Maes Awyr Caernarfon
| Math | maes awyr |
|---|---|
| Cylchfa amser | Ewrop/Llundain |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Caernarfon |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 4 metr |
| Cyfesurynnau | 53.1017°N 4.3375°W |
![]() | |
| Maes Awyr Caernarfon Caernarfon Airport | |||
|---|---|---|---|
| IATA: none – ICAO: EGCK | |||
| Crynodeb | |||
| Rheolwr | Air Caernarfon Limited | ||
| Gwasanaethu | Caernarfon | ||
| Lleoliad | Caernarfon, Gwynedd | ||
| Uchder | 14 tr / 4 m | ||
| Gwefan | |||
| Lleiniau glanio | |||
| Cyfeiriad | Hyd | Arwyneb | |
| tr | m | ||
| 02/20 | 3,543 | 1,080 | Asffalt |
| 08/26 | 3,077 | 938 | Asffalt |
Lleolir Maes Awyr Caernarfon (ICAO: EGCK) i'r de-orllewin o Gaernarfon yng Ngwynedd, Cymru. Mae'n faes awyr hedfan sifil.
Mae gan gwmni Maes Awyr Caernarfon Drwydded Gyffredin y CAA (Rhif P866), sy’n caniatáu hedfan gwasanaethau cludiant cyhoeddus i deithwyr gan y cwmni trwyddedig, Air Caernarfon Cyf. Dydy'r maes awyr ddim yn drwyddedig am ddefnydd yn ystod y nos.[1]
Ceir caffi mawr yn y maes awyr, yn ogystal ag awyrendai cynhaliaeth a storfa, canolfan ymwelwyr a siop, sydd yn rhan o’r Amgueddfa Awyr ar y safle. Mae Academi Awyr Gogledd Cymru a Heliganolfan Caernarfon yn ysgolion hedfan sydd wedi'u lleoli ar y safle.
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorwyd y maes awyr yn 1941 fel RAF Llandwrog. Roedd y ganolfan awyr yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi saethwyr, gweithredwyr radio a llyw-wyr, ac yn nes ymlaen fel canolfan i Wasanaeth Achub Mynydd yr RAF.[2] Am weddill yr Ail Ryfel Byd RAF Llandwrog oedd y maes awyr mwyaf yng Nghymru.
Peidiodd yr RAF ddefnyddio'r maes awyr yn 1953. Ers 2003 mae wedi bod yn gartref i hofrennydd gogledd Cymru yr elusen Ambiwlans Awyr Cymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-10. Cyrchwyd 2015-04-09.
- ↑ http://www.caernarfonairport.com/
| |||||||||||||||||||||
