Canis Major
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
![]() |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y de yw Canis Major. "Canis Major" yw'r ymadrodd Lladin am "y ci mwyaf"; mae hyn yn ei wahaniaethu oddi wrth Canis Minor ("y ci lleiaf"), sy'n gytser llai amlwg. Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.

Mae'r cytser yn cynnwys Sirius, y seren ddisgleiriaf yn awyr y nos. Mae'r Llwybr Llaethog yn mynd trwy Canis Major, a felly mae nifer o nifylau a chlystyrau sêr yn y cytser. Ymhlith y clystyrau yw Messier 41, NGC 2354, NGC 2360 a NGC 2362. Nifwl allyrru yw NGC 2359.
-
Clwstwr sêr agored Messier 41 yn Canis Major
-
Nifwl allyrru NGC 2359 yn Canis Major
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Canis Major", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 4 Ebrill 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Canis Major", Awyr Dywyll Cymru