Maes Awyr Rhyngwladol Kansai

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Maes Awyr Rhyngwladol Kansai o'r awyr

Maes awyr rhyngwladol mawr yn Japan yw Maes Awyr Rhyngwladol Kansai (Japaneg: 関西国際空港 Kansai Kokusai Kūkō neu Kankū yn anffurfiol; Côd maes awyr: KIX). Lleolir ar ynys artiffisial ym Mae Osaka i'r de-orllewin o ddinas Osaka ac oddi ar arfordir dinasoedd Sennan ac Izumisano a thref Tajiri yn nhalaith Osaka. Cynllunwyd y maes awyr gan y pensaer Eidalaidd Renzo Piano.

Ni ddylid ei gymysgu gyda Maes Awyr Rhynglwadol Osaka, sydd wedi ei leoli yn agosach i'r ddinas ac sydd bellach yn gwasanaethu teithiau o fewn Japan yn unig.

Flag Japan template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato