf un rhedfa ar gyfer awyrennau i adael a glanio, hofrenfa ac yn aml ceir adeiladau megis tyrau rheoli, awyrendai ac adeiladau gorsaf y maes awyr.

Hanes[golygu]

Y rheswm pennaf dros dwf meysydd awyr oedd gweithrediadau milwrol, yn enwedig y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ond datblydwyd llawer o feysydd awyr trwy'r 1920au a 1930au. Yr ail gyfnod o ran twf oedd yn y 1950/60au pan welwyd cynydd arall mewn teithio rhyngwladol. Trwy'r cyfnod hwn, datblygodd y maes awyr yn sefydliad llawer mwy soffistigedig.

Yng Nghymru, datblygwyd nifer o feysydd awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd: RAF Sain Tathan a adeiladwyd ym 1938, RAF Pen-bre ym 1939, RAF Fali ym 1941, RAF Rhoose (Maes Awyr Caerdydd) ym 1942, RAF Brawdy ym 1944, ac ati. Caewyd y rhan fwya ohonyn nhw yn syth ar ôl y rhyfel a mabwysiadwyd nifer gan gyrff cyhoeddus neu breifat.

Rhestr meysydd awyr Cymru[golygu]

Maes awyr is located in Cymru
Aberporth
Abertawe
Brynbuga
Dinbych
Hawarden
Hwlffordd
Llanbedr
Llandegla
Pen-bre
Rhigos
Talgarth
Y Trallwng
Mynydd Hir
Swydd Amwythig
Swydd Henffordd
Brawdy
Llandw
Llandwrog
Sealand
Ty Dewi
Meysydd Awyr Cymru

Oherwydd fod Cymru'n fynyddig, nid oes llawer o feysydd awyr yng Nghymru, ac ar y cyfan maent wedi'u lleoli o gwmpas yr arfordir lle ceir tir gwastad.

Lle Enw Defnydd ICAO Hyd
(troedfedd)
Arwyneb
Aberporth Maes Awyr Gorllewin Cymru Hedfan mewnol EGFA 3,031 Asffalt
Abertawe Maes Awyr Abertawe Hedfan rhyngwladol EGFH 4,429 Asffalt /
Concrid
Brynbuga Clwb Gleidio Gwair
Caerdydd Helipad Caerdydd Hedfan rhyngwladol EGFC 300 Concrete
Caerdydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Hedfan rhyngwladol EGFF 7,848 Asffalt
Caernarfon Maes Awyr Caernarfon Hedfan mewnol EGCK 3,543 Asffalt
Dinbych Parc Lenewi Clwb Gleidio Gwair
Hawarden Maes Awyr Hawarden Hedfan mewnol EGNR 6,702 Asffalt /
Concrid
Hwlffordd Maes Awyr Hwlffordd Hedfan mewnol EGFE 5,000 Asffalt
Llanbedr Maes Awyr Llanbedr Hedfan mewnol EGOD 7,500 Asffalt
Llandegla Clwb Gleidio Gwair
Pen-bre Maes Awyr Pen-bre Hedfan mewnol EGFP 2,614 Asffalt
Rhigos Clwb Gleidio Gwair
Sain Tathan MOD Sain Tathan Milwrol EGDX 5,988 Asffalt
Talgarth Clwb Gleidio Gwair
Y Fali Maes Awyr Môn, RAF y Fali Hedfan mewnol a Milwrol EGOV 7,513 Asffalt
Y Trallwng Maes Awyr Canolbarth Hedfan mewnol EGCW 3,346 Asffalt


Meysydd awyr hanesyddol[golygu]

  • RAF Brawdy
  • Llandw
  • RAF Llandwrog
  • RAF Sealand
  • Ty Dewi

Cyrchfannau rhyngwladol[golygu]

Mae'n bosib teithio i sawl lle drwy Ewrop a gweddill y byd o feysydd awyr Cymru, yn enwedig o Gaerdydd. Mae llawer o deithwyr yn gyrru o Gymru i Fryste, Manceinion neu Lundain i deithio gan ei fod ar y cyfan yn rhatach.[1][2]

Cyrchfannau rhyngwladol (Y Byd)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Week In Week Out Cyfnod Anodd Maes Awyr Caerdydd
  2. Newyddion BBC "Mae'r ffigurau newydd yn awgrymu bod ychydig yn fwy o deithwyr oedd yn teithio'n ôl ac ymlaen o Gymru wedi defnyddio Bryste yn hytrach na Chaerdydd yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn."
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am maes awyr
yn Wiciadur.
Air template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant awyr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.